OES AUR YR HEN DYNWYR LLUNIAU ~
gan Iwan Michael Jones

YN YSTOD ail hanner y ganrif ddiwethaf daeth y ffotograff o fewn cyrraedd ariannol y rhan fwyaf o bobl. Byddai teulu parchus yn oes Fictoria yn cadw albwm i ddiogelu lluniau eu cyfeillion a'u perthnasau – ceir enghreifftiau mewn siopau llyfrau ail-law hyd heddiw.

I ddiwallu'r galw am luniau sefydlwyd stiwdios ffotograffig ym mhob tref yng Nghymru. Cafodd y ffotograffydd proffesiynol oes aur a barodd hyd ddechrau'r ganrif hon, nes daeth y camera yn beth hwylus i'w ddefnyddio gan amaturiaid.

***

CYMHAROL ddrud oedd y ddwy broses ffotograffig gynharaf, y daguerrotype a'r calotype. Nifer bychan o ffotograffwyr proffesiynol a ddefnyddiai'r daguerrotype ym Mhrydain, ac yr oedd y calotype yn fwyaf poblogaidd ym mhlith cylch cyfyngedig o amaturiaid cefnog.

Yna yn 1851 darganfuwyd proses newydd 'collodion' gan Frederick Scott Archer. Toddiant o 'guncotton' mewn ether oedd collodion. Yr oedd yn fodd i gadw haen o nitrad arian ar un ochr i blât gwydr ac felly'n creu negydd gwydr. Yn ystod y 1850au enillodd y broses ei phlwyf fel y gorau o brosesau ffotograffig y cyfnod, gan ddisodli'r daguerrotype a'r calotype.

Er mwyn gostwng prisiau dyfeisiwyd ffyrdd i wneud nifer o negyddion bychain ar un plât, gan gwmni Disdieri yn Paris ymysg eraill. Yn 1859, tra'n rhyfela yn erbyn Awstria, aeth Napoleon III i gael tynnu ei lun yn stiwdio Disdieri, ac yna dosbarthu i'w filwyr nifer mawr o ffotograffau bychain ohono'i hun, wedi'u gosod ar gerdyn.

Cydiodd y cardiau bychain – y 'cartes-de-visite' – yn ffasiwn y dydd a chynyddodd busnes Disdieri yn syfrdanol. Dywedir bod ganddo stoc o 65,000 o bortreadau o enwogion yn 1868.

Erbyn hynny yr oedd stiwdios wedi agor drwy Gymru: unarddeg yn Abertawe, naw yng Nghaerdydd, pump yng Nghasnewydd, pump ym Merthyr, pedwar yn Llandudno a phedwar yn Aberystwyth.

Llun y cerddor Brinley Richards a dynnwyd gan W.Griffiths ('Tydain) tua 1863

***

CYFRINACH y twf aruthrol hwn oedd pris y cartes-de-visite. Cost arferol un carte oedd chwecheiniog, i'w gymharu â deg swllt neu gini am unrhyw fath arall o ffotograff.

Yr oedd y carte yn mesur tua 2x g 4x. Ar ei gefn fel rheol caed enw a chyfeiriad y ffotograffydd ac efallai broliant o'i waith neu fanylion am ei brisiau. Apeliai'r chwiw casglu at y Fictoriaid ac yr oedd y lluniau bychain hyn yn bethau delfrydol i'w hel a'u trysori mewn albwm. Dywedir i'r Frenhines Fictoria lenwi dros gan albwm.

Y carte mwyaf poblogaidd erioed oedd llun o Alexandra, Tywysoges Cymru, yn cario'i merch fach Louise ar ei chefn: gwerthwyd dros 300,000 copi ohono.

Oes y carte-de-visite oedd cyfnod mwyaf llewyrchus y ffotograffydd proffesiynol, a bu nifer mawr iawn o ffotograffwyr yn cadw stiwdios yng Nghymru. Gallai siopwr droi at dynnu lluniau tra'n dal ymlaen â'i fusnes gwreiddiol.

Ceir cyfuniad anghyffredin weithiau: Richard Michael (Caergybi), 'draper, tailor and photographic artist'; R.W. Jones (Rhaeadr), 'grocer and photographer'; T.R. Hammond (Conwy), 'photographer and agent for Goss porcelain'; J.M. Edwards (Bow Street), `monumental mason and photographer'.

