ARGRAFFWYR CAERGYBI gan Dafydd Wyn Wiliam

1. WILLIAM JONES

'BU'N DILYN ychydig o bob peth' meddai rhyw gofiannydd dienw am Wiliam Jones (1806-77). ('Byr Cofion am Aelodau ymadawedig Capel Bethel (B. Caergybi) gan Cyfaill' – llawysgrif ym meddiant y Parchedig John Rice Rowlands.) Ie, dyn aflonydd odiaeth oedd Wiliam Jones. Ganed ef yn Llanfaethlu,.Môn. Ymunodd â'r Bedyddwyr a chafodd fedydd trochiad yn 1824. Ordeiniwyd ef yn Weinidog yn 1839, eithr ni welais dystiolaeth iddo gymryd gofal Eglwys neu Eglwysi.

Dywedir iddo fynd i Gaernarfon ac oddi yno i Lerpwl lle y cyfarfu â'i ddarpar wraig Margaret (1810-82). Roeddynt wedi priodi erbyn 1829. Yn 1841 preswylient hwy a'u pedwar plentyn yn Nhollborth ('Toll Bar') Llanfair Pwllgwyngyll a disgrifir y tad yn rhwymwr llyfrau.

O droi i Gyfrifiad 1851 Caergybi fe welir cymaint o grwydryn fu Wiliam Jones. Ganed ei ferch hynaf Liza (21 oed) ym Manceinion, Joseph (17 oed) a Margaret (15 oed) yn Llanfaethlu, Sarah (13 oed), Hugh (7 oed) ac Alice (4 oed) yn Llanfair Pwllgwyngyll, Wiliam (10 oed) yn Llanllechid, ac Ann (2 oed) yng Nghaergybi.

Awgrymir mai'r hyn oedd i gyfrif am ei symudiadau aml oedd ei fod 'gyda'r tollbyrth'.

Heblaw bod yn arwerthwr, pregethwr, ceidwad tollbyrth, a llyfr-rwymydd, bu Wiliam Jones yn argraffydd, cyhoeddwr a chyfieithydd llyfrau o'r Saesneg. Tybed a oedd a wnelo'r tymor a dreuliodd yng Nghaernarfon rywbeth â'i benderfyniad i ymroi i argraffu? Go brin y buasai wedi mentro i fyd argraffu heb rhyw gymaint o brofiad.

***

PAN OEDD yn byw yn Llanfair Pwllgwyngyll fe gyflwynodd gais, dyddiedig 11 Mai 1847, i Lys Chwarter Sesiwn Môn i sefydlu gwasg yn y pentref hwnnw:

(Archifdy Môn, Papurau Chwarter Sesiwn, Easter 1847.)

Ymddengys fod y cais wedi ei ganiatáu oherwydd gwelais un llyfryn â'r argraffnod Llanfair arno (gw. Atodiad). Ni fu'r wasg yn hir yn Llanfair Pwllgwyngyll. Ar 14 Mehefin 1848 fe gyflwynodd Wiliam Jones gais arall i Lys y Chwarter Sesiwn i gael sefydlu ei wasg yng Nghaergybi. Caniatawyd y cais hwn eto a rhwng 1884 a 1860 bu'n argraffu yn London Road.

Ar gefn y llyfryn a argraffwyd yn Llanfair Pwllgwyngyll ceir y nodyn hwn:

William Jones, Argraffydd a Chyhoeddydd, London Road, Caergybi, A ddymuna hysbysu ei gyfeillion, a'r cyhoedd yn gyffredinol, ei fod yn ddiweddar gwedi helaethu ei Swyddfa, ac ychwanegu llawer at gyflawnder ei gelfi argraffu, mewn llythyrenau, &c., fel y mae yn alluog yn bresennol i gario y gwaith o Argraffu yn mlaen yn ei holl rannau gyda chywirder, harddwch, a buander, ac am y prisiau mwyaf rhesymol ...

Yr oedd yr argraffydd yn llawn brwdfrydedd. Credaf fod penderfyniad Evan Jones a Lewis Jones i sefydlu gwasg argraffu yng Nghaergybi yn 1857 wedi tarfu ar lwyddiant Wiliam Jones.

***

LLYFRAU a llyfrynnau crefyddol oedd holl gynnyrch gwasg Wiliam Jones a diddorol yw sylwi mai Bedyddwyr oedd awduron rhai ohonynt, gwŷr fel y Parchedig Wiliam Morgan (1801-72), Caergybi a'r Parchedig Hugh Williams (1797-1866), Amlwch.

Hefyd cyfieithodd Wiliam Jones waith y Bedyddiwr, Benjamin Keach a dichon mai ef hefyd a gyfieithodd waith y Parchedig H. Grattan Guinnes ar 'Fedydd' i'r Gymraeg. Bu'r argraffydd a'r cyhoeddwr o Gaergybi yn deyrngar i'r enwad y perthynai iddo.

