HEN GYSYLLTIADAU ~ D.Tecwyn Lloyd gyda Twm a Brutus

PAN chwalwyd llyfrgell fawr Coleg y Bala yn ystod haf 1964, prynais nifer o lyfrau yno, amryw ohonynt yn perthyn i gasgliad y Prifathro Thomas Charles Edwards. Ymhlith y rheini yr oedd dau arbennig o ddiddorol nid yn unig am eu bod yn brin ond am mai eu perchnogion ar un adeg ydoedd David Owen (Brutus 1795-1866).

Y cyntaf o'r ddau yw casgliad o antarliwdiau Twm o'r Nant, ei Hunangofiant a'r Gardd o Gerddi yn argraffiad Merthyr Tydfil yn y blynyddoedd a ganlyn:

Yr argraffydd oedd David Jones, Heol Fawr, Merthyr Tydfil. Yna, ar ddiwedd y gyfrol, wedi eu hargraffu yn Llanrwst gan John Jones ceir:

***

YN NES ymlaen yn 1874 cyhoeddodd Isaac Foulkes argraffiad arall o waith Twm ac wrth gymharu'r ddau mae'n ddiddorol sylwi fel y bu Foulkes yn parchuso a bowdlereiddio rhai o ymadroddion Twm i ateb i chwaeth mwy misi ei oes ei hun; Pethau fel:

***

AT DDANT Y Casglwr, fodd bynnag, llawer mwy diddorol yw llyfr arall a brynais o'r un llyfrgell, sef copi Brutus eto o Carolau a Dyrïau Duwiol. Yn anffodus, mae'r wynebddalen a'r wyth tudalen gyntaf ar goll, ond un o argraffiadau'r 18fed ganrif yw'r llyfr, – fe'i casglwyd gyntaf gan Thomas Jones yr Almanaciwr yn 1696. Ond y tro hwn, fe wnaeth Brutus fwy na thorri ei enw arno canys ar y dalennau blaen gwynion, sgrifennodd gryn dipyn am ei deulu. Fel a ganlyn:

(1.ar y clawr mewnol blaen)

(2. tudalen wen flaen ii.)

(3. td: wen flaen. iii.)

Gwelir bod gan y copi hwn o'r Dyriau dras go faith. Ni wyddom pryd y cafodd nain Brutus afael arno, tua chanol y 19fed ganrif mae'n amlwg. Ar ôl hynny, bu ym meddiant Dafydd Benjamin Owen, tad Brutus, tan 1847.

'Nawr, fe ddywedir mai o blwy Cilrhedyn yng ngogledd-orllewin sir Gâr yr hanfu tylwyth Elizabeth Owen, nain Brutus. Yng nghorff y copi dan sylw, mae nifer o gofnodion, marginalia, sydd, pe gwyddem y cwbl, yn cynnwys stori bur ddiddorol.

***

YMDDENGYS fod y rhan fwyaf o'r nodion hyn wedi eu sgrifennu rhwng 1770 a 1780 ond dichon bod rhai diddyddiad yn gynharach. Gwaith Elizabeth Thomas (1715-1805: Owen wedyn), Pencarreg, Llangeler, a nain Brutus wedyn yw'r rhai o'r cofnodion, ond y mae yma un, efallai ddwy lawysgrifen sy'n waith rhywun arall; gŵr o'r enw Miles, James neu Lewis, a oedd yn byw ar fferm Gilfach Ymryson, Cilrhedyn, yw un ohonynt, ac efallai mai merch o'r enw Anne Evans yw'r llall.

Yn ôl y cofnodion, yr oedd yr Anne Evans hon yn nith ddibriod i Elizabeth Thomas; gelwir hi weithiau yn Nancy ac yr oedd hi'n byw yn y Berllan, Llangeler. Roedd James Miles â'i lygaid arni ac am hyn y sonia'r gofnod gyntaf:

Ond nid James oedd yr unig un i'w llygadu. Yn nes ymlaen (t.249), ceir cofnod wedi ei harwyddo 'Lewis Miles', brawd James, efallai. Fel hyn:

Yn sicr, roedd James yn daer. Ar td: 255, sgrifennodd ei frawd (ond nid yw'n hawdd penderfynu hyn; efallai mai James ei hun a wnaeth):

Ond a oedd pethau mor siŵr? Tipyn o ladi fach oedd Anne, canys ar td: 353, wele gofnod pur gyffrous:

ac un arall wedyn ar td. 354:

Tybed pwy oedd David Davies a David Evans? Awgrymir mai porthmona a wnâi Evans a chwaraeir yn ddigon ffraeth ar ystyr y gair `Swains' pan yngenir hwnnw fel petai'n air Cymraeg. Pa mor wir, tybed, yw'r cyhuddiad ei fod yn lleidr? Ai cenfigen yw hyn?

