CIP TU ÔL I LENNI'R PAPUR BRO gan Dyfed Evans

BELLACH, y mae llawer o'r papurau bro yn tynnu at eu canfed rhifyn. Mwy rhyfeddol na'u sefydlu, efallai, yw eu parhad. Rhyw wyth mlynedd yn ôl yr oedd aml amheuwr gwangalon yn darogan eu diflaniad wedi pobiad neu ddau. Fel llawer mudiad a sefydliad Cymreig arall 'tân siafings' fyddai'r rhain hefyd.

Eithr nid felly. Mae'r papurau bro wedi dal eu tir. A mwy na hynny - wedi gwella'n rhyfeddol o ran eu diwyg a'u cynnwys a chynyddu eu cylchrediad yn sylweddol.

Mae'r Papur Pawb newydd yn ardal Talybont eisoes wedi cyrraedd y cant. Ar rif 93 y mae'r Ffynnon yn Eifionydd. Ac ar gais Golygydd Y Casglwr, gŵr yr ymgynghorwyd ag ef ar gychwyn y fenter yn yr ardal hon ym Mehefin 1976, ceisiaf roi braslun o'r hyn a olyga cynhyrchu'r papur o fis i fis.

Diau mai rhywbeth yn debyg yw'r patrwm mewn bröydd eraill hefyd, ond y mae costau rhai o'r papurau bro yn uwch o dipyn na'r eiddo'r Ffynnon gan eu bod wedi'u cysodi'n broffesiynol yn hytrach na'u teipio ar deipiadur trydan.

***

'PWYLLGOR cyffredinol' sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r papur. Yn ogystal â swyddogion arferol pob pwyllgor y mae ar hwn bobl yn dwyn teitlau a chyfrifoldebau arbennig, fel Trefnydd Gosod, Trefnydd Gwerthiant, Trefnydd Hysbysebion a Bwrdd Golygyddol.

Cyferfydd y pwyllgor yn rheolaidd ar y nos Lun gyntaf o bob mis p'run bynnag a oes materion i'w trafod ai peidio. Mae'n esgus am baned a sgwrs ac yn ffordd dda i osgoi llaesu dwylo.

Dwy ar hugain o ardaloedd sydd i'r fro, yn ymestyn rhyw ddeuddeng milltir o Lwyndyrys i Gwmystradllyn, a rhyw bum milltir ar draws o'r arfordir i Lanaelhaearn a Bryncir.

Cricieth yw'r lle mwyaf poblog o fewn y ffiniau; ceir ambell bentref go sylweddol fel Chwilog, Abererch, Y Ffôr a Garndolbenmaen hefyd, ond at ei gilydd, digon tenau yw'r boblogaeth. Y mae yng nghanol Eifionydd gorsydd helaeth heb na thŷ na thwlc ar eu cyfyl.

Gofelir am y newyddion lleol gan ohebydd ym mhob un o'r ardaloedd. Bu llawer ohonynt wrthi o'r cychwyn cyntaf ac mae'n rhyfeddol sut y daethant i feistroli'r grefft o grynhoi.

Does dim dwywaith na all gormodedd o newyddion lleol, gorfanwl fod yn ddigon i godi'r felan ar neb, yn enwedig os yw'r toreth ohonynt wedi ymddangos eisoes yn y papur lleol wythnosol.

Ond eto, y pytiau hyn, dan eu penawdau pentrefol, yw sylfaen y papur bro, ac mae modd crynhoi llawer iawn o wybodaeth ynddynt gyda'r dechneg braidd-gyffwrdd, fel petai. Arbedir llawer o ofod felly ar gyfer straeon mwy cyffredinol eu hapêl.

Pedwar aelod sydd ar Fwrdd Golygyddol Y Ffynnon. Cyferfydd y Bwrdd ddeuddydd cyn y `gosod' i drafod y deunydd. Cymer tri o'r aelodau bob un ei fis yn ei dro i ofalu am wedd y papur.

Dywed y pedwerydd aelod na all ef gofio am fanion i gyflawni gwaith felly. Nid yw hynny'n wir, wrth gwrs, ond caiff bardwn parod gan ei fod yn gyfrannwr mor doreithiog mewn straeon, a'r rheini'n aml cystal bob blewyn a'i ddramâu.

***

POBL sy'n werth y byd i Olygyddion yw colofnwyr y gellir dibynnu arnynt am gyfraniadau graenus - a chynnar. Gall Y Ffynnon ymhyfrydu mewn amryw. Dyna ichi 'Dyddiadur J.T.', er enghraifft, nad yw ei awdur, un o'r gwŷr mwyaf diwylliedig yng Nghymru, siŵr o fod, wedi methu mis o'r rhifyn cyntaf un na bod ddiwrnod yn hwyr yn anfon ei golofn i law.

