EINIOES Y GAZETTE gan Richard E.Huws

BU'N BOLISI gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ers llawer blwyddyn i sianelu cryn dipyn o'i hadnoddau ariannol i sicrhau copïau microffilm a microfiche o lyfrau, cylchgronau a phapurau newydd, yn ogystal â llawysgrifau a defnyddiau eraill, i lenwi bylchau yn ei daliadau.

Mewn perthynas â phapurau newydd a chylchgronau, fe ddefnyddir y dull hwn yn amlach na pheidio i gwblhau rhediadau anghyflawn, a phrin iawn yw'r achlysuron hynny lle mae'n ofynnol i'r Llyfrgell brynu set gyflawn o gyfnodolyn Cymreig. Fodd bynnag, yn ddiweddar trefnodd y Llyfrgell i archebu copïau o bapur newydd Cymreig nad oedd yn ffurfio rhan o'i daliadau.

Byrhoedlog ond diddorol fu hanes y Carmarthen County Gazette,, a chedwir yr unig rifynnau a welais, a gynrychiola ffeil gyflawn, yn Archifdy Dyfed yng Nghaerfyrddin.

Ymddengys yn ddigon posibl fod y ffeil hon yn unigryw gan na restrir y Gazette yng nghatalog casgliad papurau newydd y Llyfrgell Brydeinig (Colindale), ac ni cheir cyfeiriad ato o gwbl yn A guide to local newspapers in Dyfed, rhestr gyfun o ddaliadau llyfrgelloedd ac archifdai'r Sir, yn ogystal â'r Llyfrgell Brydeinig, a gyhoeddwyd heb gynnwys ei dyddiad argraffu, gan Archifdy Dyfed sawl blwyddyn yn ôl.

***

WEDI marwolaeth Walter Spurrell yn 1934, daeth cysylltiad ei deulu â'r wasg nodedig a sefydlwyd yn 1840 gan ei dad William Spurrell (1813-1889) i ben. Prynwyd y busnes gan ŵr o Landeilo, y Capt. J. W. Nicholas (1894-1943), a fu ar ôl gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr (1914-1918) yn dilyn gyrfa fel newyddiadurwr yn Llundain ar staff George Newnes, lle'r oedd yn bennaf gyfrifol am olygu erthyglau a gyfrennid i golofnau Country Life.

Ymdrechodd yn galed a digon diffuant i geisio parhau llwyddiant Gwasg Spurrell, a chadwodd yr argraffeb 'W. Spurrell a'i Fab' ar ei holl gynnyrch. Ond ymddengys mai ei uchelgais pennaf oedd dringo'r ysgol wleidyddol, ac yn ystod mis Ebrill 1938 cymerodd ddau gam pwysig i'r cyfeiriad hwnnw, pan etholwyd ef yn gynghorydd sir, a'i fabwysiadu'n ddarpar ymgeisydd seneddol Torïaidd dros etholaeth Penfro.

Tybir mai ei uchelgais wleidyddol oedd yn bennaf gyfrifol am ei ymdrech aflwyddiannus yn 1937 i ledu ei ddylanwad trwy fentro i fyd cyhoeddi papurau newydd.

Yn ystod y flwyddyn honno llwyddodd asient hysbysebu o'r enw Purrier, a logai swyddfa uwchben Burton Chambers yng Nghaerfyrddin, i ddwyn perswâd ar Nicholas i fentro argraffu newyddiadur wythnosol i wasanaethu'r Sir gyfan, ac a fyddai ymhen amser yn llwyr ddibynnol ar arian hysbysebion i'w gynnal.

Er na fu gan Wasg Spurrell erioed beiriannau linotype, a ystyrid yn fwy addas i argraffu newyddiaduron, cytunodd Nicholas i fod yn bartner yn y fenter, a chyhoeddwyd rhifyn cyntaf y Carmarthen County Gazette ar 7 Hydref 1937. Rhoddwyd y cyfrifoldeb o gasglu'r incwm o'r hysbysebion ar ysgwyddau Purrier, a thalwyd cyfran o'r cyfanswm i Nicholas am ofalu am yr argraffu.

Fel newyddiadurwr profiadol cyfrannodd Nicholas nifer o erthyglau i'r papur yn ogystal, ond fe'i golygwyd gan J. Malcolm Lodwick, gŵr busnes lleol a fu ar un adeg cyn hynny'n is-olygydd ar staff The Manchester Guardian. (Mae ei fab Victor G. Lodwick heddiw'n rhedeg busnes 'The Gift Shop' yng Nghaerfyrddin, ac yn berchen ar wasg St. Peter's Press, sy'n cyflenwi nifer o anghenion lleol.)

***

GWERTHWYD rhifyn cyntaf y Carmarthen County Gazette am 1d., anelwyd at gylchrediad o 10,000, a honnai'r golygydd fod y papur yn 'sturdy little fellow, with big wide inquisitive eyes, full of ideas for getting out of its cradle to see that people get fairplay'.

Ni chodwyd tâl am y rhifynnau dilynol, ac fe'u rhoddwyd yn nwylo dosbarthwyr lleol i'w rhannu'n rhad ac am ddim ar hyd a lled Sir Gâr.

Ond fe ymddengys na chyrhaeddodd ei briod ddarllenwyr bob tro. Roedd yn naturiol, er enghraifft, i Nicholas drefnu i'r papur gael ei gylchredeg yn Llandeilo, ei gymdogaeth ei hun, a bu'n ddirgelwch iddo am beth amser fod cyn lleied o'i ffrindiau a'i gydnabod wedi sôn am y cyhoeddiad newydd wedi i fwy nag un rhifyn ymddangos.

Ar ôl gwneud ymholiadau pellach darganfu fod llond tair sach o'r papur wedi'u taflu i Afon Tywi ger pont y dref!

Efallai mai fel canlyniad i'r digwyddiad hwn y penderfynodd Nicholas mai ofer oedd parhau i gyhoeddi'r papur, a chan i Purrier dynnu allan o'r cytundeb ar ôl argraffu ond pedwar rhifyn, rhaid oedd dirwyn y newyddiadur i ben wedi ymddangosiad y deuddegfed rhifyn ar 23 Rhagfyr 1937.