PILENNI A CHYHOEDDIADAU'R RHYFEDDOL ALLTUD EIFION ~ Dafydd Guto yn crynhoi'r bywyd a'r gwaith

AR YR 11eg o fis Mawrth 1905 ac yntau'n 91 mlwydd oed, claddwyd Robert Isaac Jones, sef 'Alltud Eifion' fel y'i hadwaenid oddi wrth yr enw barddonol a roddwyd iddo ar ei dderbyniad i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Biwmares, 1832. Claddwyd yr Alltud yn yr un ddaear ond nid yr un bedd rhai o'r gwroniaid y cyhoeddodd eu hanesion, John Ystumllyn, y Bachgen Du, a Dafydd y Garreg Wen. Ym mynwent Eglwys Cynhaearn ger Pentrefelin, Cricieth, y digwyddodd hynny.

Yn yr un plwyf ag y'i claddwyd, y ganed Alltud Eifion, ac yn l Map Degwm 1842 delid gafael ar ei hen gartref, sef Tyddyn Iolyn, drwy'r rhent gan wreigan o'r enw Gaynor Jones, sef mam yr alltud. Ond sut un oedd yr Alltud o ran gwedd a chorff? Dyma sydd gan un Mr Hughes o Langynog i'w ddweud amdano, ym mis Rhagfyr 1886:

Yn Nhremadog y bu byw y rhan helaethaf o'i fywyd, a phriodi deirgwaith.

Hanai o ochr ei fam o deulu'r Dr Roberts, Isallt, Llanfihangel y Pennant, teulu a ddaeth i enwogrwydd fel meddygon o fri. Dilynodd yr Alltud yntau eu camrau, ond fel fferyllydd a chyhoeddwr llyfrau y gwnaeth ef ei fywoliaeth. Sefydlodd fusnes fferyllol yn Nhremadog yn y Neuadd Fferyllol, yr Institiwt ar Sgwr y Dref heddiw.

Yma y bu'r 'Cambrian Pill Depot' enwog, gyda'r arwydd ar un amser ar dalcen yr adeilad. Daeth pilenni'r Alltud yn dra enwog, a hynny oherwydd i'w crwr eu canmol i'r cymylau drwy eu hysbysebu ledled Cymru a thros Glawdd Offa. Tystia iddo dderbyn canmoliaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar i'r pilenni, a sylwch pa mor graff ydyw mewn busnes gyda'r dyfyniad hwn o Baner ac Amserau Cymru Chwefror 3, 1864 t.1:

***

OND ymestynnai craffter busnes yr Alltud ymhellach na hynny. Fe wyddai mewn busnes ei bod yn angenrheidiol ymroi i faterion beunyddiol yn ei gymdeithas. Dengys llawysgrif XJ401 yn yr Archifdy yng Nghaernarfon sut yr ymladdodd dros roddi statws i dref Tremadog. Ym mis Mawrth 1894 anfonwyd deiseb ac arni enwau rhai o drethdalwyr y dref i'r Prif Arolygydd Sirol sef y Cadfridog A.A. Ruck, yn gofidio fod yr Awdurdod Heddlu am gael gwared ar yr heddwas o Dremadog a'i leoli ym Mhorthmadog.

Alltud Eifion a ysgrifennodd y llythyr cyflwyniad i'r ddeiseb ac y mae'n sicr ei fod yn un o bobl busnes blaengar y dre, a gellid tybio mai ef oedd y prif ysgogwr i lunio'r fath ddeiseb.

Ef hefyd oedd Is-Gadeirydd Pwyllgor Eisteddfod Dyffryn Madog, sef Eisteddfod Eryri yn 1877, ac a fu'n gyfrifol dros restru'r testunau mewn iaith fain drybeilig, er difyrred yr olwg yw'r testunau eu hunain! Plentyn Addysg ei oes oedd ef. Ac iddo ef roedd Saesneg yn gyfystyr ag Eglwysyddiaeth aruchel hen Eglwys Loegr.

