CREFFT Y LLYFR gan John Eilian

YR UNIG gymeriad mawr amryliw yn hanes newyddiaduriaeth Cymru y medrid cymharu John Eilian ag ef yw Llew Llwyfo - a'r ddau yn hanu o'r un rhan o ynys Mn. Ar wahn i'w waith a'i weithgareddau amrywiol eraill bu Llew Llwyfo'n gweithio ar o leiaf ddeg o wahanol bapurau a chylchgronau Cymraeg - un yn America - yn ei fywyd ansefydlog; ac ni bu John Eilian, gyda'r un anesmwythyd dyrys yn gweithio ar lawer llai - ac un o'r rheini yn Ceylon.

Ond rhyfeddod John Eilian yw iddo wneud y campau a'i gosododd yn rheng flaenaf un golygyddion mwyaf Cymru mewn cyfnod o ryw bum mlynedd gwta pan sefydlodd Y Ford Gron a'r Cymro. Treuliodd weddill ei oes fel rhyw wenynen feirch a ymwelodd llawer o flodau heb gynhvrchu rhyw lawer o fl. Ac eto, pan setlodd o'r diwedd yng Nghaernarfon arhosodd yno am ddeuddeng mlynedd ar hugain.

Aeth i Goleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth gan ymadael cyn gwneud un dim mor gyffredin sicrhau gradd. Roedd yn unigolyn o'r unigolion. Ond fe aeth oddi yno i Rydychen - rwy'n meddwl fod yn ei fryd wynebu ar yr offeiriadaeth. Rhyw dymor y bu yn y fan honno, ac os anghofiodd am y pulpud cadwodd yr Eglwys yng Nghymru yn agos at ei galon hyd y diwedd; yn wir yr oedd yn uchel-eglwysydd.

Ond pan oedd yn Aberystwyth daeth yn gyfaill i Prosser Rhys, Golygydd Y Faner, a rhyngddynt cyhoeddodd y ddau gyfrol wefreiddiol a chwyldroadol, ar y pryd, o gerddi - Gwaed Ifanc.

Ac yna cawn J.T. Jones fel yr adnabyddid ef bryd hynny, yn swyddfa'r Western Mail yng Nghaerdydd, newydd droi'r ugain oed. Yno fe ddaeth yn gyfaill mawr i fardd a newyddiadurwr arall - Caradog Prichard. Ac ymhen rhyw dair blynedd fe ymadawodd 'r fan honno am Stryd y Fflyd. Yno, pan weithiai i'r Daily Mail y sefydlodd Y Ford Gron.

***

CYLCHGRAWN J.T. Jones ei hun oedd Y Ford Gron yn wreiddiol ac fe'i paratoai a'i olygu o'i gartref yn Llundain gyda Hughes a'i Fab yn ei argraffu a'i gyhoeddi am chwe cheiniog yn Wrecsam o Dachwedd 1930 ymlaen.

Ond ymhen rhyw ddeufis fe welir mai Hughes a'i Fab yw'r perchenogion bellach a bod J.T. Jones wedi symud i'w olygu yn Wrecsam. Ac yn gynorthwywr iddo roedd newyddiadurwr arall o Fn - Percy Ogwen Jones, tad yr Athro Bedwyr Lewis Jones (a aned yn Wrecsam) Bu'r ddau yn gyfeillion am oes.

Ni welodd Cymru erioed gylchgrawn mor oludog 'r Ford Gron. Ar un wedd yr oedd yn olyniaeth Cymru O.M. Edwards ('Cymru Coch') ond yn fwy cyfoes, yn llai hynafiaethol, yn llawer mwy lliwgar. Ac yr oedd y ffaith fod T.M. Basset a ofalai am argraffdy Hughes a'i Fab yn arbenigwr ar lythrennau teip ac ar arddangos tudalennau yn gain a chrefftus yn ychwanegu at yr apl.

