LLAW Y MEISTR MAWR gan Dafydd Ifans

TYBED a wyddai'r rhai a fu'n mwynhau'r gyfres 'Tro yn yr Eidal' ar S4C yn ddiweddar am fersiwn anghyffredin o'r gyfrol sydd ynghadw yn y Llyfrgell Genedlaethol? Fersiwn llawysgrif ydyw a hynny yn llaw yr awdur, Syr Owen Morgan Edwards.

Mae'r testun, sy'n 214 tudalen o hyd, wedi ei ysgrifennu ag inc du mewn llaw gymharol fân, ond fe geir hefyd addurniadau mewn inc coch drwy'r gyfrol ar ddull rhuddelliadau llawysgrif ganoloesol.

Mae tuedd i safon cywirdeb yr adysgrif ddirywio wrth nesu at ddiwedd y gwaith a cheir newidiadau a chywiriadau yn amlach. Rhwymwyd y gyfrol mewn hanner lliain du a chloriau o bapur marmor lliw porffor.

Fe luniodd O.M. Edwards y gyfrol arbennig hon yn rhodd i'w gyfaill yr Aelod Seneddol Thomas Edward Ellis ar achlysur ei briodas ag Annie Davies, Cwrt-mawr, Llangeitho, yng nghapel y Tabernacl, Aberystwyth, ar 26 Mai 1898.

Daeth y llawysgrif i'r Llyfrgell o fewn mis i farwolaeth O.M. Edwards ym mis Mai 1920. Fe'i cyflwynwyd ar fenthyg ar gyfer arddangosfa gan Mrs T.E. Ellis (Mrs Annie Hughes Griffiths erbyn hynny gan ei bod wedi ailbriodi). Dywed yn ei llythyr at y Llyfrgellydd, John Ballinger, fod ei diweddar ŵr wedi gwerthfawrogi'r gyfrol gymaint, onid mwy, na dim byd arall a dderbyniodd ar achlysur eu priodas.