Dylid dweud fod enwau'i ffermydd, Lletyrgaib a Glyngosen yn bod heddiw. Tebyg mai James neu Lewis Miles fu'n sgrifennu, ond mae'r anodd bod yn siŵr oherwydd cyflwr y llawysgrif.

***

NA, NID oedd sicrwydd ynghylch serchiadau Anne a'i tebyg yw mai dewis David Evans, Clyngosen, 'thief’ neu beidio, fu ei hanes. Gellir gwireddu hyn, neu ei anwireddu, trwy chwilio cofrestrau plwy Llangeler.

Prun bynnag am hynny, daw'r gofnod olaf ar td. 387; stribed: lawr ochr y ddalen ac ar gyfer ei geiriau cyntaf mae llinellau o waith Huw Morus, Pontymeibion, cân hir sy'n llawn o gynghorion moesol: `Nid ydyw Duw'n caniattau/Nei cyfiawnhau'r Annuwiol...' A dyma'r gofnod:

Hyd y gwelaf, dyna brif rediad, neu amlinell stori caru ofer James Miles. Ond mae cofnodion eraill heblaw'r rhai uchod sy'n codi ambell gwestiwn diddorol. Droeon, mae Elizabeth Thomas (Owen) wedi sgrifennu ei henw yn y llyfr. Yna, mae un gofnod gan Anne Evans ei hun i bob golwg:

Ond sut y gallai Anne Evans sôn am David Owen, mab Benjamin, yn 1779 ac yntau heb gael ei eni tan 1795? A oedd gan Brutus frawd hyn nag ef o'r un enw? Nid yw'r ysgrif yn y Bywgraffiadur Cymreig na dim un o ffynonellau'r ysgrif honno yn sôn gair am hyn.

A sylwer mai 'carpenter' a ddywedir am Benjamin, tad Brutus, nid crydd fel y dywed pob cofiannydd arall.

Problem arall yw sut bod gwaith mwy nag un cofiannydd yn y llyfr. Mae'n wir fod Elizabeth Thomas, cyn priodi, yn byw ym Mhencarreg, Llangeler a'i nith Anne yn byw yn yr un ardal. Ond beth am y brodyr Miles a oedd yn byw gryn bellter o Langeler? Tybed a oedd y llyfr yn mynd ar fenthyg o un teulu i'r llall?

***

AC YNA, beth a olygai James Miles wrth ddweud iddo gael ei ddibrisio, – 'slighted' –oherwydd crefydd? Heb wybod pwy a beth ydoedd, ni ellir dim namyn dyfalu. Tybed a oedd yn fethodist, yn 'enthusiast' i arfer gair yn cyfnod, a theulu Anne ac Anne ei hun yn Eglwyswyr uniongred?

Sonia am 'compleat my Discourse'; a yw hyn yn golygu ei fod yn pregethu neu'n cynghori mewn seiadau ac mai'r `vain tatlers' oedd yr offeiriaid llaprwth a geid yn rhy aml yn y plwyfi y pryd hynny?

Fodd bynnag, mae'n eithaf siŵr o'i rinwedd ei hun ac yn bur ddifaddau wrth Anne oherwydd 'the ungodly is beloved by you'.

***

Mae bron y cwbl o'r marginalia hyn yn delio â'r bobl a enwyd ond fe geir dwy frawddeg wahanol. Ar td: 23, o dan enw Rowland Vychan (Caergai), dywedir 'Ewythr i Tegyd Y Parch M. Williams' ac ar td: 193, o dan enw'r bardd William Philip sy'n awdur cân hir, dywedir 'Mab ordderch i Edmund Prys'.