NODAU'R ANHYGOEL BLANTOS gan Huw Williams

 

Joseph Hughes a'i frodyr fel y byddent yn ymddangos mewn cyngherddau.
O'r chwith : Joseph a David yn cyflwyno deuawd ar un delyn; John A. Hughes
(pedair oed) yn canu'r ffidil; Joseph Hughes (deg oed) a'i delyn a'i gonsertina;
David E.Hughes (chwech oed) a'i delyn - a Joseph yn perfformio consierto ar ddwy delyn.

O'R HOLL gasgliadau o alawon Cymreig a gyhoeddwyd er pan ymddangosodd y cyntaf, wedi ei lunio gan John Parry, Rhiwabon, yn 1742, mae'n debyg mai'r hynotaf ohonynt i gyd yw British Melodies ..., a gyhoeddwyd yn Llundain gan D'Almaine a'i Gwmni. Nid yw'r gyfrol hon wedi ei dyddio, ond fe gytunir fel rheol mai yn 1839 y cafodd ei chyhoeddi, sef yr un flwyddyn yn union ag y gwelodd y gyfrol gyntaf o Welsh Harper gan Fardd Alaw olau dydd.

Mae dau beth sy'n gwneud British Melodies yn gasgliad cwbl unigryw. Un yw ei fod yn cynnwys cyfansoddiadau gwreiddiol yn ogystal � threfniadau o dros ugain o alawon Cymreig, a'r cyfan, meddir, yn waith Joseph Hughes (neu 'Master Hughes' fel y'i gelwir yn y gyfrol), pan oedd hwnnw'n grwt rhwng pedair a naw mlwydd oed!

Y llall yw bod yn y gyfrol 23 o dudalennau sy'n cynnwys dros naw cant o lofnodion gwahanol danysgrifwyr mewn facsimile. Ymhlith y rhain y mae enwau amryw o Gymry blaenllaw y ganrif o'r blaen, heblaw enwau llu o offeiriaid, arglwyddi ac arglwyddesau, ac aelodau seneddol, gydag ambell un ohonynt wedi ychwanegu ei oedran ar �l ei enw!

Ac i ychwanegu at hynodrwydd y gyfrol, fe geir ynddi hefyd un dudalen yn dwyn y teitl 'Royal Page', sy'n cynnwys facsimile o lofnodion y Frenhines Victoria ac aelodau eraill o'r teulu brenhinol, gyda'r cyfan ohonynt yn mynd yn gyfrifol am bwrcasu 26 o gop�au o'r gyfrol.

***

CEIR yn y gyfrol hefyd ddarluniau o Joseph Hughes a'i ddau frawd iau, gyda phump o delynau, yn union fel y byddent yn arfer ag ymddangos yn eu cyngherddau.

Yna, yn dilyn enwau'r tanysgrifwyr, ceir caneuon gwreiddiol, y gyntaf yn g�n bur faith o ddeuddeg tudalen yn dwyn y teitl 'Llywelyn's Lament, Composed by Master Hughes from the history of Prince Llewelyn and his dog', a'r llall yn dwyn yr enw 'Pull the oar', y dywedir ei bod wedi cael ei chyfansoddi gan Master Hughes ar Afon Conwy.

Yn nesaf yn y gyfrol ceir trefniadau o dros ugain o alawon Cymreig, yn eu plith 'Gwyr Harlech' a'r 'Gadlys', ac yn olaf chwech o ddarnau a elwir yn 'Cambrian Quadrilles' ('Composed by Master Hughes from the history of Wales'), yn dwyn y teitlau 'Arthur', 'Caradog', 'Llewelyn', 'Glyndwr', 'Tudor', a 'Regina Waltz', yn cael eu dilyn gan ddau drefniant o'r Anthem Genedlaethol Seisnig, y cyntaf ar gyfer telyn, a'r ail ar gyfer llais, gyda geiriau Cymraeg a Saesneg.

***

DIAU fod digon eisoes wedi cael ei ysgrifennu am Joseph Hughes (ac am ei frodyr talentog hefyd o ran hynny), ac fel y bu iddo foddi yn Afon Hudson yn dair ar ddeg oed ym mis Mai 1841, yn dilyn cyfres o gyngherddau mewn gwahanol ganolfannau yn yr Amerig, gan gynnwys y 'White House' yn Washington.

Ond beth am y gyfrol Welsh Melodies? A yw'r cynnwys yn alawon ac yn drefniadau dilys gan fachgen rhwng pedair a naw oed? Cyn ceisio ateb y cwestiwn, credaf fod dau beth sy'n haeddu ein sylw. Y cyntaf yw bod cynulleidfaoedd mewn gwledydd heblaw Cymru yn edrych ar y Master Hughes fel rhyfeddod bychan ym myd cerddoriaeth, a'i fod yntau wedi gwneud cymaint o argraff ar wrandawyr, gan gynnwys aelodau o'r teulu brenhinol ac amryw o uchelwyr Cymru a Lloegr, fel y bu iddynt brynu nifer go dda o gop�au o'i gyfrol hynod, sy'n cynnwys eitemau y byddai'n eu canu yn y gwahanol gyngherddau.

