AR LAFAR - AC AR GADW HEFYD ~
Twm Elias ar y Gymdeithas newydd

RWY'N sicr y bydd aelodau Cymdeithas Bob Owen a darllenwyr Y Casglwr, sydd â'u diddordeb ym 'mhob peth printiedig' yn falch o groesawu i'r llwyfan gymdeithas newydd fydd A'i bryd ar 'bob peth llafar'. Hon yw Cymdeithas Llafar Gwlad a ffurfiwyd ddydd Sul, Mawrth y 10fed eleni yn ystod y cwrs Llên Gwerin diweddara yn y gyfres flynyddol a gynhelir ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog.

Meysydd diddordeb y Gymdeithas fydd casglu ac ymdrin ag amrywiol agweddau ar lên gwerin gyda phwyslais arbennig ar gyfoeth ein traddodiad llafar byw. Cynhwysir yn hyn atgofion, straeon digri, tafodiaith, ymadroddion, geirfa crefft, llysenwau, rhigymau, arwyddion tywydd, chwaraeon plant, ofergoelion, hen feddyginiaethau, straeon ysbrydion ac amryw o bethau eraill.

Prin fod angen atgoffa neb fod y traddodiad llafar yn rhan gyfoethog iawn o'n hetifeddiaeth genedlaethol. Yn sgîl y gwaith arloesol a wnaed eisoes gan gyn gymaint o gasglwyr ac ymchwilwyr, ac yn arbennig Amgueddfa Werin Cymru daethom yn fwy ymwybodol o werth yr etifeddiaeth hon.

A bellach, gyda dyfodiad y papurau bro Cymraeg, rhai ohonynt â cholofnau poblogaidd ar lên gwerin; llwyddiant dosbarthiadau nos ar y pwnc; cwrs blynyddol ar lên gwerin ym Mhlas Tan y Bwlch ac Ysgol Basg yr Amgueddfa Werin; yr ymateb rhagorol i raglenni radio megis Ar Gof a Chadw a rhifynnau arbennig o Codi'r Ffôn; gwaith nodedig nifer o lyfrgelloedd sirol a cholegau megis cynllun recordio ar dâp a fideo Llyfrgell Coleg Harlech a'r Cwrs Llên Gwerin yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, y mae'r amser yn addas iawn i sefydlu cymdeithas a fyddai'n pontio'r holl weithgarwch yma.

Arwydd pendant iawn arall o'r diddordeb byw mewn llên gwerin yw'r ymateb ardderchog i'r cylchgrawn Llafar Gwlad a fydd yn cydweithredu'n agos iawn â'r Gymdeithas newydd.

***

Y MAE gan Loegr ei Folklore Society a gan Brydain ei Society for Folk Life Studies, ond Lloegr a Phrydain yn gyffredinol yw maes y cymdeithasau hyn a Saesneg yw iaith eu gweithgarwch. Cymru fydd maes Cymdeithas Llafar Gwlad a Chymraeg fydd iaith ei gweithgarwch.

Mae'r traddodiad o gofnodi llên gwerin yng Nghymru yn hen iawn yn dyddio i'r canol Oesoedd i weithiau Nennius, Gerallt Gymro a Sieffre o Fynwy. Ystyrier hefyd Fucheddau'r Saint, y Trioedd, y Mabinogion a dogfennau pwysig o gyfnod y Dadeni fel a geir yng nghasgliad Peniarth. O ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg saif enwau fel Edward Llwyd (1660-1709), Morrisiaid Môn, ac Edward Williams, 'Iolo Morganwg' (1747-1826) yn amlwg yn y maes.

Erbyn y ganrif ddiwethaf gwelwyd cyhoeddi llawer o lên gwerin mewn cylchgronau megis Y Brython (1858-63); Byegones Relating to Wales and the Border (1871-1939); Cymru (1891-1927) gol. O.M. Edwards, a llawer yng ngholofnau papurau newydd o'r cyfnod hwnnw hyd ein dydd ni.

Gwelwn yr arwydd i gofnodi llên gwerin yng nghystadlaethau traethawd yr Eisteddfod Genedlaethol: The Folklore of Glamorgan, T.C. Evans (Aberdâr 1885), A Collection of the Folklores and Legends of North Wales, Elias Owen (Llundain 1887); Casgliad o Lên Gwerin Sir Gaerfyrddin, D.G. Williams (Llanelli, 1895); Casgliad o Lên Gwerin Meirion, W. Davies (Blaenau Ffestiniog, 1898).