Tanseiliwyd bywoliaeth nifer o arlunwyr proffesiynol gan y ffotograff a throdd llawer ohonynt yn ffotograffwyr.

***

ER BOD rhai cwmnďau mawr yn y maes, megis cwmni Dura ac A. a G. Taylor, yr oedd amodau'r busnes rywsut yn ffafrio'r stiwdio fechan annibynnol, a hynny oedd y patrwm arferol. Ychydig o Gymry a welir ym mysg y ffotograffwyr cynharaf oll, ond yn hytrach ceir enwau fel Clarence Vearncombe (Casnewydd), Peter Abercrombie Fyfe Villiers (Casnewydd a Llandrindod) a James Vye Parminter (Abertawe).

Yr oedd nifer o ferched yn ffotograffwyr, er enghraifft Miss Nellie Evans (Dinbych y Pysgod), Mrs Maria Forrest (Pontypridd), Mrs Elisabeth Moseley (Castell Nedd) a Mrs Bessie Paradise (Y Barri).

Weithiau byddai gwraig weddw yn cadw ymlaen fusnes ei gŵr. Yr oedd y gwaith yn aml yn fenter deuluol lle byddai mab yn dilyn tad yn yr un dref neu'n symud i dref arall i agor stiwdio.

Bu'r teulu Villiers yn cynnal stiwdios yng Nghasnewydd, Llandrindod, Llanfair ym Muallt a Dinbych y Pysgod. Tyfodd busnes Charles Allen, Dinbych y Pysgod, a ddisgrifir yn 1868 fel 'bookseller and stationer ... and photographer' yn fenter sylweddol yn tynnu lluniau ac yn cyhoeddi.

Bu Charles, Ernest, Harry a Samuel Allen yn ffotograffwyr gyda stiwdios yn Ninbych y Pysgod, Aberteifi, Doc Penfro a Hwlffordd. Gelwid y stiwdio yn Ninbych y Pysgod yn 'Excelsior Studios'. Bu o leiaf dri `Excelsior Studios' arall yng Nghymru, yn Llanelli, Caerfyrddin ac Aberteifi.

Mae enwau'r stiwdios yn adlewyrchu'r cyfnod: Victoria (Llanelli), Royal (Rhondda), Parisian (Aberystwyth), Palace (Caernarfon), Cambrian (Pontypridd), Crown (Aberdâr) a Magnet (Rhyl).

Nid oedd y tu hwnt i ffotograffydd newid rhywfaint ar ei enw er mwyn diwygio'i 'ddelwedd'. Ychwanegodd David Harries, Llandeilo, 'C' at ei enw i'w wneud yn D.C. Harries. Nid yw enw David Evans Bonvonni (Abergwaun) yn taro deuddeg ond byddai'n rhaid cael Cymro go fentrus i alw'i hun yn Ulysses Paltoni (Aberhonddu).

Ceir golwg byw ar waith y ffotograffydd E.O. Jones, Talybont, yn llyfr rhagorol Hefin Llwyd, Un Ennyd Fer.

***

YN ANFFODUS, wrth gwrs, y mae'r rhan fwyaf o waith yr hen ffotograffwyr wedi mynd i'r domen ers blynyddoedd. Ar un adeg yr oedd yn arfer berwi negyddion gwydr i dynnu'r emulsion a glanhau'r platiau er mwyn eu defnyddio i adeiladu tai gwydr.

Ond ambell waith fe ddaw i'r golwg stoc o negyddion neu brintiau a grynhowyd dros gyfnod gwaith y busnes ac sydd wedi gorwedd mewn seler neu atig ers hynny. Y mae casgliad felly yn drysor arbennig iawn. Gall fod yn hynod o ddiddorol a gwerthfawr.

Y mae ffotograffau yn cyfleu teimlad uniongyrchol o oes ddiflanedig, na ellir ei gyfleu drwy unrhyw gyfrwng arall. Cynyddodd poblogrwydd y cerdyn post ar ddechrau'r ganrif ac wedi i'r camera ddod yn beth cyffredin mewn cartrefi yn y dauddegau nid oedd angen troi at stiwdio'r ffotograffydd mor aml.

Prif gynhaliaeth llawer o ffotograffwyr heddiw yw tynnu lluniau priodasau, arferiad a ddechreuodd tua throad y ganrif. Peth prin bellach yw'r stiwdio bortreadau draddodiadol.