HYNT HEN BLASAU Y GORORAU gan Selyf Roberts

AM RAI blynyddoedd yn fy swydd fel bancer yng Nghroesoswallt cawn achos yn aml i archwilio teitlau perchenogion ffermydd ac eiddo yn yr ardal; ardal eang yn estyn i ddwy ochr y goror. Yn fynych iawn darnau, neu 'barseli' o diroedd hen stadau mawr oedd y ffermydd, ac yr oedd pori ymhlith y dogfennau hyn – nifer ohonynt yn femrynau bregus gyda sêl y brenin neu un o'i uchelwyr – yn rhoi cipolwg ar hanes nifer o hen deuluoedd ac yn f'atgoffa o bwysigrwydd y plasau a'r maenordai ym mywyd y fro.

Un o'r plastai cyntaf y sylwais arno oedd Plas Yolyn, tua chwe milltir i'r dwyrain o Groesoswallt, ger Dudlust. Cawn sgwrs yn fynych â'r hen wraig Mrs Morrall, a honnai ei bod yn un o ddisgynyddion y Tywysog Du, trwy berthynas â theulu Edwards Cilhendre, mi dybiwn, perchennog y ddau dŷ ar un amser.

Aeth Cilhendre â'i ben iddo ond y mae Plas Yolyn yn aros. Dywedir bod John Jones y 'brenin-leiddiad' wedi aros yng Nghilhendre am beth amser ar ei ffordd i Lundain, lle y restiwyd ef a'i ddienyddio.

Dros y dyffryn, hediad brân o Dudlust, saif Brynkynallt, cartre'r Trevoriaid. Bu Syr John Trevor yn llefarydd Tŷ'r Cyffredin, ac onibai iddo gael ei daflu allan, o'i swydd ac o'r Tŷ, am lwgrwobrwyo, buasai wedi ei wneud yn Arglwydd Ganghellor. Y mae perthynas, trwy Tudur Trevor, mab Hywel Dda, rhwng Trevoriaid Brynkynallt a Threvoriaid Trefalun yn Sir Ddinbych, a chyfeiria'r Barwn Trevor presennol at ei gysylltiadau â'r Esgob Richard Trevor, Tyddewi a Durham.

Y mae darlun enfawr ohono hanner y ffordd i fyny grisiau llydan Glynde Place, yn agos i gartre'r operâu yn Sussex. Pe hedai'r frân ymlaen o Frynkynallt deuai i Gastell y Waun, ond nid dyma'r lle i ddechrau sôn am y berthynas oriog rhwng y Myddletoniaid a theuluoedd y ddau blasty arall.

***

YCHYDIG i'r de, ar gwr pellaf Whittington, yr oedd stad fawr Halston, a'i rhenti'n dwyn incwm o agos i ugain mil o bunnau. Mab y plasty hwn oedd John Mytton, un o adar brith aristocratiaid yr ardal. Fe'I trowyd allan o ysgolion Westminster a Harrow o fewn blwyddyn o amser. Bu'n aelod seneddol dros dref Amwythig am sbel; yr unig Aelod Seneddol erioed na threuliodd awr gyfan yn y Tŷ.

Heliwr ydoedd: heliwr anifeiliaid a merched, ac yfwr heb ei fath, a gamblwr wrth reddf. Carcharwyd ef yng ngharchar y Kings Bench am ei ddyledion, a bu farw yng ngharchar. Ond yr oedd boneddigion Croesoswallt yn eiddigus o'u henw da, a daethpwyd â'i gorff o Lundain i gael cynhebrwng cyhoeddus yn ei fro gyda chadfridog o deulu Longueville yn arwain yr orymdaith ar ei farch trwy'r dref.

Os deuwn yn nes i Groesoswallt fe welir cylch o blasau yn amgylchu'r dref. Ger y ffordd rhwng y dref a'r Trallwng y mae Swinney, cartref Mrs Baker ers talwm, gwraig a fu'n gymwynaswr mawr i Ymneilltuwyr y dref yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Ond mae'n siŵr mai'r enwocaf o drigolion Swinney oedd y Parch John Parker, a gododd dŵr eglwys Llanyblodwel: un o'r ychydig dyrau eglwys sydd ar wahân i’r eglwys ei hun.

Ond fel arlunydd y gwnaeth ei enw, gan wneud cannoedd o ddarluniau dyfrliw o blasau ac eglwysi ar hyd a lled y wlad ac ar y Cyfandir, a golygfeydd manwl-gain. Yr oedd ei chwaer, Mary, hithau'n arlunydd bron cystal ag ef, ac anghofiwn yn aml mai hi a lwyddodd i wneud llun o'r 'Ladies of Llangollen', y darlun enwog a phoblogaidd o'r merched swil ac enciliedig hynny.

Y mae rhai o'r plastai yn y cyffiniau wedi eu dymchwel erbyn hyn. Nid erys dim o Lanforda na Broom Hall na Park Hall, ond y mae Oakhurst, cartref y Venables, yn aros, a Brogyntyn, cartref William Owen, pennaf noddwr Eos Ceiriog, a chartref teulu'r Arglwydd Harlech. Ysywaeth, nid yw'n gartref i neb bellach. Y mae Oerle ar ochr orllewinol y dref yn aros, yn un o glwstr o fân blastai.

