Y SALMAU CÂN A'R HEN DONAU gan Rhidian Griffiths

PAN gasglwyd Llyfr Emynau y ddau gyfundeb Methodistaidd a gyhoeddwyd yn 1927, corlannwyd iddo nifer dda o salmau cân Edmwnd Prys, a hynny mae'n debyg am eu bod yn enghraifft deg o'r Gymraeg glasurol a oedd wrth fodd calon golygyddion iaith a llên y gyfrol honno. Daeth ambell un yn gryn ffefryn, yn arbennig felly ei gyfaddasiadau o Salm 121,

ac o Salm 100,

Diau y gallwn gyfrif y rhain a'u tebyg gyda chlasuron llenyddiaeth y Dadeni yng Nghymru. Dangoswyd yn y blynyddoedd diwethaf mai brodor o blwy Llanrwst oedd Prys, a aned tua 1544, er mai fel Archddiacon Meirionnydd y cofir amdano fwyaf.

Bro William Salesbury oedd hon, a hwyrach fod dylanwad y Dadeni'n lled drwm ar Prys yn ei febyd. Ni feiddiwn i drafod yma allu Prys fel bardd - fe wnaed hynny gan Syr Thomas Parry ac eraill - ond diddorol efallai fyddai nodi pwynt neu ddau ynghylch y salmau cân yn gyffredinol.

Pan gyhoeddodd Prys ei salmau cân yn 1621 - ac yntau erbyn hynny'n hen ŵr - nid oedd salmau mydryddol yn beth newydd ym mhatrwm addoliad yr eglwys. Fe'u cafwyd yn y Saesneg yn y ganrif gynt, i ateb angen eglwyswyr oes Elisabeth am emynau i'w canu yn y gwasanaethau.

Gwaith Thomas Sternhold a John Hopkins oedd y salmau hyn gan mwyaf. Argraffwyd casgliad cyflawn ohonynt, gyda nodau alawon, yn 1562, dan y teitl The whole book of psalmes. Enw'r argraffydd oedd John Day, a bu ef a'i fab Robert ar ei ôl yn dal monopoli ar y gwaith nes i'r 'Stationers Company' ei feddiannu yn 1603.

Bu gwaith Sternhold a Hopkins yn hynod o boblogaidd a dylanwadol. Amcangyfrifwyd bod tua 450 o argraffiadau o gasgliad 1562 wedi eu cyhoeddi rhwng 1563 ac 1687. Nis disodlwyd tan ar ôl 1698 pan gyhoeddwyd Salmau Tate a Brady.

***

ER iddi gael ei Thestament Newydd yn 1567 a'i Beibl cyntaf yn 1588 bu'n rhaid i Gymru aros cyn cael fersiwn ganadwy o'r Salmau. Cafwyd ymgais gan William Middelton yn 1603 i gyfaddasu'r Salmau i'r mesurau caeth, ond ni chydiodd y rhain yn nychymyg cynulleidfaoedd eglwysig.

Tua'r un adeg rhoddodd Edward Kyffin gynnig ar gyfaddasiad ar fesur rhydd, `iw canu ar ôl y dôn arferedig yn Eglwys Loegr', ond mae'n ymddangos na ledaenwyd ei gasgliad ef. Gadawyd y gwaith ar ei hanner, efallai am fod Kyffin ei hun wedi marw. Y nodyn trist ar ddiwedd yr hyn a argraffwyd yw: 'Terfyn ar hynn: hyd oni threfno Duw Gymmorth ymhellach'.

Roedd y meysydd felly'n wyn i'r cynhaeaf a fedodd Edmwnd Prys. Yn 1621 cafwyd gan argraffydd dienw yn Llundain lyfr yn dwyn y teitl

Yn ei ragair i'r gwaith, a gyhoeddwyd ar y cyd â'r Llyfr Gweddi Cyffredin, esbonia Prys pam y dewisodd ymwrthod â phedwar mesur ar hugain y gynghanedd.

Yn un peth maent yn rhy gaeth, ac mae perygl colli gwir ysbryd y salm. Wedyn maent yn anaddas i gynulleidfa, am mai dim ond un all ganu cywydd neu awdl. (Beth fyddai ei farn, tybed, am gôr cerdd dant?) Yn olaf, mae'r mesur rhydd yn aros yn well ar gof y werin.

Wrth fydryddu creodd Prys ei fesurau ei hunan, y Mesur Salm 87.87, a'r Mesur Byr Cymreig 67.87, ffurfiau estynedig ar y mesurau y cenid y salmau arnynt yn Lloegr. (Mae'n werth nodi, fodd bynnag, nad yw mesur 77.77 Edward Kyffin yn annhebyg i'r Mesur Salm).

Wrth gwrs mae i Salmau 1621 arwyddocâd heblaw eu harwyddocâd llenyddol. Dyma'r llyfr Cymraeg cyntaf i gynnwys cerddoriaeth wedi ei hargraffu. Cynhwysodd Prys ddeuddeg alaw, a'u gosod ar salmau 1,2,5,6, 8-12,51,100 a 103; bwriedid, mae'n debyg, eu defnyddio ar gyfer y salmau i gyd trwy gorff y llyfr.