Yn ogystal â'r rhain ceir nifer fawr o draethodau o eisteddfodau llai ynghyd â thraethodau eraill heb fod yn gysylltiedig ag eisteddfod mewn llyfrgelloedd ac archifdai, y rhan fwyaf ohonynt yn dal yn y llawysgrif wreiddiol. Mae'n debyg fod llawer iawn o ddefnyddiau o'r math yn dal ym meddiant unigolion a buddiol yn wir fuasai eu lleoli a gwneud record ffotocopi ohonynt o leiaf.

***

CEIR casgliadau o lên gwerin a thraddodiadau lleol yn y nifer fawr o lyfrau a gyhoeddwyd ar hanes plwyfi. Ystyrier: Plwyf Beddgelert ei Hynafiaethau a'i Gofiannau, W. Jones (1862); Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, H. Derfel Hughes (1866); Hanes Plwyf Llandyssul, W.J. Davies (1896); Hanes Plwyf Defynog, D. Graianog Lewis (1911), a Cwm Eithin, H. Evans (1931) yn enghreifftiau rhagorol o'u math.

Llyfrau mwy penodol ar lên gwerin oedd Cymru Fu, Isaac Foulkes (1862); The Welsh Fairy Book, W. Jenkyn Thomas (1907); Llên Gwerin Sir Gaernarfon, Myrddin Fardd (1908); Ofergoelion yr Hen Gymry, T. Frimston (diddyddiad); Folk Lore and Folk Stories of Wales, Marie Trevelyan (1909); Folk Lore of West and Mid Wales, J. Ceredig Davies (1911); Doethineb Llafar, E. Jones (1925); Coelion Cymru, Evan Isaac (1938); Y Tylwyth Teg, Hugh Evans (1935), a Straeon y Cymru, W. Rowland (1935).

Yn ogystal cafwyd nifer o astudiaethau academaidd pwysig megis: British Goblins, Wirt Sikes (1880); Celtic Folklore: Welsh and Manx, Cyf I a 2, Sir John Rhys (1901), a Welsh Folklore and Folk Custom, T. Gwynn Jones (1930).

Rhaid peidio ag anghofio wrth gwrs gyfraniad y propagandwyr crefyddol. Er iddynt daranu yn erbyn ofergoeliaeth a gweithio'n galed i ddifa rhai o'r hen draddodiadau bu i ambell un, wrth lwc, ddisgrifio gwrthrych eu cynddaredd yn bur fanwl. Mae Crefydd yr Oesoedd Tywyll, Y Parch W. Roberts (1852), a Hanes Methodistiaeth Arfon, W. Hobley (6 cyf. rhwng 1910-24) yn enghreifftiau da o'r math hyn o gofnodi llên gwerin.

Erbyn canol y ganrif ddiwethaf bu i'r Diwygiadau a'r Ysgolion Sul droi y Cymry yn un o'r bobol fwyaf llythrennog yn Ewrop. A dyna baradocs; bu i'r rhai a fu'n gweithio mor galed i ddileu'r hen arferion a choelion greu diddordeb mewn diwylliant a hynafiaethau. Daeth galw mawr am ddefnyddiau darllen poblogaidd ac roedd llawer o'r rhain yn enwedig ar gyfer plant yn cynnwys llên gwerin.

Eto fyth roedd difrod mawr wedi ei wneud a gweddol isel ei barch fu llên gwerin onibai ei fod un ai yn adloniant diniwed neu yn astudiaeth academaidd a fuasai y tu draw i ddiddordeb y werin. Ac yn Saesneg yr ymdrinnid yn academaidd â'r pwnc gan amlaf. Dyma pam efallai na ddaeth llwyddiant i'r symudiadau cynnar tua sefydlu rhyw fath o gymdeithas lên gwerin. Un o'r cynharaf i fynegi dyhead i'r cyfeiriad hwnnw oedd Iolo Morganwg a ddymunai weld creu sefydliadau cenedlaethol i warchod ein treftadaeth ddiwylliannol.

***

DROS hanner can mlynedd wedi marw Iolo a thair blynedd wedi sefydlu'r Folklore Society yn Lloegr (yn 1878) bu ymgais o du Cymdeithas y Cymmrodorion i'r cyfeiriad hwn. Cyflwynwyd y syniad o sefydlu cymdeithas dafodiaith a llên gwerin mewn ysgrif The Folklore of Wales gan Thomas Powell (Y Cymrodor 10, 1881) ond digwyddodd dim. Cafwyd mwy o lwyddiant yn ddiweddarach pan fu anogaeth Cymdeithas y Gymmrodorion yn allweddol bwysig i sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1908.