***

OS CERDDAF o'm cartref i gyfeiriad Llanrhaeadr ym Mochnant af heibio i Benlan, a fu'n gartref teulu o filwyr blaenllaw o'r enw Longueville. Cedwir yr enw yn y dref o hyd yn enw ar gwmni o gyfreithwyr, ond dau Gymro pybyr a fedd y busnes yn awr.

Tros y gefnen o Benlan deuaf at Lwyn-y-Maen, a thybir mai dyma gartef Einion Efell yn yr unfed ganrif ar ddeg. Etifeddodd y Llwydiaid y lle trwy briodas, ac un o'r llinach oedd Richard Lloyd, Pabydd rhonc a gyhuddwyd o gyd-gynllwynio â Hugh Owen yn helynt 'Ridolffi'.

Dros y lôn o Lwyn-y-Maen y mae tiroedd Llanforda, cartref y Lhuydiaid. Byddai un Edward Lhuyd yn teithio i'r dref yn gyson mewn cerbyd a chŵn yn ei dynnu, a dichon ei fod yn 'parcio' ei foddion teithio yn iard y tŷ lle mae bwyty'r 'Coach and Dogs' yn awr. Mab i Edward Lloyd, Llanforda, wrth gwrs, oedd Edward Lhuyd y botanegwr enwog, ond mab anghyfreithlon. Prynwyd y stad gan Syr William Williams ac aeth yn atodiad gwerthfawr i stad y Wynnstay.

Ymlaen wedyn a deuaf at gyffordd gyda dwy fferm, Trefarclawdd ar y chwith a Phentre Sianel ar y dde, ac ychydig ymhellach wedyn gwelaf diroedd Brynmabsis a Llwynmabsis, (Ai 'mab Sais' yw'r Mabsis yma, tybed?) cyn cyrraedd Trefonen, a hen dafarn o'r enw 'Yr Efail', ac ar ben y bryn, Treflach. Hyn oll a minnau heb gyrraedd Cymru eto!

***

FE WELIR nad oes raid bod yng Nghymru i weld yr enwau Cymraeg yn y parthau hyn. Yn Lloegr y mae Nant y Caws a Gwern y Brenin, a Llynclys lle ceir llyn sy'n cuddio, yn ôl yr hen chwedl, llys Benlli, un o hen dywysogion Powys.

Rhaid mynd trwy Pant cyn cyrraedd y pentref cyntaf yng Nghymru i'r cyfeiriad hwn, sef Llanymynech, cartref y mapiwr enwog John Evans, Llwynygroes. Yn Llandrinio gyfagos y trigai Baugh, y gŵr a wnaeth ysgythriadau o'r mapiau manwl a chywrain hyn.

Ar ochr ogleddol Croesoswallt brithir y wlad ag enwau Cymraeg, yn blastai a ffermydd. Mae plas a fferm yn dwyn yr enw Henlle, y plas yn gartref teulu pabyddol enwog y Lovetts gynt. Mae'n wir fod rhai enwau wedi eu llygru dan ddylanwad Seisnig, a cheir Prees Gwene oddi wrth Prys Gwên, a'r 'Gwên' yn cyfeirio, fe dybir, at fab Llywarch Hen a laddwyd ar lan afon Morlas neu Morlais, sy'n rhedeg trwy dir yr hen blas.

Mewn hen lawysgrif o Whittington awgrymir yn gryf mai dyma 'Y Dref Wen' Llywarch Hen, ac mai Byrgyll oedd enw Burghill, ac mai Henffordd ddylai Hindford fod.

Gwelir ôl y llygriadau o fewn ffiniau Croesoswallt hefyd. Un o'i strydoedd yw Willow Street, lle safai'r porth gorllewinol, sef y porth a arweiniai tua Chymru. Gan na bu sôn erioed am goed helyg yn agos i'r lle, tybir mai Walia oedd enw'r porth yn yr hen amser.

0 gyfeiriad y porth hwn rhedai un o'r nifer o nentydd a redai drwy'r dref, a lle troai'r nant yng nghanol y dref dywedir bod y dŵr erbyn hynny'n ddu, onid yn fudr hefyd. Yn yr union le hwn y mae llwybr cul yn cydio dwy stryd heddiw, a'r enw arno yw 'the Cloudy' ond y Clawdd Du ydoedd, wrth gwrs.

***

NI ddigwyddodd hyn i'r holl enwau Cymraeg, fodd bynnag. Cadwyd yr enw Y Garreg Lwyd ar stad newydd o dai, ac felly hefyd Croeswylan. Cyfeiria hyd yn oed y Saeson yn y cyIch at Faes y Llan, yn union gyferbyn â'm cartref i, lle dywedir i Oswallt gael ei ladd.

Efallai mai sumbol parhaol o Gymreigrwydd Croesoswallt yw'r parc yng nghanol y dref: un o'r parciau trefol tlysaf a mwyaf chwaethus y gallech ei ddychmygu. Ar yr ochr orllewinol iddo y mae stryd a elwir Welsh Walls, a dim ond lled un stryd ar yr ochr ddwyreiniol y mae English Walls. Ond enw'r parc yw Cae Glas.