HEN NODAU DEFAID CYMRU ~
William Linnard yn archwilio'r clustiau

    Llyfr, o ddi-ball fawr ddyben, - a threfnus
    Wir hwylus gyfrolen;
    Helpu pawb hwylio pob pen,
    Yn barchus i'w iawn berchen.

CYFLWYNIAD yw'r englyn hwn gan John Jones i'w lyfr Cyfarwyddwr y Bugail (1910), sy'n cynnwys nodau clustiau defaid yn ardal y Mynydd Du yn hen siroedd Caerfyrddin, Brycheiniog a Morgannwg. Mae'r arfer o farcio defaid gyda thoriadau arbennig ar eu clustiau i ddynodi'r perchennog yn hen iawn ledled Cymru, ac mae'r englyn uchod yn ddisgrifiad gwych o bwrpas y llyfr.

Detholiad o nodau Cyfarwyddwr y Bugail

Mewn gwirionedd, gall pob casglwr llyfrau gwerth ei enw werthfawrogi y syniadau sydd ynddo hefyd, gan fod llyfrau yn tueddu i grwydro o'u cartrefi weithiau, yn union fel y mae defaid yn crwydro o'u cynefin. Nid gormodiaith ydyw, felly, i ddweud bod plât perchennog mewn llyfr yn cyfateb i nod clust ar ddafad.

Gan fod cannoedd lawer o gyfuniadau gwahanol o nodau clustiau yn bosibl, mae'n amlwg fod angen rhestr neu gofnod parhaol ohonynt i helpu ffermwyr i adnabod defaid dieithr. Cyhoeddwyd y llyfrau nodau printiedig yn gyntaf yng Nghymru yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf, ond cyn iddynt ymddangos defnyddiai y ffermwyr lyfrau llawysgrif, neu bapurau gyda'r nodau wedi eu hysgrifennu neu wedi eu torri arnynt.

Y llyfr nodau cynharaf y gwyddom amdano yw hen lyfr llawysgrif o 1825, gan Hugh Edwards, Cae-coch, ger Dolgellau, sydd yn awr i'w weld yn yr Oriel Amaethyddol yn yr Amgueddfa Werin.

***

OND MAE'N amlwg o'n llenyddiaeth fod yr hen arfer o farcio clustiau defaid yn mynd yn ôl ymhell cyn 1825. Disgrifiodd William Morris fanylion nod clust ym Môn yn 1760: ‘carrai dan fy nghlust ddeau a dau fwlch tan yr aswy'.

Ym Maenor Granant (Sir Benfro) disgrifiwyd nod dafad fel hyn yn 1794: 'gwennol un de, cilhollt dano, pickwarch un yr ase'. Ac yn ewyllys Rees Ridderch o Gaio, Sir Gâr (1740) ceir y disgrifiad cynharaf o nod unigol y gwn i amdano, sef 'carrey o war y clust deheu, gwennol ymlaen yr asse'.

Ceir tystiolaeth am yr arfer gan y geiriadurwyr cynnar hefyd. Dyma John Davies, Mallwyd yn disgrifio canwyr yn 1632 mewn Lladin fel: 'rhych mewn ffurf V a dorrir yng nghlustiau anifeiliaid ar gyfer cydnabyddiaeth'.

Rhydd y disgrifiadau uchod ryw amcan inni o gyfoeth ac amrywiaeth yr eirfa a'r ffurfiau tafodieithol a geir yn y nodau. Er enghraifft: 'cornpicin' yw'r term yn y Gogledd ond 'pal' neu 'p(r)enlleswch' yw'r gair yn y De am yr un nod.

Dyma enghraifft arall: ceir `canwer' neu 'canwyr' yn y Gogledd, ond 'llysenfforch' yn y Mynydd Du, 'clust-wenfforch' ym Morgannwg, a 'gwennol' yn y Gorllewin, sef pedwar term gwahanol am yr un nod syml.

Byddai'n bosibl i roi nifer fawr o enghreifftiau eraill, ond yn ôl nawr at y llyfrau printiedig. Erbyn hyn mae gennym nifer sylweddol o lyfrau nodau clustiau, hen a diweddar, sy'n ymestyn dros gyfnod hir o 120 o flynyddoedd, ac sy'n delio â phob rhan o Gymru.

Yn ôl fy nghofnodion, byddai'n bosibl i greu casgliad diddorol a gweddol gyflawn o oddeutu 17 o gyfrolau printiedig, a hynny heb gyfrif y llyfrau 'gwag', neu y blank sheets, a argraffwyd gyda channoedd o bennau defaid â chlustiau cyflawn arnynt.

Pwrpas y llyfrau gwag hyn oedd i'r ffermwyr eu hunain lenwi manylion eu nod hwy a nodau eu cymdogion a ffermwyr eraill y cylch, ynghyd ag enw priodol y fferm ar gyfer pob nod.

***

Y CYNTAF oll ymhlith y llyfrau printiedig oedd Y Clustnodydd, neu Gydymaith y Bugail, gydag oddeutu ddeuddeg cant o wahanol nodau wedi eu casglu gan y diweddar John Roberts, Rhyd-y-Felin; cyhoeddwyd y llyfr gan Richard Jones, Henfache, ac fe'i argraffwyd gan H. Humphreys (Caernarfon, 1868).