Denwyd nifer mawr o ysgrifenwyr newydd ar bynciau hollol newydd i'r cylchgrawn - llu o'r cyfranwyr yn Eglwyswyr. Ni welwyd erioed gylchgrawn poblogaidd (ond nid ysgafn), rhugl fel hwn yn y Gymraeg; ac nis gwelwyd wedyn. Dyma benllanw cylchgronau'r iaith.

Ymhen dwy flynedd - yn Rhagfyr 1932 - dyma wneud y wyrth fawr arall - sefydlu Y Cymro. Prynwyd papur o'r un enw yn Nolgellau (papur a sefydlwyd yn bennaf i gystadlu 'r Goleuad am nad oedd holl ddiwinyddion yr Hen Gorff yn derbyn yr un math o oleuni). Ond ar l y teitl yn unig yr oedd Rowland Thomas, perchennog di-Gymraeg Hughes a'i Fab). Yr oedd y golygydd yno'n barod.

Fu yna erioed o'r blaen wir ymgais i sefydlu papur newydd cenedlaethol pur yn y Gymraeg. Yr oedd Y Faner wedi gwasanaethu fel papur felly; ond yn Nyffryn Clwyd yr oedd ei wir wreiddiau ac oddi yno y tynnai hynny o nerth i ymledu oedd ganddo. Ac fe wnaeth Yr Herald Cymraeg hefyd ymgais i ddatblygu'n genedlaethol trwy sefydlu argraffiad i Dde Cymru. Ond yng Ngwynedd yr oedd gwreiddiau hwnnw hefyd.

Wynebodd J.T. Jones ar y dasg enfawr yma heb fedru fforddio i gyflogi ei ohebwyr amser llawn i'r papur trwy Gymru ac mae'r ffaith fod Y Cymro yn dal yn fyw wedi mwy na hanner canrif yn dweud llawer.

***

FEL PE na buasai'r ddwy wyrth yna'n ddigonol, yr oedd J.T. Jones a'i fys yn ddyfn ym mrywes cyhoeddi llyfrau Hughes a'i Fab hefyd. Fe baratdd ei hunan gyfres o glasuron barddol a llenyddol Cymru yn llyfrynnau bychain Y Ford Gron ar gyfnod cyn i'r llyfrau bach ddod mor boblogaidd yn Lloegr. Ac yn y blynyddoedd prysur yma y cyhoeddodd Hughes a'i Fab gyfrolau amhrisiadwy megis holl weithiau T. Gwynn Jones.

Ysywaeth ni fedrid cadw'r glyn byw yn hir yn yr un lle. Ac nid oedd J.T. Jones, at ei gilydd, yn cymeradwyo unrhyw feistr. Aeth Rowland Thomas ac yntau benben ac fe ymadawodd J.T. Jones, gan ffarwelio 'r Cymro a'r Ford Gron.

Wedi ei ymadawiad ef yr unwyd y papur a'r cylchgrawn. Nid oedd cylchrediad Y Cymro yr hyn a ddisgwylid, a chredai Rowland Thomas - yn hollol anghywir, debygwn i - mai cystadleuaeth Y Ford Gron oedd yn amharu ar Y Cymro mewn oes pan oedd tlodi'n gyffredinol. Felly, ymgorfforwyd y naill yn y llall, heb ddod ag unrhyw fantais i'r Cymro ond angau i'r cylchgrawn mwyaf unigryw yn yr iaith.

Diflannodd y gloyn byw am gyfnod a chlywn amdano nesaf yn Colombo yn golygu The Times of Ceylon oedd yn bapur newydd pur sylweddol a hynod ddeniadol. Fe glywais hefyd iddo helpu i sefydlu gorsaf radio ar yr ynys bell.

Nid dyna'r cyfan. Bu yn y Dwyrain Canol hefyd yn golygu'r Macedonian Times a'r Iraq Times.

Pa'r un bynnag, am dymor byr y bu yn y fan honno hefyd. Ac yna dyma fe'n ymddangos fel rhyw jac-yn-y-bocs unwaith eto yn Bennaeth Rhaglenni y BBC yng Nghaerdydd. Ni bu fawr o barhad i'r swydd honno chwaith, ac wedi diflannu am sbel arall ar ddechrau'r rhyfel, pwy oedd yn gweithio i Adran Dramor y BBC yn Llundain ond J.T. Jones.