Fe ddylid hefyd cofio bod y Master Hughes yn cael ei ystyried yn gymaint o ryfeddod gan ei genedl yn nhridegau'r ganrif o'r blaen fel y daeth yn destun yr awdl yn Eisteddfod y Bala yn 1836, - awdl a enillwyd, gyda llaw, gan Richard Parry (Gwalchmai), Llannerchymedd, a'i chyhoeddi gan Rees, Caernarfon yn 1836.

Y flwyddyn flaenorol yn Eisteddfod Llannerch-y-medd, cyflogwyd Joseph Hughes fel telynor swyddogol, ac yntau ond ychydig dros saith oed, ac yn yr Eisteddfod honno y gwisgwyd ef �'r teitl 'Blegwryd ab Seisyllt'.

Wrth ddilyn trywydd y telynor bach, ynghyd � hanes yr Eisteddfod honno trwy gymorth rhifyn 1835 o'r Gwladgarwr, fe ddysgwn rai pethau sy'n swnio'n anhygoel i'r sawl sy'n troi mewn cylchoedd eisteddfodol heddiw.

***

GŴYL ddeuddydd oedd yr Eisteddfod, yn cael ei chynnal (yn �l y North Wales Chronicle) ym mis Mehefin 1835 mewn pabell eang ger capel y Bedyddwyr yn Llannerch-y-medd.

Mae'n ymddangos mai telyn bedawl oedd y delyn y byddai'r telynor bach yn arfer ei chanu, � telyn symudiad dwbl tebyg i'r modelau hynny yr oedd cwmni Dodd o Lundain yn arfer eu masnachu, � ac yn �l Y Gwladgarwr yr oedd ei berfformiad ar y delyn honno yn Llannerch-y-medd yn un gwir gofiadwy.

I raddau helaeth iawn, y mae'n rhaid inni, felly, ddibynnu ar sylwadau ymfflamychol rhai o feirdd Cymru oedd yn canu yn nhridegau a phedwardegau'r ganrif o'r blaen cyn y gellir llawn amgyffred pa mor ddawnus mewn gwirionedd oedd y Master Hughes, er mai gwir hefyd fyddai dweud bod rhai o 'haneswyr' Cymreig y dydd, yn eu plith 'Carnhuanawc', wedi canu clodydd y telynor bach.

Ond er mor ddiddorol yw hanes y telynor, mae'r gyfrol sy'n dwyn ei enw yn bwysicach o lawer erbyn heddiw nag unrhyw orchestwaith a gyflawnodd mewn cyngerdd neu eisteddfod tua chanrif a hanner yn �l, a'r rhestr o danysgrifwyr y gyfrol honno yn fwy diddorol o lawer na'i chynnwys cerddorol.

***

BYDD llawer o'r enwau yn gyfarwydd i'r sawl sy'n gwybod y mymryn lleiaf o hanes ei wlad, yn eu plith 'Thos. Jones, Solicitor, Holywell' (sef y gŵr a gyflogai 'Gwenffrwd' cyn i'r bardd ieuanc hwnnw ymfudo i'r Amerig yn 1833); 'Aneurin Owen, Egryn' (mab William Owen Pughe); 'John Davies, Brychan' (hyrwyddwr mudiad y cymdeithasau cyfeillgar); 'J.M. Jones, Llanidloes' (John Mendus Jones, a fu'n argraffu ym Mangor yn ddiweddarach); 'Mrs Waddington of Llanover' (Gwenynen Gwent, wrth gwrs); 'Taliesin Williams, Merthyr' (mab Iolo Morganwg); a 'Revd. J. Blackwell, Manor Divy' (sef Alun y telynegwr).

Pan sylweddolir bod British Melodies wedi cael cylchrediad da yn 1839, � yn enwedig felly yn siroedd de Cymru, � mae'n syndod pa mor brin yw cop�au o'r gyfrol erbyn heddiw. Dywedodd Nansi Richards (Telynores Maldwyn) wrthyf mewn sgwrs un tro mai rhyw dri chopi'n unig o'r gyfrol oedd "mewn dwylo preifat" yng Nghymru, a bod un o'r cop�au hynny yn arfer � bod ym meddiant y Doctor Jones, Llwyn Onn, Treffynnon.

Yn 1898, tystiai Robert Griffith, Manceinion (awdur Llyfr Cerdd Dannau) fod y gyfrol yn brin, ac yn costio gini pan gyhoeddwyd hi gyntaf, a phan ymddangosodd Catalog Llyfrgell Caerdydd y flwyddyn honno, cafodd rhai o gasglwyr llyfrau'r genedl dipyn o syndod wrth weld bod John Ballinger ac Ifano Jones (o bawb!) wedi methu � dod o hyd i gopi.