Y PORTREAD CYMREIG O'R INDIAID gan Dafydd Guto Ifan

GYDA'R blynyddoedd yn unig y tyfodd fy niddordeb mewn casglu deunydd a ffynonellau gan mwyaf yn ymwneud ag Indiaid Cochion De a Gogledd America. Mae'n wir imi fynd ati ar y cychwyn yn hollol anhrefnus heb roddi llawer o sylw i gatalogau awduron a theitlau mewn llyfrgelloedd nac ychwaith i rif dosbarth Dewey ar y testun. Ond buan y deuthum at fy nghoed.

Yr hyn a ryfeddais ato'n anad dim byd arall oedd bod deunydd diddorol ar gael yn y Gymraeg.

Carwn ddweud cyn cyfeirio at ddau lyfr a dau safbwynt gwahanol, fy mod wedi canolbwyntio ar ddeunydd sy'n addas i oedolion.

GOGLEDD AMERICA
HUMPHREYS, Hugh. Brad yr Indiaid Cochion. Llyfrau Ceiniog. Gwybodaeth Gyffredinol. Yr ail gyfres. Caernarfon. H. Humphreys, 18-- *
*rhywdro ar ôl y flwyddyn 1863.

LLYFR hynod ydyw hwn ar un ystyr oherwydd fe geir ynddo hanes brad yr Indiaid Cochion, sef llwythau o 'genedl fawr' (sylwer) 'y sioux', a chelanedd ofnadwy Americaniaid, Cymry a Saeson yn Minnesota yn 1862-63. Mae'n amlwg fod yr awdur yn tueddu i ochri gyda'r Indiaid Coch.

Achosion yr anghydfod yn ei ôl ef oedd i'r dyn gwyn wneud yr Indiaid 'yn ddarostyngedig' iddo, 'wedi gwerthu eu tiroedd', a newid bywyd a threfn llwyth.

Llyfr ffeithiol sy'n dangos trasiedi fwyaf y cyfnod dan sylw, - yr estron yn ecsploetio a dwyn tiroedd gwir-frodyr Gogledd America.

DE AMERICA:
PATAGONIA BOURNE, Benjamin Franklin. Y carcharor yn Mhatagonia neu fywyd yn mysg y cawri. Caernarfon: Roberts ac Evans, Eastgate d.d.;

DIGWYDDIAD ar arfordir Patagonia rhywdro yn y blynyddoedd 1848-49 a gynhwysir yn y llyfr hwn, sy'n adrodd hanes dyn gwyn yn cael ei herwgipio gan lwyth o Indiaid Cochion. Dan orfodaeth fe'i tywysir o fan i fan. Nid yw'r Indiaid ond 'bwystfilod' yng ngolwg yr awdur. Fel hyn y disgrifir yr Indiaid:

Er bod arlliw Americanaidd-Seisnig i'r llyfr, fe'i cefais yn un tra diddorol am fod ei gynnwys mor gamarweiniol! Stamp yr ymherodr sydd arno - y ni a nhw. Yn sicr, mae iddo'i le ar y silff am ei werth fel enghraifft o gyflwyno hanes America hanner cynta'r ganrif ddiwethaf yn hollol unllygeidiog.

Gyda llaw, cefais fodd i fyw yn ddiweddar pan anfonodd Brian Lile, Llyfrgellydd Cynorthwyol yn Adran Llyfrau Printiedig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y pwt canlynol mewn ateb i ymholiad o'm heiddo:

'.....cyfieithiad yw Y Carcharor yn Mhatagonia o The Giants of Patagonia: Captain Bourne's account of his captivity amongst the extraordinary savages of Patagonia. Arg. Yn Saesneg yn Llundain a Boston (Mass.) yn 1853; ail-brintiwyd yn Boston 1858, 1874 ac yr 1880au. Cyhoeddwyd yr argraffiad Cymraeg ar ôl 1873, mwy na thebyg yn yr 1870au. Disgynnydd o Benjamin Bourne (1775-1808), aelod Cyngres gyntaf yr Unol Daleithiau oedd Capten Bourne.

A rhag ofn fod yr ysfa ynoch chwithau i gael cip ar yr Indiaid Coch trwy lygaid Cymreig, wele gyfeiriad at ffynhonnell neu ddwy.