***

AR DERFYN y rhyfel, ac wedi ffarwelio 'r BBC, bu saib niwlog arall yn ei yrfa. Ond yn hwyr yn y pedwardegau pwy o bawb oedd ei feistr newydd ond Rowland Thomas ac yntau'n rheolwr ar bapurau newydd Croesoswallt a golygydd y Border Counties Advertizer.

Yr oedd sail yr heddwch rhyngddynt wedi ei osod yn nyddiau'r rhyfel pan gyfrannai J.T. Jones dan yr enw Robin Bwrgwyn erthyglau ar y rhyfel i'r Cymro, a ddibynnai yn bennaf ar bropaganda'r Weinyddiaeth Hysbysrwydd ac a oedd i fod yn rhyw adwaith wan i gyfraniadau mwy annibynnol a nerthol Saunders Lewis yn 'Cwrs y Byd' yn Y Faner.

Yng Nghroesoswallt yr oedd pan enillodd goron a chadair Dolgellau a Bae Colwyn - rhywbeth nad oedd fawr mwy na rhyw ymarferiad didrafferth i John Eilian.

Yr un stori oedd hi yn y diwedd, ar waethaf hyn i gyd. Rowland Thomas a John Eilian benben; John Eilian yn ymadael.

Saib arall - ond y gloyn byw yn glanio ar ei draed unwaith eto - yng Nghaernarfon yn 1953 yn swyddfa'r Herald lle bu hyd y diwedd un bron; a bron yr unig newyddiadurwr Cymraeg mawr na chafodd erioed ei brentisio yng Nghaernarfon.

***

NID ansefydlog yn unig oedd John Eilian; mae'n deg dweud ei fod yn tueddu at granciaeth hefyd. Wedi cychwyn yn sosialydd brwd fe anwesodd athroniaeth wleidyddol - lled-granciol o leia - Major Douglas. Social Credit, sef trefn economaidd ddyrys a ddibynnai ar docynnau yn lle arian; fe'i rhoddwyd mewn grym yn Alberta, Canada. Dim o'i le ar y syniad ar wahn i'r ffaith nad oedd yn gweithio.

Cyn terfyn ei oes yr oedd wedi sefyll fel Ymgeisydd Toraidd dros Fn - golygydd Toraidd cynta'r Herald mewn mwy na chanrif. Tynnodd bobl yn ei ben trwy bregethu nad oedd yna Gymru, dim ond De a Gogledd a'r hen daleithiau. Dal mai Lerpwl oedd priodol brifddinas Gwynedd. A syniadau rhyfeddach.

Ysbrydegiaeth, fel enghraifft. Mi welais i lyfrau sgrifennu lawer ac ynddynt gofnod manwl o sgyrsiau maith rhwng John Eilian a Gruffudd ap Cynan a Williams Pantycelyn - a Williams wedi cyfansoddi emyn newydd sbon yng nghorff y sgwrs. Ac mae yna ychwaneg.

Ar y llaw arall, ni bu'n segur. Fe aralleiriodd yn Gymraeg bedair stori i blant i gwmni Harrap yn 1953 Robin Hood, Brenin Arthur, Ali Baba a Sian D'Arc. Gosododd eiriau i fiwsig clasurol i gwmni Gwynn - 'Pe telyn Iwbal gawn', 'Duw a fedd y Dwyrain mawr', fel enghraifft. Ychwanegodd benillion at rai unigol traddodiadol i'r un cwmni - megis 'Pa le mae nghariad i' a 'Bwthyn fy Nain'.

Yng Nghaernarfon ni cherddwyd y Maes mor bendefigaidd o'r blaen er dyddiau E. Morgan Humphreys. Ond yr oedd dyddiau gwyrthiau mawr John Eilian ar ben.