CYFROL BRIN YR HEN FILFEDDYG
gan (bron iawn) Dewi Williams

PAN ddaeth y cyfaill o filfeddyg Trefor Jones Chwilog i ddarlithio i Glwb Trafod yr Alltwen, Penmorfa, ar hen feddyginiaethau anifeiliaid, ni sylweddolodd ei fod ym mhlwy genedigol awdur y gyfrol a ddefnyddiai fel cyfeirlyfr. Y Meddyg Anifeiliaid John Edwards o Gaerwys oedd y gyfrol, ond ddau can mlynedd yn ôl fel John Edwards Ereiniog, Cwmystradllyn yr adnabyddid ef.

'Roedd fferm yr Ereiniog yn terfynu gyda'r Ynys Wen ac mae'r enw yma yn awgrymu mai llygriad o'r "Ynys Odreiniog" yw Ereiniog. Y tenant hyd ei farwolaeth ym 1793 oedd Edward Powell ac ef oedd tad John Edwards. Trodd John Edwards at y Methodistiaid ac ymuno ag un o'r seiadau cynharaf yn Eifionydd ar aelwyd John Roberts, Hendre Hywel, nepell i ffwrdd. Tua 1787 anogwyd ef i "arfer y ddawn yn fwy cyhoeddus trwy gynghori pechaduriaid".

Cyfansoddodd Edward Powell rigwm dilornus am yr arloeswyr cynnar a gyrchai o Gwmystradllyn i'r seiat, tan yr enw "Pengryniaid Hendre Hywel"

(*John Edwards, ei fab)

Yr oedd John Edwards hefyd yn fardd a dywedir iddo gyfansoddi anterliwt. Yn ôl Carneddog llosgodd ei 'rigymau gwamal' i gyd pan gafodd ei dröedigaeth a'i gerdd 'Y Ddau Geiliog Du' yn 'Cerddi Eryri' yw, mae'n debyg, yr unig un a oroesodd.

***

OHERWYDD ei wyriad oddi wrth y grefydd eglwysig fe drowyd John Edwards allan o'r Ereiniog ple 'roedd wedi olynu ei dad fel tenant a dyna sut y bu iddo symud i Ddyffryn Clwyd ym 1795.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gofnodi mewn nifer o ffynonellau. Cawn yr hanes ym 'Methodistiaeth Cymru' John Hughes (cyf 111 tt 204-8) ac yn 'Cofiant Owen Owens Cors-y-Wlad' gan Henry Hughes ple manylir ar gymeriadau rhigwm Edward Powell. Mae'r penillion yn llawn a'r hanes ar gael hefyd yn "Cerddi Eryri" Carneddog.

Enillwyd gwobr yng nghylchwyl flynyddol Porthmadog ym 1876 gan draethawd ar "Hanes Methodistiaeth yn nosbarth Tremadog". Yr awdur oedd Bennet Williams (Beuno Gwilym) ac edrydd mai goruchwyliwr yr ystâd "yr hwn oedd llawn rhagfarn ac ysbryd erlidgar at y crefyddwyr" oedd yn gyfrifol am droi John Edwards allan.

Perthynai'r Ereiniog i ystâd Clenennau oedd erbyn hyn wedi ei hychwanegu at ystâd Brogyntyn yn yr Amwythig a'r Glyn yn Sir Feirionydd, ple trigai'r goruchwyliwr, yn ôl Bennet Williams.

Etifeddwyd yr ystâd ym 1792 gan Margaret Owen oedd o linach Syr John Owen Clenennau. Ei phriod oedd Gwyddel o'r enw Owen Ormsby. Trwy briodas eu merch daeth yr enw yn Orsmby-Gore a dyma wrth gwrs, gyfenw y diweddar benteulu, yr Arglwydd Harlech.

Yn rhifyn Awst 1983 o'r Casglwr manylodd y diweddar Syr Thomas Parry am hanes pellach John Edwards, y ffariar bregethwr. Derbyniodd ei feibion hyfforddiant yn y colegau milfeddygol ac argraffwyd y gyfrol bum gwaith gan gynnwys argraffiad yn Utica ym 1849.

Byddai Trefor Jones yn falch iawn o glywed am gopi o'r argraffiad cyntaf o dan y teitl Y Cyfarwyddyd Profedig i bob Perchen Anifeiliaid, ar werth yn rhywle. Bu un yn ei law noson y ddarlith ond nid yw'r copi hwnnw yn debygol o adael fferm gyfagos i'r Ereiniog yng Nghwmystradllyn.