HEN FARIL CHWEUGAIN gan Ioan Mai

'YDACH CHI 'i isio fo?,' meddai y diweddar D.M. Parry, Pwllheli wrth fy mam mewn ocsiwn yn Nefyn a hithau'n tynnu am ugain mlynedd yn ôl bellach. Wedi sylwi arni yn llygadu y faril fiscets sydd yn y darlun yr oedd yr arwerthwr.

A phan ddaeth tro'r faril tarodd Parry ei forthwyl ar gynnig fy mam o chweugain neu hanner can ceiniog o'n arian ni heddiw). Lapiodd hithau'r faril yn ofalus yn ei basged a chafodd le anrhydeddus ar y dresel yn ystafell y ffrynt.

Welais i 'rioed fiscet o fath yn y byd ynddi, doedd hi'n dda i ddim i hynny, medda hi am 'i bod hi'n hawdd i aer fynd i mewn iddi, heibio i'r caead metal a difetha'r biscets. Felly, taclau gwnïo fel gwniadur, botymau amrywiol a mân betheuach oedd yn y faril bob tro y codwn ei chaead i fusnesu.

Wedi colli fy mam a gwagio'r faril, gwelswn ddwy lythyren G.T. a'r dyddiad 1879 ar waelod y potyn.

Deall mai porslen oedd ei defnydd ac wrth ddarllen am hwnnw deuthum i wybod rywbeth am 'Chelsea Red' a 'Chelsea Gold' - gwybodaeth gwybedyn chwedl O.R. 'stalwm. Sylweddoli fod yna o leiaf ddeg o wahanol ffatrïoedd porslen, ac mai dyna oedd y 'Doulton' y clywais gymaint amdano. Ffatri oedd hon a sefydlwyd yn 1815 erbyn gweld, ac yna wedi cynnal arddangosfa fawr o grochenwaith tua 1851 mabwysiadwyd adran Gelf i gynhyrchu ffiolau a chrochenwaith eraill.

A wir i chi, 'Doulton Lambeth' oedd ar waelod potyn fy mam ac erbyn holi, George Timworth a'r Barlow Sisters oedd arlunwyr mwyaf ffatri Doulton, a dyna oleuni ar y GT oedd wedi ei dorri yn arw ar y llestr.

Pa mor werthfawr oedd o? Wel rhwng canpunt a hanner a deugant yn ôl priswyr Sotheby, a chroeso mawr i mi ei adael hefo nhw.

Ond na, rwyf wedi penderfynu rhoi hyn o hanes y llestr i'w gadw yn y potyn ei hun, a chydag ef lythyr byr fy mam yn hysbysu ei dosbarth Ysgol Sul o'i bwriad i ymddeol fel athrawes, a hynny bythefnos cyn ei marw yn 92 oed.