Y PRESANT PRIODAS gan Mary Ellis

YMHLITH yr anrhegion priodas a dderbyniodd Tom Ellis yn 1898 y mae album o ddarluniau. Ar y tudalen flaen mae'r cyflwyniad, "Darluniau o chwarelau a Mwngloddiau gan G.J. Williams, cyflwynedig gyda'i ddymuniadau goreu i Thomas E. Ellis, Ysw., A.S. Mehefin 1898."

Mae ynddo ddeg ar hugain o ffotograffau wedi eu gludio ar dudalennau trwchus yr album. Mae golchiad aur i'r ymylon a'r cloriau'n lledr esmwyth. Anrheg hardd, yn wir.

Mae'r rhoddwr, G.J. Williams yn adnabyddus fel awdur Hanes Plwyf Ffestiniog a gyhoeddwyd yn 1892. Ysgolfeistr a phrifathro'r Ysgol Ganolraddol, Blaenau Ffestiniog ydoedd, ond oherwydd ei feistrolaeth ar ddaeareg, penodwyd ef, yn 1895 yn arolygydd cynorthwyol mwyngloddiau gogledd Cymru ac Iwerddon.

Yr oedd yn y Coleg Normal, Bangor yr un pryd â J. Lloyd Williams, ac yn ei ysgrif arno yn Y Traethodydd 1941 y cefais ei hanes.

***

EI wybodaeth o ddaeareg ac o ffotograffiaeth yw sylfaen yr album. Lluniau chwe modfedd o hyd a phedair a chwarter ar draws ydynt, a'r rhai tanddaearol wedi eu tynnu 'by magnisium light' yn ôl yr hyn a sgrifennodd odanynt. Yn Saesneg y rhy'r disgrifiadau.

Lluniau o waith aur Gwynfynydd yw'r saith cyntaf. 'Forebreast of Level', yw'r cyntaf un, sef llun agoriad i ogof a thyllau crynion yn y llechen sydd fel drws ar yr ogof; 'Stoping' yw'r disgrifiad o dan yr ail, a llun dynion yn gwneud y gorchwyl hwnnw; y felin, adeilad sylweddol yw'r trydydd, a dau ddyn yn golchi'r aur mewn padelli, 'Panning' yw'r pedwerydd.

Yna ceir llun y swyddfa, adeilad pren gyda balconi a gwraig yn sefyll ger y fynedfa, ac yn olaf tŷ'r Capten, adeilad digon tebyg i'r swyddfa. Mae'r gair Capten mewn dyfynodau.

Un llun sydd yna o waith aur Clogau, lle gwelir dau ddyn yn gwthio tryc yn un o'r ogofâu. Mae hwn eto wedi'i dynnu gyda golau magnisium.

Yn nesaf ceir pedwar darlun o chwareli Ffestiniog. Yn gyntaf 'Underground chambers and supporting pillars as seen from surface, Votty and Bowydd Slate Quarries, Ffestiniog.'

Yn y pellter mae rhes o dai ac un tŷ mawr a mwg yn dod o'r simneiau. 0 dan y ddaear yn chwarel Maenofferen y tynnwyd y nesaf, gyda thri chwarelwr, tryc ar gledrau, a pheiriant.

O chwarel yr Oakeley gwelir 'Bar Channeller' wrth ei waith; dyn ydyw yn sefyll uwchben peiriant cymhleth yr olwg. Wedyn ceir llun o chwarel dan ddaear yn Angers, Ffrainc, cyn dyfod yn ôl i weld y 'Steam Crane at work in The Fall' yn chwarel yr Oakeley.

***

MAE'R darlun nesaf yn un hanesyddol, sef y Talcen Mawr yn chwarel y Penrhyn wedi ei dynnu ar y Sadwrn cyn y Saethu Mawr, ac yna ceir llun y safle wedi'r saethu.

Llawn mor hanesyddol, mae'n debyg yw'r llun o'r 'Aerial Inclines' yn cario wagenni yn chwarel Dorothea, Dyffryn Nantlle. Wedyn dangosir dau ddyn yn hollti a ffurfio llechi gyda chyllell law yn yr un chwarel.

Yn chwarel y Penrhyn dangosir llechi'n cael eu hollti a'u ffurfio gyda 'Treadle Machine'. Dyna ddiwedd y darluniau o Gymru. Yn dilyn mae rhai o wahanol rannau o Ffrainc, Reigate, swydd Surrey, Battle, swydd Sussex, Ynys Manaw, Gwlad Belg a Rochester, swydd Caint.

Gŵr amryddawn oedd G.J. Williams; yn y coleg yr oedd yn `brydydd parod a doniol; hoffai gerddoriaeth a chanai'r ffidil', a bu'n codi canu yn y capel. Yn naturiaethwr, hoffai ddarlunio a ffotograffiaeth; gwyddai hanes Cymru a daeth yn hynafiaethydd ac yn chwilotwr henebion yn ei fro enedigol. Ond cyfoes oedd ei ddiddordeb ymarferol yn yr Ysgol Sul.

Yn 1883 y penodwyd ef yn brifathro ar ysgol yr Higher Grade yn y Blaenau. Y flwyddyn wedyn dewiswyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol. Mae J. Lloyd Williams yn gresynu na chafodd ei gydnabod gan Brifysgol Cymru, er iddi `anrhydeddu Saeson ac estroniaid llai eu gallu.' Hen stori.

Ewythr iddo, brawd i'w dad oedd Griffith Williams, Talsarnau, cymeriad ffraeth ac awdur Cofiant Richard Humphreys y Dyffryn (1873).

'Tybiwn fod y ddau Griffith yn tebygu i'w gilydd mewn llawer o bethau' yw sylw J. Lloyd Williams. Bu G.J. Williams farw yn 1933 gan adael dau fab a thair merch. Rhaid fod iddo ddisgynyddion yn fyw o hyd, ond anodd iawn yw cael dim gwybodaeth bellach am y cymeriad anghyffredin hwn.