DIC A DEWI AC EBEN gan Huw Davies

DYMA ENWAU trindod od: Dic Aberdaron, Eben Fardd a Dewi Wyn o Eifion. Od eu doniau a thramawr hefyd oedd y tri yna, fel y gwyddoch chi, eithr diwrnod braf oedd hwnnw yn 1840 pan gyfarfu'r tri i felys sgwrsio.

Os trowch chi i dudalen 124 o detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, o dan Olygyddiaeth E.G. Millward, cewch y cofnod hwn o iddo Eben:

Cofiais am gofnod o'r un digwyddiad yn union a sgwennodd Eben yn 1860 sef union dair blynedd cyn ei farw a'i gladdu gyda'i wraig, ei fab a'i ddwy ferch. Ceir y cofnod y cyfeiriais ato ar dudalen 170 o gyfrol 3 o'r Brython am 1860 o dan Olygiaeth Robert Isaac Jones, (Alltud Eifion), a dyma ichi grynodeb ohono.

DALEN 0 GOFLYFR EBEN ARDD
1.Dic Aberdaron

Gorff 26fed 1838 (1840 yn ôl y Detholion), - Ar fy mynediad i mewn i'm tŷ i fwynhau ciniaw, a hi yn haf hyfryd a thesog, pwy a welwn yn eistedd ar y gadair ond DIC ABERDARON, yn prysur ysgil-gnoi torth wen geiniog, yr hon a wthiai i mewn i'w enau fesul darn gyda chryn anhawsdra am fod ei farf fel llwyn tew, braidd wedi llwyr guddio drws y twll.

Dechreuodd yr ymddiddan rhyngom am Cornelius Agrippa, 'brenin y consuriwyr' chwedl Dic; yr oedd llyfra 'Occult Philosophy' y dewin Almaenaidd gan Dic mewn rhyw logell-gydau ac mewn Lladin gyda'u cyfrinion cabalistaidd; rhoddodd un o'r llyfrau i mi i'w gweled ond pan ddechreuais ddarllen, edrychodd yn gyffrous, a rhybuddiodd fi yn frawychus i ymochel, rhag ofn canlyniadau anochel o annymunol.

Yr oedd ganddo ffydd gref yn y 'Cyfrinion' a syniad uchel iawn am Agrippa. Dywedodd fod Siôn Calfin wedi llosgi Serfetus, ond i'w holl gynllwynion yn erbyn Agrippa fethu. 'Roedd y Dewin Mawr', meddai, gan chwerthin yn wirion, 'yn medru cadw ei groen yn iach trwy ei fedr yn y gelfyddyd ddu.'

Roedd Dic yn elyn llwyr i Calfin, a dywedai mai ystyr Siôn Calfin yn y Galdaeg oedd 'Siôn y Cŵn'. Chwarddai Dic yn afreolus ysmala wrth dystio mai 'ci oedd Calfin, yn coethi a brathu, a rostiodd unwaith ysgyfarnog yn fyw'.

Toc dywedodd ei fod yn myned y diwrnod hwnnw i'r Gaerwen i ymweled â Dewi Wyn; dywedais innau fod Dewi'n anghysurus iawn ei gyflwr a than rhyw orthrwm o brudd-der ac anobaith. Atebodd Dic yn fyrbwyll `hwyrach ei fod wedi cael ei frathu gan rai o gŵn Siôn y Cŵn’.

II.Dewi Wyn
Medi 8fed 1838. – Diwrnod hyfryd, cymerais yn fy mhen i ymweled â Dewi Wyn, o Glynnog Fawr hyd i'r Gaerwen, trwy Lwyn y Ne' heibio Brysgyni, dros lechwedd y Bwlch Mawr, heibio Bron yr Erw i lawr at Hengwm a'r Monachdy i Fryn Engan, a'r atgofion fyrdd.

'Yn gnwd tew fel egin had daear,'

Yna ar hyd 'Ffordd Newydd Maughan' nas gwelswn erioed o'r blaen. Ymddangosai fel swyn o gyfnewidiad i'r llygaid a'r teimlad. Rhyw barth noethlwm anhygyrch oedd yr ardal o gwmpas y Gaerwen cyn hyn ond yn awr ymddangosai braidd fel Dyffryn Llanystumdwy, yn diroedd ffrwythlawn addurnedig â ffyrdd a choed.

Ymylid y ffordd gan irwydd prydferth, deiliog, a'i gwnelai'n rhodfa eang, ysgafn a phleserus. Sylweddolwyd disgwyliadau'r Bardd Gwyn yn ei 'Awdl i'r Gweithiwr' ple y dywed:

Yn ymyl y Gaerwen croesais glawdd a ffos y ffordd newydd, ar hyd pont bren, i droi at y tŷ. Curais y drws a daeth Dewi Wyn ei hun i'w agor. Sylwodd yn graff arnaf cyn estyn ei law i'm cyfarch yn groesawus. Llongyfarchodd fi ar fy ymddangosiad personol iach.

Desgrifiodd ei ddioddefiadau, weithiau mewn iaith gref i ddarlunio poenau uffern. Dywedodd fod ei nerves yn llawn o bowdwr neu ager ar ymdorri. Er ei holl wendid, dywedai fod ganddo nerth rhyfeddol ac anghyffredin. Profodd hyn drwy fy ngwthio yn sydyn drach fy nghefn.

Mynnai i mi geisio ei wrthsefyll a'i atal ond ni fedrwn. Dywedodd wrthyf am roi fy llaw ar y bwrdd wedyn a rhoes ei ben arni gan bwyso i'r dde ac i'r chwith. Dywedodd fod pwysau ei ben yn ddigon i ddryllio gobennydd ac fod pob cysur wedi ei dywallt allan ohono. Dywedai `0! Arglwydd Mawr' yn aml a chyffelyb ymadroddion ebychiadol.

Archodd y forwyn i wneud te imi a chymhellai fi i 'fwrw'r Sul' yno. Cerddai ôl a blaen gan fwyta'n gyflym. Daeth i'm danfon cyn belled â Chefn Pencoed, tyddyn cyfagos.

Sylwais mor ddedwydd y gallai fod mewn tirwedd mor hyfryd yn porthi'r Awen ym mynwes y coed-lennyrch, ond iddo ymddiosg o'i brudd-der a'i anobaith.

'Na', meddai, 'petae y lle yma'n Ardd Eden ac Adda ac Efa'n rhodio yma fraich ym mraich, ni fedrwn fod yn hapus.'

Ysgydwasom law ac ymadawsom.

Ychydig feddyliais tra'n cyd-ymddiddan, ar ddamwain, a'r ddau ddyn rhyfedd yma, Dic a Dewi, fod yr adran arall o fwa eang ac aruchel cylch ein cyfarfyddiad yn ymestyn i oruchafion tragwyddoldeb. Ymadawsom yn y ddau amgylchiad i beidio â chydgyfarfod byth mwyach yn y byd hwn!