COFIO KITTY mae Elwyn Lewis Jones

 

Yn feunyddiol fonheddig
A mwyn ei threm yn ei thrig.

LLEFARU'N huawdl wna'r llun yn yr ysgrif hon am gydnawsedd y foneddiges a fu farw yng Nghaerwys ar Ionawr 20fed eleni. Bydd llawer o ddarllenwyr Y Casglwr yn ei chofio ac yn debyg o ymateb yn gynnes i ysbryd ac arwyddocâd yr hyn a ddarlunnir.

Croeso cyson a didwyll i'w chartref hardd a hynafol ydyw un o'r cofion a'r pleserau y bydd nifer go dda o lenorion ac ysgolheigion blaenllaw Cymru yn ei drysori.

Marw mewn oedran teg a wnaeth a'i meddwl effro a diwylliedig yn glir hyd y diwedd; mor glir yn wir nes iddi fedru trafod a thafoli rhai o lenorion Cymru a Lloegr gydag aelodau o'i theulu y prynhawn union cyn iddi farw.

Saif Plas Penuchaf ynghanol glesni llonydd un o ardaloedd mwyaf dymunol yr hen Sir Fflint. Nid hawdd i ddieithryn ddod o hyd iddo ar ei daith i ddarlith yno fin nos. Ond yn y dydd, ar ôl dilyn lonydd bychain troellog a chroesi ambell ffordd Rufeinig ato, fe sylweddolwch ei fod yn wynebu bryniau Clwyd, sef Moel y Parc, Pen y Cloddiau a Moel Fama, ac i'r gorllewin fe welwch Eryri yn y pellter.

Codwyd rhannau hynaf y tŷ yn amser Harri'r VIIfed, a'r muriau cerrig trwchus ydyw'r tystion. Fe ddaeth y tŷ gyda threigl amser a phrosesau gwaddoli yn gartref i Thomas Jones o Ddinbych, ac yn y pen draw i Sir J. Herbert Lewis, Aelod Seneddol Bwrdeistref y Fflint a Chadeirydd cyntaf Cyngor Sir y Fflint, a thad Mrs Kitty Idwal Jones.

***

OHERWYDD ei geni yn Grosvenor Road, Westminster, ar Fehefin 15, 1898, treuliodd Kitty Idwal Jones ei blynyddoedd cynnar yn ymyl San Steffan a symud yn aml rhwng Llundain a Chaerwys. Â'i thad yn Aelod Seneddol Cymreig amlwg, daeth i adnabyddiaeth glos â rhai o arweinwyr amlycaf Cymru ar y pryd, gan gynnwys D. Lloyd George, Tom Ellis ac Owen M. Edwards.

Yr oedd rhai ohonynt yn ymwelwyr cyson â Phlas Penucha, ac yno hefyd y cyrchai Thomas Gee a rhai arweinwyr lleol eraill yn eu tro.

Yn Llundain, yn ysgol Uwchradd Clapham y cafodd `Kitty' ei haddysg eilradd, yna graddiodd yn ddiweddarach mewn Cymraeg a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd ei mam, Ruth Caine (Lady Herbert Lewis) yn Saesnes uniaith ac yn ferch i W.S. Caine, Aelod Seneddol.

Fe ddysgodd Gymraeg a dod yn flaenllaw yn y gwaith o sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Trwyddi hi y daeth Kitty'n gynefin â’r Alawon a'r holl draddodiad.

Yr oedd Kitty Idwal Jones yn pontio dau gyfnod a'i bywyd yn gorlifo'i ymylon mewn gwaith a gwasanaeth. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd Lady Ruth Lewis yn drefnydd cantinau i filwyr yn Llundain, a'i merch yn ei chynorthwyo.

Yn 1922, yn fuan wedi graddio fe drodd at y Genhadaeth Dramor. Nid rhyfedd oedd hynny a hithau'n meddu ar gefndir crefyddol mor gryf yng nghapeli Llundain a Chaerwys. Treuliodd rai blynyddoedd ymroddedig yn yr India (yn Lushai) a chadwodd ei chysylltiad â'r brodorion yno bron hyd y diwedd.

' Mabwysiadodd ' blentyn bach Indiaidd a pharhaodd i ohebu ag ef hyd yn ddiweddar iawn. Dychwelodd o'r India pan gafodd ei thad y ddamwain fawr a roes ben ar ei fywyd cyhoeddus ac ymaflodd mewn gwaith gyda Llywodraeth Leol a gwaith gwirfoddol yn cynorthwyo George M.Ll. Davies i liniaru tlodi'r di-waith a myfyrwyr anghenus yn ardaloedd y Rhos a Brynmawr.

***

YN 1933 priododd â'r diweddar Athro Idwal Jones a ganwyd iddynt dri o blant, sef Nest ac Olwen a Dafydd. Nest sydd yn goroesi ar hyn o bryd ym Mhenucha. Yn y Plas yng Nghaerwys y bu ar ôl 1946, yn gweithio'n ddiarbed fel ffermwraig, gwraig tŷ a noddwraig pob diwylliant creadigol, and yn arbennig y diwylliant Cymreig.

Ei hoffter pennaf o blith y cymdeithasau niferus a fynychai ei chartref oedd Cymdeithas Lenyddol Penucha Clwyd. Hi oedd y Llywydd o'r dechrau cyntaf tua deunaw mlynedd yn ôl, a deil y Gymdeithas i ffynnu.

Fe'i cofir hefyd am yr Eisteddfod arbennig a gynhaliwyd yng Nghaerwys i ddathlu pedwar can mlwyddiant eisteddfod 1568. Hi oedd sbardun yr ymdrech. Ymhellach yr oedd yn un o Lywodraethwyr y Llyfrgell Genedlaethol ac yn aelod o Bwyllgor Celfyddydau Gogledd Cymru.

Fe ŵyr y cyfarwydd nad llawer o wragedd a gynhwysir yn y Bywgraffiadur Cymreig. Ond odid y bydd hon yn un o'r rhai dethol hynny. Mynnodd gadw ei chartref yn agored yn y traddodiad uchelwrol gorau fel noddfan diwylliant a bu hi ei hun yn ddi-ffael fonheddig a llawn gras.