Un o feibion Wiliam Jones oedd y Parchedig Joseph Jones ('Iolo Môn' 1833-82). (Gw. ei hanes gan R. Môn Williams Enwogion Môn (1913) t. 56.) Bu farw Wiliam Jones 13 Medi 1877 yn 71 oed a chladdwyd ef ym mynwent Soar (B) Llanfaethlu. Dywed yr arysgrif ar garreg ei fedd iddo fod yn Weinidog gyda'r Bedyddwyr am 38 mlynedd.

Bu farw Margaret ei briod 1 Awst 1882 a chladdwyd hi yn yr un beddrod â'i gŵr. (Ceir nodyn byr amdani yn The Holyhead Weekly Mail And North Wales Observer 5 Awst 1882.)

ATODIAD
Cynnyrch gwasg Wiliam Jones yn Llanfair Pwllgwyngyll 1847-48:

*Cyfarwyddydd Yr Ieuengctyd. Neu Arweinydd I Ddeall Rheolau, Y Gramadeg Cymreig: Yn Cynnwys Eglurhad Ar Y rhannau ymadroddion, Tarddiad geiriau, Yn nghyd a chyfarwyddiadau, I Ddarllen Ac Ysgrifenu Cymraeg, Yn Gywir A Rheolaidd. Gan Iorwerth Glandulas. (dim dyddiad cyhoeddi) Llanfair: Argraffwyd Tros Yr Awdwr, Gan W. Jones. Pris, Chwe' cheiniog.

*Y Llyfr Cyntaf, yn cynnwys yr A,B,C, i Blant. Pris 4 ceiniog y dwsin.

*Yr Athraw Sabbothol; Rhan Gyntaf, yn cynnwys Yr Egwyddor, Geiriau unsill, yn nghyda gwersi i sillebu un a dau sill, ac ychydig ddarlleniad. Pris 9 ceiniog y dwsin, neu 4 swllt y cant.

*Yr Athraw Sabbothol; Ail Ran ... yn nghyda gwersi i sillebu o un hyd naw Sill ...

Cynnyrch gwasg Wiliam Jones yng Nghaergybi 1848-60:

*Yr Athraw; Neu, Gyfarwyddyd I Gymro I Ddysgu Y Iaith Saesonaeg, Yn yr hwn yr Eglurir Llythreniaeth, Geiryddiaeth, Acenyddiaeth, a Sillebiaeth Y Iaith Saesonaeg ... Gan John Humphreys (1848) Caergybi: Argraffwyd Gan William Jones, London Road.

Rhodd Athraw i ei Ddysgybl, neu Holwyddoreg i Blant yr Ysgolion Sabbothol. Pris Ceiniog, neu Bedwar Swllt y cant.

Cysondeb y Ffydd; Neu Dduwinyddiaeth Ysgrythyrol, Yn Cael Ei Dangos, Ei Phrofi, A'i Chymhwyso, Mewn Cyfres 0 Bregethau Ar Amrywiol Wirioneddau Pwysfawrocaf Y Grefydd Ddadguddiedig. Gan William Morgan, Caergybi. (1850) i (tt. 350); ii (tt. 322) Caergybi: William Jones, Argraffydd a Chyhoeddydd.

Pryddest ar labyddiad Stephan. Testyn yn Eisteddfod Llanerchymedd Rhag. 26. 1849. Gan 'Edwin...' William Williams, Llanerchymedd (Gwilym Ddu. Arfon) Cyhoeddedig gan Owen Pugh, Llanerchymedd. (1850) Caergybi Argraffwyd gan W. Jones London-Road.

Darlithiau Ar Lyfr Y Dadguddiad: A Draddodwyd Yn Amlwch, Yn Y Flwyddyn 1848, Gan Hugh Williams. (1852) Caergybi: Argraffwyd A Chyhoeddwyd Gan W. Jones. tt. 252.

Teithiau Gwir Dduwioldeb, 0 Ddechreuad Y Byd Hvd Yr Amser Presenol; Mewn Dammeg: Yn Dangos Pa Beth, Yw Gwir Dduwioldeb, Y Gwrthwynebiadau, Y Dirmyg, A'r Erlidigaethau, A Gyfarfu Ag Ef Yn Mhob Oes ...Gan Benjamin Keach. Wedi ei gyfieithu o'r pumed Argraffiad Seisnig, gan W. Jones. (1954) Caergybi: Argraffwyd A Chyhoeddwyd Gan W. Jones. tt. 179.

Amddiffyniad Bedydd Y Crediniol Anerchiad A draddodwyd yn Nghapel Somerset Street, Bath, Medi 29ain, 1860, cyn ei fedyddio, Gan Y Parch. H. Grattan Guinness, 0 New College, St John's Wood (d.d.) Caergybi: Cyhoeddwyd, Gan W. Jones, London Road. tt. 15.

Ffon Duw Yn Llaw Dyn: Neu Addewidion I'r Cristion Mewn Trallodau Bywyd. Gan John Rowlands, Maelog, Môn. (d.d.) Jones, Argraffydd, &c. Caergybi.

*Dynoda'r arwydd hwn nad oes gennyf gopi o'r llyfr-llyfryn.