'Roedd y rhan fwyaf o'r alawon hyn eisoes yn adnabyddus yn Lloegr. Daethai rhai o wledydd eraill, megis yr alaw rymus 'Martyrs' (Salm 6) o'r Alban, a'r Hen Ganfed, gan Lois Bourgeois, o Sallwyr Genefa, 1551.

Cynhwyswyd yr un tonau yn argraffiadau 1630 ac 1638 o waith Prys, y naill wedi ei argraffu yn Llundain gan Robert Barker, a'r llall, eto yn Llundain, gan William Stansby dros Robert Milbourne. Ond er cyhoeddi'r salmau cân droeon wedi hynny, ni chyhoeddwyd mo'r tonau ar ôl 1638. Er enghraifft, cafwyd argraffiadau o'r geiriau yn 1648, 1656, 1687 a 1700, heb ddim cerddoriaeth ynddynt.

Go brin fod y tonau'n rhy gyfarwydd i’w hailargraffu, er y gallai cynulleidfaoedd ddefnyddio alawon seciwlar cyfarwydd, fel a ddigwyddai yn Lloegr. Efallai taw'r gost oedd yn faen tramgwydd yn y pen draw. 'Roedd gosod teip cerddorol yn dechneg anodd, a dim ond ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg y dechreuwyd perffeithio'r grefft o engrafio cerddoriaeth i'w hargraffu.

***

0 BLITH y tonau a argraffwyd gan Prys y mae pedair na chafwyd hyd iddynt mewn casgliadau blaenorol. Un o'r rhain a gafodd gryn sylw yw'r dôn a adwaenwn ni heddiw fel `St. Mary'. Olrheiniwyd ei hanes yn Tonau a'i hawduron Huw Williams ac yn Hanes canu cynulleidfaol Cymru R.D. Griffith. Ymddangosodd ar eiriau Saesneg yn 1677, yng nghasgliad John Playford, The whole book of psalms ... Cyhoeddwyd hi sawl gwaith drachefn yn Lloegr, a'i phriodoli i John Blow (1649-1708) neu William Croft (1678-1727) neu eu tebyg.

Daeth yn ôl i Gymru yn 1770, yn atodiad cerddorol Ifan Wiliam i Lyfr Gweddi'r flwyddyn honno. Cynhwysodd Owen Williams hi, dan yr enw `Derwen', yn Brenhinol ganiadau Sion (1817), a daeth Ieuan Gwyllt â hi i mewn i gorlan y Llyfr tonau cynulleidfaol yn 1859. Daliodd golygyddion Seisnig i’w phriodoli i Croft neu Blow neu arall, ac yn 1877, yn union o flaen ei farw, sgrifennodd Ieuan Gwyllt lythyr huawdl at y Musical Times yn hawlio'r alaw i Salmau Prys, ymhell cyn geni Blow na Croft. Cafwyd llythyr fis ar ôl hynny gan un 'G.A.C.' yn ategu barn Ieuan.

Erys un dirgelwch arall. Yn Salmau Prys mae'r dôn yn y modd Doraidd, hynny yw ar un o'r hen raddfeydd cerddorol (r m f s I t d' r'). Yn Playford yn 1677, ac ym mhob man wedi hynny, ceir hi yn y modd lleiaf. Paham y newid? Hwyrach am fod y dôn yn haws i’w chanu felly.

Eto tôn Doraidd yw 'Martyrs', ac y mae iddi naws gyntefig ragorol. Trueni i 'St. Mary ' golli honno. Hyd y gwn i, dim ond yn Mawl yr oesoedd (Caerdydd, 1951) y ceir hi ar ei ffurf wreiddiol, wedi ei chynganeddu gan David de Lloyd.

Ond a yw hi'n alaw Gymreig? Yn 1886 ar dudalennau'r Cerddor Cymreig mynnai Ieuan Gwyllt, yn absenoldeb prawf i'r gwrthwyneb,'fod gennym ni hawl dda i'w galw yn hen Dôn Gymreig'. Erbyn iddo sgrifennu at y Musical Times yn 1977 roedd yn fwy gofalus, ac ni hawliai fwy na bod y dôn wedi ymddangos am y tro cyntaf mewn casgliad Cymraeg.

A ddaeth hi o Gymru neu o'r Alban neu o Loegr? Sylwn ei bod ar y Mesur Cyffredin, y cenid y salmau Saesneg arno. Ac nid oedd David de Lloyd (Mawl yr oesoedd, t.181) yn rhy hyderus ynghylch ei Chymreigrwydd.

Ond gan nad oes neb, trwy wybod i mi, wedi olrhain yr alaw 'nôl cyn 1621, erys yr achos, yng ngeiriau llysoedd barn yr Alban' yn 'not proven'. Hynny yw, heb ei brofi, ond heb ei wrthbrofi chwaith.