GEIRIADUR ANARFEROL HEN GYMRO CARTREFOL
Syr Thomas Parry yn trafod

Y MAE enw Thomas Roberts, Llwynhudol, ger Pwllheli, yn adnabyddus i bawb fel awdur y llyfr Cwyn yr erbyn Gorthrymder (1798), ymosodiad ar y gyfraith sy'n gwneud talu'r degwm yn orfodol ar bawb, a'r arian yn mynd i bocedi offeiriaid trachwantus nad ydynt yn gofalu dim am eneidiau eu praidd. Yn ddiweddar mi ddois ar draws copi o un o lyfrau llai adnabyddus Thomas Roberts.

Ganed ef yn 1767 (y mae hyn yn debycach na'r 1765-6 sydd yn Y Bywgraffiadur) yn fab i William Roberts, cyfreithiwr. Aeth oddi cartref cyn bod yn 14 oed, a chyrhaeddodd Lundain cyn hir, ac yno y bu nes ei farw yn 1841.

Yr oedd ei fab Maurice yn fachgen go nodedig - yn arlunydd, rhifyddwr, hanesydd, yn gwybod Lladin a Groeg a Ffrangeg, ac yn gwybod Cymraeg yn ddigon da i allu darllen cerddi'r Gogynfeirdd. Ond bu farw o'r ddarfodedigaeth yn ugain oed yn 1812.

Yn wahanol i Richard Morris, byddai Thomas Roberts yn ymweld â Chymru yn weddol aml. (Ni fu Richard ond unwaith yng Nghymru, a hynny 44 blynedd ar ôl ei gadael). Byddai Thomas Roberts yn aros fel rheol gyda nai iddo, William Roberts, yn y Llwyn-du, ger Pen-y-groes ym mhlwyf Llanllyfni, Arfon. Bu ef a'i wraig yng Nghymru am ddeufis yn 1806.

***

TEITL y llyfr a grybwyllais yw Geiriadur Saesneg a Chymraeg; neu Arweinydd Hawdd i'r hen Brydein-iaith, ac fe'u cyhoeddwyd yn Llundain yn 1827. Ar y ddalen weili yn fy nghopi i y mae'r geiriau "Anrheg Thomas Roberts i ei Nai Thomas Roberts Hafod y Coed. Medi 21ain 1831."

Y mae'n debyg mai'r lle o'r enw ym mhlwyf Llandwrog yw hwn, er nad oes dim sicrwydd pendant. Yr oedd gan Thomas Roberts, yr ewythr, dri brawd, Robert, Ellis ac Evan, a thebyg mai mab i un o'r rhain oedd y nai.

Yr oedd nai arall yn byw yn y Llwyn-du, fel y gwelsom, ac yr oedd yr ewythr ar delerau da â hwnnw hefyd, oherwydd bu'n aros gydag ef am ysbaid yn yr haf yn 1836. Fe ddichon fod William a Thomas yn ddau frawd, ond ar hyn o bryd ni wyddom ddim byd pendant am y naill na'r llall.

Ar yr un ddalen ar ddechrau'r llyfr y mae enw arall: "William Parry, Calsion, Llandwrog. Mhefin (sic) 2 1838." Yr wyf yn gwybod mwy am hwn, oherwydd yr oedd yn hen ewythr imi, brawd fy nhaid. Ganed ef yn 1805 a bu farw yn 1880. Ni fu erioed yn briod. Bu'n stiwart mewn gwahanol chwareli llechi, a chasglodd geiniog ddigon del – cododd res o dai ym Mhen-y-groes, ac yr oedd yn berchen ar dai yn y Rhyl.

Y mae gan Thomas Roberts ragair i’r llyfr, a dyma'r paragraff cyntaf:

Petai'r awdur hyd y fan yma heddiw, buasai wedi ei benodi'n gadeirydd y corff diffaith hwnnw, y Bwrdd Croeso.

***

Y MAE'N mynd rhagddo wedyn i egluro sain llythrennau'r wyddor Gymraeg ac esbonio ychydig ar y treigliadau. Yna ymlaen â'r geiriadur, ond nid geiriadur yn ein hystyr ni i'r gair mohono, nid rhestr o eiriau yn nhrefn yr wyddor. Yn hytrach, y mae wedi ei rannu'n adrannau, a'r geiriau perthnasol o dan bob pennawd.

Yr adran gyntaf yw 'Am y byd yn gyffredinol,' ac yma cynhwysir y Drindod, angylion, paradwys, yr haul, y lloer, y sêr, goleuni, tywyllwch, ac ymlaen.

Yr ail adran yw 'Am y pedwar defnydd', neu'r pedair elfen, awyr, dŵr, tân a daear.

Dyma rai o'r adrannau eraill: Dyddiau'r wythnos; Misoedd y flwyddyn; Am y corff dynol (adran faith); Y Pum Synnwyr; Am yr enaid, ei allwedd etc. (yr adran hwyaf o'r cyfan); Am ddillad dynion; Gwisgoedd rhianedd; ac ymlaen hyd at hanner cant o adrannau.

