DRWGDALWYR ~ Y Golygydd

MAE'N rhaid dechrau'r tro hwn trwy gwyno ychydig bach. Gyda thros fil o gylchrediad nid yw cyfeirio cyn gymaint â hynny o amlenni a'u stampio cyn postio'r Casglwr yn dasg anarferol o bleserus. A gyda chostau'r post wedi codi'n ddifrifol, a phris argraffu ar i fyny'n gyson, bu galw am ymroddiad a hwsmonaeth dda i gadw'r cylchgrawn yn ddiogel ar ei draed. Fe wnaed hynny heb godi'r un geiniog yn ychwanegol arnoch chi'r aelodau ffyddlon. Ysywaeth mae nifer sydd heb dalu am rai blynyddoedd ond yn parhau i dderbyn. Oni fedrwn ysgogi'r rhain i glirio'r ddyled ni fedrwn ninnau eu cynnal yn hwy. Nifer fach - ond nifer ddifrodus. Ni phoenwn am rai anghofus sy'n talu'n hwyr neu sy fymryn ar ôl - y gweddill yw'r boen.

Felly apeliwn ar bawb i anfon tâl dyledus i'r ysgrifennydd - neu alw ym mhabell Gwasg Gwynedd ar faes y Brifwyl. Ac i bawb arall – diolch yn fawr iawn.

Y DDARLITH YN Y BRIFWYL

CYNHELIR Darlith Cymdeithas Bob Owen yn y Babell Lên fore dydd Gwener, Awst 9fed. Bydd y ddarlith yn dechrau am 10.00 o'r gloch a rhaid gorffen am tua 11.00 o'r gloch.

Philip Henry Jones o Goleg Llyfrgellwyr Cymru fydd y darlithydd a theitl y ddarlith fydd 'Helyntion Cyhoeddwr: Thomas Gee a'i awduron'. Y Cadeirydd fydd D. Tecwyn Lloyd.

MYNEGAI I'R 'CASGLWR'

Y MAE'R Athro Brynley F. Roberts wedi bod yn ailedrych ar ôl-rifynnau o'r Casglwr ac wedi cael peth syndod o sylweddoli maint y gwybodaethau sydd ynddynt – ac mor hawdd yw anghofio iddo weld y peth a'r peth yn y rhifyn a'r rhifyn.

O ganlyniad fe aeth ati i lunio mynegai i bum rhifyn ar hugain cyntaf Y Casglwr, ac y mae wedi cwblhau'r dasg.

Yn ei Fynegai ceir rhestr o awduron pob ysgrif gan nodi ym mha rifyn ac ar ba dudalen mae'r cyfraniadau.

Yn ychwanegol at hyn cwblhaodd y dasg fawr iawn o nodi ym mha rifyn ac ar ba dudalen y cyfeirir at bob math o bersonau, pynciau, llyfrau etc.

Cytunodd i'w gyflwyno i Gymdeithas Bob Owen. Wedi ei deipio y mae ac yr ydym yn barod i'w dyblygu a'u rhoi mewn clawr syml i unrhyw aelod sy'n dymuno cael copi. Fe'i cewch drwy'r post am dair punt (costau dyblygu a phostio) gan Ysgrifennydd y Gymdeithas, dim ond i chi anfon eich enw ato. Bydd peth oediad cyn i'r copi eich cyrraedd.