YN YR ŴYL ~ Y Golygydd

UNWAITH eto dyma droi'n weddol galonnog i'ch cyfarch. Mae'r gefnogaeth i'r Gymdeithas, ac o ganlyniad i'r Casglwr yn dal ar gynnydd a phleser felly yw cael ad-dalu rhywfaint i'r ffyddloniaid. Felly, gan ddechrau gyda'r rhifyn hwn, fe benderfynwyd, hyd y mae hynny'n ymarferol bosibl, i godi maint y cylchgrawn yma i ugain tudalen. Fe lwyddwyd i gyrraedd y nod y tro yma ond dibynna'r dyfodol ar eich cydweithrediad ymarferol chwi.

Ceisir gofalu bod pob cyfraniad yn un y medrir dibynnu arno - ac y mae nifer dda o ysgolheigion disgleiriaf Cymru yn ysgrifennu'n gyson. Ond cylchgrawn i bawb, yw hwn ac y mae pob cyfraniad a ddaw i law yn cael croeso mawr. Ac fel y daw'r rhifyn yma o'r wasg mae'r gwaith o baratoi rhifyn y Nadolig yn cychwyn, a'r golygydd yn gweddïo’n ddi-baid nad biliau yn unig sydd i gyrraedd efo'r postman o hyn hyd at ddiwedd y flwyddyn.

Calondid arbennig y tro hwn oedd cael croesawu cynifer o lythyrau – daliwch ati, da chi. Hefyd mae yna fwy o hysbysu anghenion yr aelodau – manion ar werth neu'n eisiau. Cofiwch eich bod yn cael rhoi'r rhain yn y papur am ddim.

Yn y Brifwyl yn Llangefni fe gynhelir holl fusnes Y Casglwr ym mhabell Gwasg Gwynedd. Cewch gyfle i gyflwyno aelodau newydd, i sicrhau ôl-rifynnau, ac i dalu eich dyledion hefyd.

Y Ddarlith

Atyniad blynyddol arall yn y Brifwyl fydd darlith flynyddol Cymdeithas Bob Owen. Fe gynhelir hon yn y Babell Len am hanner awr wedi deg fore Gwener. Y darlithydd yw Dr R. Geraint Gruffydd. Ei destun fydd y cym­eriad lliwgar hwnnw, Siôn Dafydd Rhys.

Mae croeso i bob eisteddfodwr ddod i'r ddarlith yma - a hyderwn y byddwch chwi'r aelodau fydd yn Llangefni y bore hwnnw yn eich seddi yn gynnar, canys yr oedd hi'n orlawn yn Abertawe y llynedd, pan anerchwyd gan yr Athro Brynley F. Roberts.

Hyderwn hefyd y bydd Cymdeithas Lyfryddol Cymru yn atgyfodi gyda hyn ac y bydd yn cyhoeddi darlith Abertawe, pan atgyfodir eu cylchgrawn hefyd. Bydd copïau o'r ddarlith ym Machynlleth ar Gyhoeddwyr Maldwyn ar werth ym mhabell Gwasg Gwynedd yn ystod y Brifwyl.