Ceir pennod wedyn yn dwyn y teitl 'Geiriadur gramadegol', yn cynnwys rhes hir o adferfau ac ansoddeiriau, a brawddegau yn Saesneg ac yn Gymraeg i ddangos sut y defnyddir bob un. Y mae ymysg y rhain rai idiomau Cymraeg da, fel y rhain:

Above all, do not fail to write / Yn bennaf dim, na phallwch ysgrifennu

They went groping along / Aynt rhagddynt dan balfalu

With all my heart / O lwyrfryd calon

You have put on your stockings the wrong side outwards / Rhoddasoch eich hosanau am eich traed y tu gwrthwyneb allan

Y mae eraill yn anghymreig ac annaturiol, yn anghywir yn aml:

You see our garden on this side / Gwelwch ein gardd ni ar y tu yma

I will return at ten o'clock at latest / Dychwelaf am ddeg o'r gloch, o bellaf

He will succeed sooner or later / Efe a lwydda yn gynt neu gwedi

We went in a body / Aethom mewn torf

Droeon y mae amser y ferf yn anghywir:

I wrote to his father / Ysgrifennwn at ei dad (Ysgrifennais)

I accompanied your brother / Hebryngwn eich brawd (Hebryngais)

Ym mhennod olaf y llyfr ceir deunaw o 'Ymddyddanion Hawdd', sef sgyrsiau rhwng dau, eto yn y ddwy iaith, ac ar amryfal bynciau, megis codi yn y bore, y tywydd a'r tymhorau, a'r wyth olaf yn sgyrsiau rhwng dau ar daith yng Ngogledd Cymru.

Y maent yn cychwyn o Lundain ac yn mynd trwy Rydychen, Amwythig, Croesoswallt a Chaer. Fel pawb yn yr oes honno, y maent yn rhyfeddu ac yn arswydo wrth fynd ar hyd y ffordd dros y Penmaen-mawr, 1545 o droedfeddi uwchben y môr. Wedi cyrraedd Bangor y maent yn sylwi fod yno amryw o westyau da, ac yn enwi'r Penrhyn Arms, y Castle Inn a'r Waterloo Tavern. Wedi gweld Pont y Borth a phicio i Gaergybi aethant i Gaernarfon, pen yr Wyddfa a Phwllheli.

Y mae'r llyfr yn gorffen ar t.130 gyda phatrwm o sgwrs rhwng dau deithiwr a pherchennog gwesty, yn dechrau a'r cwestiwn 'A oes ganddoch chi wair?' oherwydd ar gefnau ceffylau yr oeddent yn teithio, wrth gwrs.

***

DYNA'R hyn y mae Thomas Roberts yn ei alw'n Eiriadur Saesneg a Chymraeg, wedi ei fwriadu i Sais ddysgu Cymraeg, ac i Gymro ddysgu Saesneg hefyd. Ond rhaid cyfaddef mai bychan o help fuasai i’r naill na'r llall, oni bai ei fod yn gwybod rhywfaint o'r iaith newydd eisoes.

Yn 1827, pan gyhoeddwyd y llyfr, yr oedd dylanwad William Owen Pughe ar iaith rhai ysgrifenwyr yn gryf fawn, a dylanwad Iolo hefyd yn dechrau cyfri. Ond ychydig o'u hôl hwy a welir ar y llyfr – corelwi am ddawnsio, un o ddyfeisiadau Iolo, a dawed am ddyfod, un o greadigaethau Pughe.

Dau wendid mawr sydd ar y gwaith. I gychwyn, y mae'n hollol ddigynllun, yn yr ystyr nad oes dim un o'r amryw o restrau o eiriau ac ymadroddion sydd ynddo wedi eu gosod yn nhrefn yr wyddor nac unrhyw drefn arall.

Petai dyn yn chwilio am air arbennig, nid yn y dull arferol y buasai dod o hyd iddo. I wybod beth yw'r Gymraeg am liberality, dyweder, rhaid meddwl i gychwyn ym mha adran i chwilio amdano, a chan mai nodwedd ar gymeriad dyn, nid ar ei gorff, ydyw, rhaid troi i t.21, i ddechrau'r adran a elwir `Am yr Enaid, ei alluoedd, etc', a mynd trwy'r rhestr, a honno'n ymestyn dros ddeg tudalen, nes cael y gair ar t.29, a gweld mae'r gair Cymraeg yw 'haelioni'. Tipyn yn drafferthus yw hyn.

***

GWENDID arall yw bod yr iaith, hyd yn oed yn yr ymddiddanion, yn orlenyddol a chwyddedig.

Dyma enghraifft:

Cofier mai cyfieithiad o'r Saesneg yw hyn, a phopeth arall yn y llyfr, ac y mae'r Saesneg yn llawer mwy naturiol na'r Gymraeg, ac yn debycach i arddull siarad. Y mae'r cwbl oll yn profi un gwirionedd pwysig iawn, gwirionedd nad yw llawer o'n cydwladwyr (na'r rhai sy'n talu eu cyflogau) wedi ei sylweddoli, sef bod cyfieithu'n grefft arbennig iawn, yn gofyn astudiaeth ofalus a gwybodaeth drwyadl fanwl o'r iaith y cyfieithir iddi. Diddorol ac arwyddocaol yw fod Cymraeg gwreiddiol Thomas Roberts, fel yn Cwyn yn erbyn Gorthrymder, yn llawer mwy syml a graenus na Chymraeg y Geiriadur.