Yn 1920 bu Cymdeithas y Cymmrodorion eto'n gysylltiedig â chynllun i gasglu llên gwerin. Trefnwyd y cynllun hwn gan Adran Gymreig y Bwrdd Addysg dan y pennawd:

'National Scheme for the Collection of Rural Lore Through the Medium of the Elementary and Secondary Schools and Colleges of Wales'.

Gweddol siomedig fu'r canlyniadau heblaw am gyfraniad Ceredigion lle cafwyd cynnyrch toreithiog a hynod werthfawr. Mae'r casgliad bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.

Roedd yr Amgueddfa Genedlaethol wrth gwrs wedi ei sefydlu er 1907, gyda'i Adran Astudiaethau Gwerin yn 1937. Ond y garreg filltir bwysicaf heb amheuaeth fu sefydlu'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan yn 1948 gyda Iorwerth Peate yn Guradur arni. Ers hynny cyflawnwyd gwaith aruthrol bwysig o gofnodi a diogelu'r defnyddiau, yn ddogfennau, tapiau a chreiriau, sy'n rhan o'n treftadaeth ni oll.

Cafwyd cyhoeddiadau hynod werthfawr gan weithwyr yr Amgueddfa Werin ac eraill fu'n manteisio ar ei hadnoddau, er enghraifft: Diwylliant Gwerin Cymru, I.C. Peate (1942); Yr Aradr Gymreig, Ffransis Payne (1954); Welsh Folk Customs, Trefor M. Owen (1959); Welsh Children's Games and Pastimes, Parry Jones (1964); The Welsh Woollen Industry, J. Geraint Jenkins (1969); Arferion Caru, Catrin Stevens (1977), Sers a Rybana, Rhiannon Ifans (1983). Hefyd y cyfnodolion: Gwerin (1956-62) a olynwyd yn 1963 gan Folk Life (Cylchgrawn y 'Society for Folk Life Studies'), a Medel (1985-).

***

HEB amheuaeth bu'r gweithgarwch hwn yn gyfrwng i ysgogi brwdfrydedd a lledaenu diddordeb ymysg nifer fawr o unigolion ledled Cymru a aeth i ymhél â llên gwerin ar eu liwt eu hunain. Enghraifft bendant o hyn fu sefydlu'r cynadleddau Llên Gwerin ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog o 1980 ymlaen.

Allan o'r cynadleddau hyn y ganwyd y cylchgrawn Llafar Gwlad, gol. John Owen Huws (1983-). Bu llwyddiant y cylchgrawn hwn a'r ymateb gwych a geir yn gyson i amrywiol weithgareddau yn ymwneud â llên gwerin, yn enwedig rhaglenni ar y radio, yn awgrymu'n gryf ei bod yn bryd ffurfio Cymdeithas i ddod â'r llinynnau ynghyd. Felly yn ystod y gynhadledd flynyddol ym Mhlas Tan y Bwlch eleni derbyniwyd cynnig Robin Gwyndaf a John Owen Huws i sefydlu Cymdeithas Llafar Gwlad.

Cyn bo hir bwriedir trefnu ymgyrchoedd i gasglu gwybodaeth mewn meysydd penodedig. Ond nid casglu er mwyn casglu yw'r amcan. Yn hytrach gobeithir cylchdroi'r defnyddiau a gesglir, yn enwedig trwy golofnau Llafar Gwlad, cyhoeddiadau poblogaidd eraill, darlithiau byw, casetiau ac unrhyw gyfrwng priodol arall. Gobeithir y bydd hyn yn ennyn mwy o drafod a brwdfrydedd ynghylch yr hyn sydd wedi'r cyfan yn rhan o'n hetifeddiaeth ni oll.

Cewch fanylion pellach am Gymdeithas Llafar Gwlad yn y rhifynnau sydd i ddod o Llafar Gwlad neu oddi wrth y swyddogion:

Dymunaf ddiolch i Robin Gwyndaf, Sain Ffagan am lawer o'r wybodaeth hanesyddol, i J.O. Huws am ganiatâd i ddyfynnu o olygyddol Llafar Gwlad, ac i Amgueddfa Werin Cymru am y llun.