***

0 SYLWI ar nifer y cyhoeddiadau a ddaeth o Wasg Tremadog rhaid dod i'r casgliadau canlynol:

(a) selogrwydd Alltud Eifion dros grefydd. Mae'n Eglwyswr pybyr, un a drodd oddi wrth anghydffurfiaeth gan geisio cynnal diddordeb ei gydwladwyr mewn Eglwysyddiaeth, ei haddysg a'r Ysgol Sul yng Nghymru benbaladr.

(b) Natur y testunau a gyhoeddodd sy'n dangos ei fod yn ymddiddori mewn cyhoeddi deunydd amrywiol. Barddoniaeth. Bywgraffiadau. Fe'u cyhoeddodd, ond daeth `llyfrau bro' o'i Wasg yn ogystal, sef llyfrau a oedd yn gymysgedd o hanesion a disgrifiadau daearyddol o'r brydd Cymraeg.

(c) Mae'n ymddangos ei fod yn ymwybodol o beth a apeliai at ei ddarllenwyr, yn cadw'n glos at batrwm testunol: arwyr, deunydd lleol, buchedd, crefydd.

(ch) Ceisiodd fod yn gwbl safonol o ran diwyg, ei gynulleidfa oedd y dosbarth newydd o bobl oedd yn bodoli yn ei Gymru: masnachwyr ym Mhorthmadog; y Gymru wledig yn y pentrefi oddi amgylch; y Caban a'i chwarelwyr ym mro'r chwareli llechi.

(d) cyflwynodd lyfrau nad oedd yn feichus hir. Maent yn fyrion, rhai ohonynt, er mwyn denu darllenwyr o bosib.

Diolchiadau

Dymunaf ddiolch i'r canlynol oherwydd buont o gaffaeliad ac o gymorth garw tra wrth y gwaith o lunio'r erthygl uchod: Dafydd Harbourne, Caerdydd; Dewi Williams, Penmorfa; Archifdy Arfon; Steffan ab Owain; Staff Llyfrgell Arfon/Dwyfor, Caernarfon, yn arbennig y llyfrgellydd hynaws a medrus, John E. Jones, Adran Gyfeiriadol; Adran Lawysgrifau, Llyfrau a Newyddiaduron Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

***

DYMA'R gweithiau y bu Alltud Eifion yn eu cyhoeddi a'u golygu. Rhestrwyd yn gronolegol. Nid yw'r cyfan o'r cyhoeddiadau wedi'u rhestru. Erys rhai cyhoeddiadau nas rhwydwyd.

Di-ddyddiad
Anerchiadau caredig at athrawon ac athrawesau yr Ysgol Sul yng Nghymru ynghyda rheolau er iawn ymddygiad i'w deiliad ac eraill ... ac atodiad gan y diweddar Ellis Owen, Cefnymeusydd; 8t.

1857
Dafydd Lwyd neu ddyddiau Cromwell. Chwedl. a.; 24t.

1858
Cyhoeddwyd Y Brython am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 1858, a bu Daniel Silvan Evans (Daniel Las) yn cyd-olygu Robert Isaac Jones (Alltud Eifion) hyd y flwyddyn 1860. Ymddangosodd Y Brython fel misolyn yn 1859; pris 3c; daeth i ben yn 1863.

1859
Cyfansoddiadau Cystadleuaeth Llenyddol Dolwyddelan. Dydd Llun y Sulgwyn 1859 sef marwnad a beddargraff y diweddar Barch. Cadwaladr Owen ac englyn ar gofgolofn y diweddar Barch. John Jones, Talysarn ynghyd beirniadaeth Eben Fardd; 3c; 15t.

