AR Y COSTA DEL SOLOMON ANDREWS YN LLŶN ~
CARTRE CELFYDDYD YN ATGYFODI gan Trebor Evans

AR CHWEFROR 1af 1853 cludwyd corff Syr Love Jones Parry o gastell Madrun i'w gladdu gyda'i gyndadau ger Eglwys Llanbedrog. Gadawodd ar ei �l yst�d o dros bedair mil ar ddeg o erwau yn ymestyn dros ugain o blwyfi Llŷn ac Eifionydd, yn ogystal � chyfoeth o lestri aur ac arian a chasgliad o ddarluniau gan feistri fel Joshua Reynolds, Hans Holbein a Van Dyke.

Etifeddwyd yr yst�d yn rhannol gan weddw Syr Love, sef Lady Margaret Jones Parry a'i fab Thomas Love Duncombe Jones Parry. Yn 1854 penderfynodd y weddw godi plas iddi ei hun ger traeth Llanbedrog nepell o'r man lle cafodd ei magu sef plasdy bychan y Cottage.

0 Holton Hall swydd Lincoln y deuai Margaret Jones Parry yn wreiddiol ac yn 1810 y daeth i fyw i Lanbedrog gyda'i mam sef Sara Caldicot, ei dau frawd a'i llysdad William Lloyd Caldicot. Mab Hafodydd Brithion, Beddgelert oedd William a aeth i Bath ar anogaeth William Alexander Maddocks i chwilio am wraig a chyfoeth ac a fabwysiadodd gyfenw ei wraig.

Bwriad Margaret Jones Parry oedd cael tŷ cyfleus iddi ei hun ger ei chartref a thraeth cysgodol Llanbedrog. Ei gobaith oedd y byddai ei mab yn priodi'n lled fuan ac yn magu teulu ym Madrun. Rhaid cofio hefyd mai lle oer iawn oedd Madrun yn wynebu'r gogledd a thawch y Gors Geirch.

Comisiynwyd Henry Kennedy, un o benseiri eglwysig amlycaf ei gyfnod i gynllunio plasdy yn y glyn wrth droed mynydd Tir y Cwmwd ar barc y Cottage, Llanbedrog. Rhwng 1854 a 1857 adeiladwyd y plasdy ffug gothig a chostiodd �7,000. Yn ychwanegol gwariwyd �12,000 i'w ddodrefnu ac i greu gerddi, lawntiau a rhodfeydd.

Gwraig eithriadol o gybyddlyd oedd Margaret ond am ryw reswm nid oedd ball ar ei gwario ar y plas. Gan fod y plasdy wedi ei godi mewn glyn cysgodol gan wraig weddw fe'i galwyd yn Glyn y Weddw.

***

HYD y gwyddys ni chysgodd Margaret yr un noson yn ei Glyn. Cyflogodd dri garddwr i ofalu am y gerddi a 'house keeper' a morwyn yn y tŷ. Rhwng 1857 a 1883 byddai'n ymweld yn wythnosol �'r Glyn gan gael ei chludo o Gastell Madrun mewn cerbyd hardd dan ofal Siarl ei gyrrwr ffyddlon a wisgai lifrai'r teulu bob amser gyda balchder.

Yn ystod y cyfnod hwn teithiodd y weddw a'r mab i sawl gwlad dramor gan ddychwelyd bob amser yn llwythog o ddodrefn gwerthfawr a phlanhigion ar gyfer eu plasdy yn Llanbedrog.

Pan fu farw Margaret Jones Parry yn 1883 yn 89 oed gosodwyd Glyn y Weddw i deulu bonheddig o'r Alban. Roedd yr Angusteins wedi cymryd hawliau hela'r yst�d ac yn ystod y deng mlynedd y buont yn byw yn Llanbedrog cafwyd llawer cwyn am eu hagwedd drahaus tuag at y tenantiaid cyffredin.

Yn ystod y cyfnod yma ymwelodd amryw o'r pendefigion � Glyn y Weddw ac yn eu mysg roedd y Dug Wellington a Thywysog Cymru. Roedd sgweiar ifanc Madrun a'r tywysog yn gyfeillion gyda'r un diddordebau yn �l yr hanes.

