HEN DDARLLENWYR gan William H.Howells

TYBED faint ohonoch sydd wedi clywed sôn am y 'Lampeter and Vale of Ayron Reading Society'? Mae 'Philip Sydney' yn rhoi peth gwybodaeth inni am y gymdeithas mewn erthygl dan y teitl 'Library Leaves' yn y Welsh Gazette (11 Chwefror, 1904). Roedd llawer o gymdeithasau o'r math yma i'w cael ledled Prydain tua dechrau'r ganrif ddiwethaf ond ychydig iawn a wyddys amdanynt erbyn hyn.

Fe'u ffurfiwyd gyda'r amcan o brynu, gyda thanysgrifiadau blynyddol yr aelodau, nifer o lyfrau newydd i'w cylchynu yn eu plith, ac wedyn i'w gwerthu'n ôl i'r cynigydd uchaf neu i'w cadw gan yr aelod a'u harchebodd yn y lle cyntaf.

Yn ôl 'Philip Sydney', prynwyd copi o waith W.F.P. Napier, The History of the War in the Peninsula mewn dwy gyfrol (1828) gan y gymdeithas uchod yn 1830. Mae labeli printiedig y tu mewn i gloriau'r cyfrolau yn rhestru'r aelodau yn 1830 a hefyd yn 1836, ynghyd â braslun o reolau'r gymdeithas.

Llyfr arall a brynwyd gan y gymdeithas oedd The Channel Islands gan H.D. Inglis (1835) ac mae'r copi hwnnw bellach yn Y Llyfrgell Genedlaethol. Ceir ynddo restr o'r aelodau yn 1836 yn ogystal â'r rheolau yn eu crynswth.

Hyd y gwn i, dyma'r unig gopïau o lyfrau'r gymdeithas sydd wedi goroesi, ond fe ddengys y rhain fod llyfrau hanes a daearyddiaeth yn rhan o batrwm darllen yr aelodau.

***

PWY oedd aelodau'r gymdeithas arbennig hon? Yn sicr, pobl flaengar cylch Llambed oedd nifer ohonynt. Yr enw cyntaf ar y rhestr oedd `Rev. Dr. Lewellin', Prifathro cyntaf Coleg Dewi Sant, Llambed, a agorwyd yn 1827; wedyn y Parch A. 0llivant, Is-brifathro'r Coleg; a'r Parch Rice Rees, Athro Cymraeg a Llyfrgellydd cyntaf y Coleg.

Gan mai'r rhain oedd ar ben y rhestr yn 1830 yn ogystal ag yn 1836, gellir awgrymu fod sefydlu'r Coleg, gyda'r mewnlifiad o ysgolheigion a'r deffro cyffredinol ym mywyd crefyddol ac addysgol y fro, yn allweddol i ffurfio'r gymdeithas hon. O'r 32 o enwau oedd yn gysylltiedig â'r gymdeithas, roedd deg ohonynt yn barchedigion. Yr enwocaf ohonynt oedd y Parch Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion).

Yn ogystal, mae enwau aelodau teuluoedd bonedd yr ardal yn amlwg ar restr y gymdeithas, megis Col. Gwynne, Monachty, J. Jones, ysw., Derry-Ormond, Capt. Lewes, a Maj. Lewis, Llanaeron.

Dyma enwau'r aelodau eraill: J. Atwood, ysw., Aberaeron; Mrs H. Crowther; Capt. Davies; Dr. Davies; y Parch T.M. Davies; Timothy Davies, ysw.; Miss Evans, Mrs Evans, Tanygraig, Silian; D. Evans, ysw., Banc Llambed; E. Evans, ysw; y Parch John Hughes, prifathro Ysgol Ramadeg Llambed tan 1834; y Parch William Hughes, Gwnws; D.J. Jenkins, ieu., cyfreithiwr, Llambed; H. Jenkins, ysw.; y Parch T. Jones; y Parch J. Lewis, Aberaeron; J.V. Lloyd, ysw.; y Parch E. Morgan, prifathro Ysgol Ramadeg Llambed; C.A. Pritchard, ysw., H. Rogers, ysw., Gelli, Trefilan; J. Rogers, M.D., Abermeurig; F.D. Saunders, ysw.; Geo. Smith, ysw.; a C. Wynne, ysw.

***

SUT y trefnwyd y gymdeithas? Y tu mewn i glawr pob llyfr rhestrwyd enwau'r aelodau a gyferbyn a'u henwau dair colofn – ar gyfer y dyddiad derbyn, y dyddiad dychwelyd ac ar gyfer unrhyw sylwadau. Nodwyd hefyd gyfnod benthyg y llyfr – naw diwrnod i'r Channel Islands, un ar bymtheg ar gyfer y ddwy gyfrol o waith Napier.

Roedd rheolau pendant ynglŷn â chylchynu'r llyfrau.

Am faint parodd y gymdeithas yma tybed? A oes gan ddarllenwyr Y Casglwr ragor o wybodaeth am y 'Lampeter and Vale of Ayron Reading Society' neu am gymdeithasau tebyg mewn rhannau eraill o Gymru?