Heb bobl felly i ofalu'n rheolaidd am y golofn farddol, y golofn arddio, y croesair, y dyddiadur, cornel y plant ac ati, heb eu hymroddiad a'u dyfalbarhad byddai'r gwaith yn amhosibl.

Ar wahân i ofalu am y cynnwys, rhan o waith y Bwrdd Golygyddol wrth reswm yw llunio penawdau. Ond yn hyn o beth cha' nhw ddim dewis be fynnant. Gwneir penawdau Y Ffynnon â Letraset, ac mae'r rheini'n bethau drudion iawn ac yn wastraffus hefyd gan na cheir tudalennau ohonynt wedi eu sylfaenu ar amlder llythrennau yn yr iaith Gymraeg.

Mae pob K a Q a V a Z yn wastraff llwyr a phrin ryfeddol yw nifer y llythrennau D ac Y. Rhaid osgoi defnyddio'r rheini neu mi fydd y Trefnydd Gosod yn mynd o'i ddillad ac yn ddrwg ei hwyl am ddyddiau!

Wrth lwc, fe wna hen bennawd o ryw rifyn blaenorol bennawd digon bachog ar stori newydd sbon weithiau a gellir sicrhau penawdau bychain cyffredinol fel 'Croeso' a 'Camp', 'Teyrnged' a 'Llwyddiant' a 'Diolch' ac ati yn ddigon rhad wedi'u hargraffu'n barod.

***

ER Y clywyd datgan y gall `brogarwch fod yn rhywbeth dinistriol iawn', ar straeon lleol, a hynny'n gwbl fwriadol, y mae'r pwyslais bron i gyd yn Y Ffynnon.

Ni olyga hynny na all darllenwyr a chyfranwyr draethu barn ar ddigwyddiadau yng ngweddill Cymru a gweddill y byd, ond fe osgoir fel cŵn a chleddau y mwyafrif mawr o'r llithoedd hynny a anfonir i bob papur dan haul - yr 'handouts' niferus, a meithion iawn yn aml. Does dim byd mwy andwyol i bapur na dibynnu ar y rheini yn hytrach na chwilio am ei ddefnydd ei hun.

Cychwynnodd Y Ffynnon gydag argraffiad o fil o gopïau. 0 fewn ychydig wythnosau cododd y cylchrediad i 1,200 ac o fewn ychydig fisoedd i 1,500. Dros gyfnod o flynyddoedd y sicrhawyd y deugant a hanner arall i gyrraedd y nifer presennol o 1,750.

Deuddeg tudalen oedd maint y rhifynnau cynnar. Anodd erbyn hyn yw cadw i 16 tudalen ac â'n ddeunaw ac ugain yn amlach na pheidio. Y gost o'i argraffu yw tua £12.50 y tudalen gan gynnwys y tâl am blygu a £1 yr un am wneud bromeid o'r lluniau.

Daw timau o wahanol ardaloedd i'w osod ac i roi'r tudalennau plygedig wrth ei gilydd bob mis. Rhan o gyfrinach fawr y gwerthiant wrth gwrs yw trylwyredd y trefniant dosbarthu a ddug y rhan fwyaf o gopïau i ddrysau'r darllenwyr.

Gwerthir rhai cannoedd mewn siopau yn arbennig mewn lleoedd y tu allan i'r fro, fel Pwllheli, Porthmadog, Caernarfon, Nefyn a Phenygroes. A hanner cant a phump i danysgrifwyr, rai ohonynt ym mhellafoedd byd.

***

Y TEIPYDD a'r argraffydd yw'r unig rai a gaiff unrhyw dâl. Does neb arall yn cael ceiniog am eu llafur ac mae pob car, i ba siwrnai bynnag yr â, yn mynd ar y gwynt.

Er hynny, y mae'n costio tua £2,900 y flwyddyn i gynnal yr achos. Golyga hynny gostau teipio ac argraffu un rhifyn ar ddeg (caiff pawb wyliau yn Awst), defnyddiau gosod, llogi neuaddau, postio, gwobrau, yswiriant, rhoddion, costau banc a chostau'r ddarlith flynyddol.

Yn gyfraniadau i'r coffrau eleni daeth £270 gan Gymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru, £395 gan y Swyddfa Gymreig a symiau yn amrywio o £20 i £65 gan chwe chyngor cymuned.

Rhwng hynny a'r £3 am 72mm sgwâr a godir am hysbysebion, arian y gwerthiant, £1 am gynnwys 'Diolch' yn y golofn bersonol ac ambell gyfraniad derbyniol gan garedigion, fe geidw y tu clyta i'r clawdd yn ariannol yn ddigon hwylus. Unwaith yn unig hyd yma y bu'n rhaid codi ei bris - o 8c i 10c yn Ebrill 1980.