Dim ond 59 oed oedd Thomas Love Duncombe Jones Parry pan fu farw'n ddisymwth gan adael dyledion anferth ar ei �l oherwydd iddo fyw'n hynod o afradus gan ganolbwyntio llawer o'i ymdrechion ar yfed Port, dilyn ceffylau a mwynhau cwmni rhai o ferched Llundain.

Yn 1896 bu raid gwerthu rhan helaeth o'r yst�d i dalu'r dyledion. Gwerthwyd bron i bedair mil o erwau ym mhlwyf Llanbedrog yn unig. Prynwyd Plas Glyn y Weddw a'r holl dir o Lanbedrog i Bwllheli (pellter o 4� milltir) am �12,000 gan ŵr busnes llwyddiannus o Gaerdydd. Roedd Solomon Andrews newydd ddechrau adeiladu ym Mhwllheli yn 1895 ac wrthi'n brysur yn datblygu'r 'West End'.

Erbyn Hydref 1896 ymestynnwyd y rheilffordd fechan a redai o'r 'West End' Pwllheli i chwarel gerrig fechan Garreg y Defaid yr holl ffordd i fynedfa Plas Glyn y Weddw. Mewn dim o dro addaswyd prif ystafelloedd y Plas yn oriel ddarluniau a daethpwyd � rhyw bedwar cant o ddarluniau a dodrefn o Gaerdydd, y cwbl o safon a chwaeth aruchel.

***

TEITHIAI lluoedd bob haf o Bwllheli i'r oriel yn y tramiau a dynnid gan ferlod. Pris y daith ar hyd yr arfordir oedd 4 ceiniog (hen arian). Yna byddai'r ymwelwyr yn mynd drwy glwydi'r 'Refreshments' a cherdded i weld gwychder y gerddi a'r trysorau cain yn yr ystafelloedd ysblennydd.

Ceid yn yr oriel waith arlunwyr megis J.M. Turner, E. Landseer, J. Phillip, Clarkson Stanfield a P. de Wint. Amcangyfrifid gwerth yr holl luniau yn 1900 yn �1,500. Wedi eu gosod yn chwaethus o gwmpas yr ystafelloedd ceid llawer o ddodrefn cain a llestri gwerthfawr o'r dwyrain pell a hefyd lestri Dresden, Spode, Crown Derby, Chelsea, Worcester, Abertawe a Nant Garw.

Yn ystod misoedd yr haf ceid cerddorfa yn chwarae ar lawnt y Plas yn ystod y prynhawniau a gyda'r nos cynhelid dawnsfeydd ar gyfer ymwelwyr yn yr ystafell ddawnsio eang.

Ar �l marwolaeth Solomon Andrews yn 1908 ni welwyd ychwanegu nemor ddim at yr atyniadau yng Nglyn y Weddw. Graddol grebachu 'roedd pethau; c�i ysgutorion Solomon Andrews waith caled i gadw dau ben llinyn ynghyd. Lleihaodd nifer teithiau'r tram ac erbyn 1920 roedd nifer y teithiau wedi eu gostwng i hanner yr hyn oeddynt yn 1912. Er y cyni medrwyd cadw safon uchel yr oriel gan arddangos amrywiaeth o luniau a amrywiai o flwyddyn i flwyddyn.

Cafodd teulu Solomon Andrews golled enbyd yn Hydref 1927 pan ddinistriwyd rhan helaeth o wely'r rheiliau'r tram ger Carreg y Defaid gan storm arw. Roedd y gost o adnewyddu y rheiliau yn ormod i'r teulu a chynigiwyd y tramiau a'r rheilffordd i Gyngor tref Pwllheli. Ni chafwyd neb i gymryd diddordeb yn y rheilffordd a daeth gwasanaeth y tramiau i ben. Codwyd y rheiliau a'u gwerthu i Robert Parry yr arwerthwr o Bwllheli i wneud corlannau ym mart Pwllheli.