Yn fuan ar ôl ymddangosiad y llyfr hwn, cyhoeddodd T.W. Hancock erthygl ddiddorol ar 'Sheep Ear Marks, or Pastoral Heraldry' (Mont. Colls. 1874, tt. 405-8), gyda lluniau y prif nodau. Wedyn daeth Lewis Jones, Bwlch, Dinas Mawddwy a'i lyfr poblogaidd Cydymaith y Bugail (Machynlleth, 1888), yn cynnwys dros ddwy fil o nodau yn Siroedd Meirion, Maldwyn a Cheredigion. Fel cyflwyniad i'w lyfr ceir englyn hyfryd gan R. Jones, Ty'n-y-braich:

Tua throad y ganrif, cyhoeddwyd taflen 'Tir Iarll's Sheep Ear Marks/Nodau Clustiau Defaid Tir Iarll' gan 'Cadrawd', y casglwr selog o lên gwerin Morgannwg (gw. Llun 2).

***

CYHOEDDWYD llyfr pwysig yn y De gan John Jones a J. Llewelyn Evans, sef Cyfardwyddwr y Bugail, sef Casgliad o Ffroen, Haiarn, Pyg a Chlustnodau Defaid o Amgylch Ogylch y Mynydd Du, yn Siroedd Caerfyrddin, Brycheiniog a Morgannwg (Llandilo, 1910).

Yn eu cyflwyniad, dywed yr awduron: 'Felly, taer erfyniwn arnoch, un ac oll, pa bryd, a phle bynnag y gwelwch ddefaid yn pori ar ddisperod, i anfon gwybodaeth am y cyfryw yn barchus i'w hiawn berchen, gan actio y rheol euraidd, gwneud i eraill fel yr ewyllysiech i eraill wneuthur i chwi, wrth hwn:

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cyhoeddwyd llyfr gan Hugh Ellis, Blaenpennant, Llandrillo, Corwen, sef Clustnodydd neu Logell Lyfr y Bugail (Y Bala (1919) ), gydag englyn arall ynddo:

Mae'r llyfr hwn yn cynnwys 'dros ddau cant-ar-bymtheg o nodau yn Siroedd Meirion, Dinbych a Maldwyn, a gasglwyd gan fugail profiadol ym mhob ardal'.

Yn 1924 cyhoeddwyd llyfryn bach gan R. Davies, ysgolfeistr yn Llwynihirion, Brynberian, gyda chymorth ei ysgolheigion yn y dosbarth uchaf: Llyfr Nodau neu Llaw-lyfr Bugeiliaid Mynydd Preseli, sef casgliad o ddau gant o nodau clustiau defaid yn ardaloedd Mynachlogddu, Brynberian a Thafarn Newydd. Yn fuan wedyn, ymddangosodd ail gasgliad neu atodiad tenau iddo gan yr un awdur, yn cynnwys 111 o nodau defaid a merlod ychwanegol.

Yr oedd galw mawr a chyson am y llyfrau nodau clustiau, mae hynny'n amlwg. Llyfrau gwaith oeddynt ac ydynt o hyd, wrth gwrs, ac felly maent yn treulio. Ac er bod y nod clust yn perthyn i'r fferm ac nid i'r ffermwr, gyda threigl amser mae newidiadau yn digwydd, ac mae cywiriadau a gwelliannau yn dyfod yn angenrheidiol.

Er enghraifft, adargraffwyd ac addaswyd Cyfarwyddwr y Bugail ... Y Mynydd Du (1910) gan Howell Lewis, New Inn, Llandeilo rhywbryd ar ôl 1950 (?tua 1960); William Lewis Cyf., Caerdydd, oedd yr argraffwr, ond ni roddodd flwyddyn y cyhoeddiad ar ei lyfr newydd.

***

FFRWYTH gweithgarwch unigolion oedd y llyfrau uchod i gyd, gyda chydweithrediad y ffermwyr o bell ac agos. Ar ôl yr Ail Ryfel, fodd bynnag, daeth tro ar fyd, ac erbyn y chwedegau, yn wyneb y broblem gynyddol o rustlers proffesiynol yn dwyn defaid yn ein cefn gwlad, wele Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yn cydweithredu gyda'r Heddlu i baratoi cyfres gyfoes o lyfrau nodau clustiau defaid.

Erbyn hyn, mae nifer go dda ohonynt wedi ymddangos: Llyfr Nodau Clustiau Defaid Sir Gaernarfon (1968); Llyfr Nodau Clustiau Defaid Sir Gaernarfon (1968); Llyfr Nodau Clustiau Sir Feirionnydd a'r Gororau (1974); Denbighshire Sheep Eatmark Register (1975); a Register of Ear/Pitch Marks, NFU Brecon & Radnor County Branch (pedair cyfrol, 1982-1984).

Gyda nodau, wrth gwrs, mae cysondeb yn holl bwysig, a seiliwyd y llyfrau uchod i gyd ar yr hen lyfrau nodau clustiau i'r ardaloedd perthnasol. Yn yr un modd, seiliwyd Llyfr Nodau Preseli, Frenni a Charn Ingli, gan D. Lloyd Davies, Mynachlogddu (d.d.) ar waith ei ragflaenydd R. Davies yn 1924 (gw. uchod).

Nid llyfrau sych o nodau mohonynt. Perthyn pob nod i fferm arbennig, ac felly ceir yn y llyfrau hyn nid yn unig ddisgrifiad gwych technegol a thafodieithol o'r nodau, ond hefyd restrau cyfoethog o hen enwau hanesyddol y ffermydd ar fynyddoedd Cymru (gw. Llun 3). Llyfrau 'di-ail', yn wir, chwedl R. Jones, Ty'n-y-braich: