DAU HEN EIRLYFR CERDDOROL CYNNAR
gan Huw Williams

BU cyhoeddi'r llyfryn derbyniol (a hir-ddisgwyliedig!) Termau Cerddoriaeth, ar ran Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru y llynedd, yn gyfrwng i'n hatgoffa o ddwy ymgais ganmoladwy iawn i ysgrifennu 'geirlyfrau cerddorol' at wasanaeth cerddorion uniaith y genedl yn y ganrif o'r blaen.

Mae'n debyg mai'r llyfryn 'safonol' cyntaf yn y maes arbennig hwn oedd y Geirlyfr Cerddorol ... wedi ei lunio gan Thomas Williams (Hafrenydd), Llanidloes, a'i gyhoeddi gan yr awdur yn 1862, ac sy'n cynnwys 'eglurhad ar fwy na deuddeg cant o dermau cerddorol'.

Yn ei 'Ragymadrodd' i'r gyfrol fechan hon, dywed Hafrenydd mai ei 'Eirlyfr' ef oedd 'y cyntaf yn yr iaith Gymraeg', a'i fod 'yn cynnwys nodiadau pur helaeth ar rai o bynciau tywyllaf ac anhawddaf y Gelfyddyd (gerddorol) fel ag y gellir edrych arno fel math o Ramadeg byr ...'.

Fel rhan o Ceinion Cerddoriaeth ... (1852), yn cynnwys tonau, anthemau, a chytganau o weithiau'r Meistri, wedi ei olygu gan `Hafrenydd', y cyhoeddwyd y 'Geirlyfr Cerddorol' yn gyntaf, ac y mae'n debyg bod yr adran honno o'r gwaith wedi ennyn cymaint o ddiddordeb ymhlith cerddorion y genedl nes penderfynu mynd ati i argraffu'r 'Geirlyfr' ar wahân i'r gerddoriaeth.

Ar ryw ystyr, Thomas Williams (Hafrenydd) oedd cymwynaswr cerdd pennaf y genedl yn y ganrif o'r blaen, ac ni pharodd unrhyw syndod i'r wladwriaeth gydnabod hynny trwy roi swm o arian iddo 'yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth i gerddoriaeth a llenyddiaeth Cymru'. Trwy gyhoeddi Ceinion Cerddoriaeth ... (1852), a dwyn y clasuron i sylw cantorion y genedl, y cafwyd deffroad cerddorol yng Nghymru (neu `flynyddoedd y dadeni cerddorol' fel y gelwir hwy ambell waith) ym mhumdegau'r ganrif o'r blaen.

***

TIPYN o gamp i ŵr fel 'Hafrenydd', a oedd i bob pwrpas yn gerddor hunan-addysgiedig, oedd cyhoeddi gwaith mor uchelgeisiol â Ceinion Cerddoriaeth..., yn cynnwys amryw o gytganau gan Handel, Mendelssohn, a Haydn, – bron y cyfan ohonynt gyda geiriau Cymraeg o'i waith ef ei hun, – a'r 'Geirlyfr Cerddorol', yn rhifo bron i ddeg a thrigain o dudalennau yn dilyn y gerddoriaeth.

***

YN DILYN cyhoeddi Geirlyfr ... (Hafrenydd), mae'n debyg mai'r ymgais nesaf at ddarparu Geirlyfr Cerddorol Cymraeg oedd eiddo Thomas Howells (Hywel Cynon), yn cynnwys dros bedair mil 'o wahanol dermau cerddorol' , a'i gyhoeddi yn Aberaman yn 1871.

Mae hwn yn llyfryn bychan pur anghyffredin, gan ei fod wedi ei lunio, ei argraffu, a'i gyhoeddi gan yr awdur, cyn i gwmni Hughes a'i Fab yn Wrecsam fynd yn gyfrifol am ei ddosbarthu i'r cyhoedd.

Brodor o Lyn-Nedd, wedi ei fagu yn Rhymni ac yn Aberaman, oedd Hywel Cynon, a gŵr a ddaeth yn drwm dan ddylanwad Ieuan Gwyllt yn Aberdâr pan oedd yn ieuanc. Ceir crynodeb teilwng iawn o hanes ei fywyd yn Y Bywgraffiadur Cymreig..., tt.348-349, ond y mae cefndir cyhoeddi'r Geirlyfr Cerddorol yn 1871, a hynny ar beiriant argraffu a fu unwaith yn eiddo i Thomas Gruffydd Jones (Tafalaw Bencerdd) yn haeddu sylw arbennig.

Ganed Tafalaw Bencerdd, a dreuliodd lawer o'i amser yn astudio cerddoriaeth, ac yn cyfansoddi ar gyfer cystadlaethau'r eisteddfod, yn Sir Fynwy, yn fab i weinidog gyda'r Annibynwyr.

Ym mis Awst 1860, ymwelodd a gogledd Cymru, ac ymsefydlu yn swyddfa Baner ac Amserau Cymru yn Ninbych fel ysgrifennydd preifat i Thomas Gee, lle yr arhosodd hyd Ionawr 1862. Tra yn Ninbych, cafodd y syniad o ddwyn allan Encyclopaedia cerddorol Cymraeg.

Teimlai fod Cymru'n amddifad o lenyddiaeth gerddorol, a'i bod yn hen bryd i rywun fynd ati i ddiwallu angen y Cymro uniaith am wyddoniadur tebyg i'r amryw oedd ar gael yn yr iaith Saesneg.

O Ddinbych, symudodd Tafalaw i Dreffynnon i gymryd gofal o ysgol rad, ac yno yr ysgrifennodd chwe rhifyn o'r Gwyddonydd Cerddorol, sef yr unig rifynnau o'r gwaith a gyhoeddwyd yn ôl pob tebyg. Yn 1863 symudodd o Dreffynnon i Aberdâr, lle sefydlodd swyddfa argraffu, yn bennaf er mwyn parhau gyda'r gwaith o gyhoeddi'r Gwyddonydd Cerddorol.

***

MAE'N debyg mai oherwydd diffyg cefnogaeth i'w antur newydd y penderfynodd Tafalaw roi'r ffidil yn y to, ac ymfudo o Aberdâr i'r Amerig yn niwedd y flwyddyn 1866.

Roedd hyn yn golled fawr i gerddoriaeth Cymru, oherwydd roedd y gwaith o gyhoeddi'r Gwyddonydd Cerddorol yn argoeli'n dda, a buasai cyhoeddi gwyddoniadur cerddorol cyflawn yn yr iaith Gymraeg wedi bod yn gaffaeliad mawr i'r genedl dros ganrif yn ôl.

Colled Tafalaw gyda'r Gwyddonydd ... oedd ennill Hywel Cynon, a phan ymfudodd y naill i'r Amerig, prynodd y llall ei beiriant argraffu, a bu'n dilyn gwaith argraffydd gyda mesur helaeth o lwyddiant am y gweddill o'i oes, sef dros gyfnod o bron i ddeugain mlynedd.

A'r syndod mwyaf ynglŷn â Geirlyfr Cerddorol (Hywel Cynon), a gyhoeddwyd yn 1871, yw ei fod wedi ei lunio gan ŵr na allai ysgrifennu ei enw pan oedd yn ddeunaw oed, a'i argraffu ganddo heb iddo erioed dreulio yr un diwrnod o brentisiaeth fel argraffydd!