Rhyw rygnu mynd fu pethau yng Nglyn y Weddw ac ar yst�d Solomon Andrews yn gyffredinol trwy'r tridegau. Cyfnod oedd o geisio cwblhau talu'r morgeisi anferth a sicrhaodd Solomon i wireddu ei freuddwydion. Ni chafwyd llawer o lewyrch yn yr oriel oherwydd yn bennaf ddiffyg arian ac i ryw raddau diffyg diddordeb.

***

PAN ddechreuodd yr ail ryfel byd yn 1939 caewyd yr oriel. Daeth merched y 'Land Army' i fyw i ran o'r tŷ ac yn �l yr hanes gwnaed llawer o ddifrod i'r Plasty a'i gynnwys ganddynt. Storiwyd y darluniau a hefyd daethpwyd � darluniau o'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i'w diogelu dros gyfnod y rhyfel. Roedd gan rai aelodau o deulu Andrews gysylltiadau agos �'r arddangosfa.

Erbyn diwedd 1944 roedd ysgutorion Solomon Andrews wedi gallu sicrhau rhydd daliad ar y rhan fwyaf o'r ystad. Pan ddarfu'r rhyfel fe ddechreuwyd gwerthu rhannau helaeth. Ar Awst 16 a 17 1945 cynhaliodd cwmni Robert Parry a'i Feibion, Pwllheli arwerthiant ar holl gynnwys Plas Glyn y Weddw.

Gwerthwyd y dodrefn, llestri a'r lluniau am brisiau afresymol o isel yn �l ein safonau ni heddiw. Rhaid cofio fod arian yn llawer prinnach ac na welai'r rhelyw o bobl lawer o werth yng nghynnwys y plas.

Pump o bobl leol a brynodd yn yr arwerthiant. Cafodd ffarmwr o Lanbedrog gloc mawr a dau ddarlun olew am �7. Aeth casgliad o ddrylliau am �1.16.0. Cafwyd �22 am aderyn mecanyddol mewn cas; �1 a gafwyd am lun o Madam Patti.

Aeth un o luniau Turner am �48 (y darlun enwog Storm at Sea sy'n werth ffortiwn heddiw). Aeth y rhelyw o gynnwys y Plas i Loegr a 'dealers' oedd y rhan fwyaf o'r prynwyr. Fe ddywedir i lawer o luniau gael eu prynu er mwyn yr aur oedd ar y fframiau ac i'r lluniau gael eu dinistrio.

***

AR �L chwalu cynnwys yr oriel gwerthwyd y plasty a holl eiddo teulu Andrews yn Llanbedrog a daeth cysylltiad hanner canrif i ben. Prynwyd Glyn y Weddw gan ran o gwmni Butlins.

Addaswyd y plasty yn fflatiau gan greu mwy o ddinistr na'r hyn a wnaeth y 'Land Army'. Rhannwyd y prif ystafelloedd ac wrth wneud dinistriwyd amryw o'r gratiau hardd, y gwaith coed a'r gwaith plaster cain.

Erbyn diwedd y saithdegau roedd cyflwr y plas wedi dirywio'n enbyd. Y fflatiau yn wag a'r cyntedd hardd yn cael ei ddefnyddio yn storfa dodrefn a llawer o'r ystafelloedd yn llaith gan fod to yr adeilad wedi mynd i ollwng yn bur ddrwg.

Ond yn 1979 prynwyd y plas gan Gymry sef Dafydd a Gwyneth ap Tomos ac maent wedi ymlafnio ers hynny i adnewyddu rhannau helaeth o'r plasty. Erbyn heddiw mae rhan helaeth o'r plasty wedi ei adnewyddu i'w gyflwr gwreiddiol a cheir arddangosfeydd o luniau unwaith eto ym mhlas Glyn y Weddw, sy'n agored i'r cyhoedd.

O.N. A ŵyr un o'r darllenwyr pwy oedd Gwilym Llywelyn a ysgrifennodd nofel wedi ei lleoli yng Nglyn y Weddw? Y ddau brif gymeriad yw Lady Jones Parry a'i mab. Cyhoeddwyd yn y Wyddgrug yn 1909 gan ddwyn y teitl 'Gwledydd y Glyn'.