TWLL YN Y WAL

MAE'R llun ar waelod y dudalen yn gopi o ddarlun gwreiddiol mewn dyfrlliw (darlun eithaf helaeth ei faint) gan Joseph Josiah Dodd, sydd ym meddiant gŵr o Fangor, ac yn un o ddau neu dri o luniau gwreiddiol gan yr artist sydd ganddo.

Llun o Stryd Twll yn y Wal, Caernarfon a adgynhyrchir ac mae'n anodd iawn darllen y dyddiad sydd arno. Nid oes rhyw lawer wedi ei gofnodi am yr artist ychwaith, ond 1809-1880 yw ei ddyddiadau.

O Loegr, yn sir Gaer y gwnaeth Dodd grynswth ei waith ond mae ganddo hefyd luniau o ddinas Paris a wnaed oddeutu 1835 ac yr oedd yn byw yn y ddinas honno yn 1838 a 1839. Rhwng 1832 a 1839 dangoswyd naw o'i luniau yn yr Academi Frenhinol yn Llundain a phedwar yn yr oriel yn Suffolk Street.

Ystyrir ei waith yn fedrus ond braidd yn gyntefig ei arddull, ond fe ymddengys hefyd iddo gael ei ddylanwadu gan waith F. Towne (1740-1816) a aeth ar daith arlunio trwy Gymru yn 1777.

Ac mae'n amlwg fod Dodd ei hun yn weddol gyfarwydd â Chymru ac yn y Llyfrgell Genedlaethol mae ganddo luniau o Hen Eglwys a Phont Beddgelert, pentre Beddgelert, Rhuddlan, Plas Mawr Conwy, Llynnoedd Llanberis a'r Wyddfa (oddeutu 1870) a darlun o wartheg yn yfed ger Llanelwy.

Ond mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â Chaernarfon hefyd yn ogystal â bod yn gyfarwydd â'r artist Cymreig Hugh Hughes, canys J.J. Dodd a osododd ar garreg y map o Ogledd a Chanolbarth Cymru a'r teitl 'Modryb Gwen' odditano – map yn portreadu Cymru fel hen wraig a baich ar ei chefn.

Cyhoeddwyd y map eithriadol o brin yma oddeutu 1845. Yr oedd Hugh Hughes yng Nghaernarfon oddeutu 1836 yn golygu'r papur newydd byrhoedlog Y Papyr Newydd Cymraeg, newyddiadur Cymraeg cyntaf Gwynedd. Yr oedd hefyd yn brysur iawn yn y cylchoedd yn gwneud portreadau o lu o bobl, fel y dengys erthygl arall yn y rhifyn hwn.

Gan mai Hugh Humphreys Caernarfon oedd un o ddau gyhoeddwr Modryb Gwen gallasai'r ddau artist fod wedi cyfarfod yn y dref honno cyn 1840.