1861
Gwaith barddonol Sin Wyn o Eifion, sef John Thomas, Chwilog ynghyd a chofiant o fywyd yr awdur; 2/6; 120t.

1862
JONES, William. Plwyf Beddgelert ei hynafiaethau a'i gofiannau; o'r Brython. Cyhoeddwyd yn Y Brython Mawrth - Rhagfyr 1861.

1863
EBEN FARDD (Ebenezer Thomas) Cyff Beuno, sef awdl ar adgywiriad Eglwys Clynnog Fawr, ynghyd nodiadau hynafol, achyddiaeth, diaregaeth y plwyf, rhestr o'r beirdd a'r llenorion, a nodiadau o hynodion y bardd; 126t.

1864
EVANS, D. Silvan (Go].) Y Marchog Crwydrad. Hen Ffuglith Gymreig; 56t.
GRIFFITH, John Owen (Ioan Arfon) Traethawd ar llechfeini Sir Gaernarfon*.
IOAN AB HU FEDDYG (J. Pughe) Eben Fardd ei nodion a'i hynodion gyda chwanegiadau ac atodiad; a.a.; 48t.

*Cyhoeddwyd y traethawd 'Llechfeini Sir Gaernarfon' yn Y Brython 1863 tt.406-15.

1865
NICANDER (Morris Williams) Awdl ar Sant Paul. Testun y Gadair yn Eisteddfod Aberystwyth; 6 ch.; 67t.

1870
Dechrau ar y gwaith o olygu Baner y Groes, cylchgrawn Eglwysig;
Catecism yr eglwys ar gn, wedi ei dorri yn benodau byrion hawdd eu dysgu i blant yr Ysgol Sul, o waith Sin Fychan, bardd yn y flwyddyn 1627; 12t.

1875
PARRY, G. Hopkins, Y Parch, Llanbedrog. Yr Hyfforddwr Eglwysig neu lawlyfr i gyfarwyddo yr Eglwyswr Ieuanc, a hen, er iawn ddeall a ddilyn ffurfwasanaeth yr eglwys; 47t.

1877
Cell Meudwy, sef gweithiau a bywgraffiad Ellis Owen FSA, Cefn-y-meysydd; 146t.

1882
GRIFFITH, John Owen (Ioan Arfon) Traethawd ymarferol ar lechfeini Sir Gaernarfon; 3ydd arg.; 28t.

1884
ERYRI, Gwilym. (William, Roberts) Awdl ar Gwilym Hiraethog; testun Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llynlleifiad; 30t.
Hanes ac achyddiaeth teulu Isallt a'u cyff-genedl, am y ddau chanrif diwethaf, i ba rai y tarddodd deg-ar-hugain o feddygon, wedi ei gasglu gan R.I.Jones, Swyddfa Madog; 130t.
HUGHES, John G. (Ioan Moelwyn), Tanygrisiau. Er cof am Mr. Manoah Williams, Tresaethon, Croesor yr hwn a fu farw Awst 5ed 1883. Buddugol yng Nghyfarfod Llenyddol Croesor Mehefin 14eg 1884; 4t.

1888
John Ystumllyn neu Jack Black, hanes ei fywyd, a thraddodiadau amdano, o'r amser y dygwyd ef yn wyllt o Affrica; a.a. yn y 70au o'r g. bresennol gan D. Trevor Roberts, Criciath ar ran Young, Llanystumdwy.

1889
Yr Emynydd Cristnogol, yn cynnwys emynau ar wahanol destunau ac a gyfansoddwyd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf; 44t.

1891
GRIFFITH, Richard (Carneddog) Ceinion y Cwm, sef cyfansoddiadau barddonol; 128t.
Notes on Wern, Pentrefelin; cyh preifat.

1892
Y Gestiana, sef hanes Tre'r Gest, yn cynnwys cofnodion hynafol plwyfi Ynyscynhaiarn a Threflys ac hefyd beddgreiff y ddwy fynwent, hanes Dyffryn Madog ... ; 188t.; a.a. 1975.

1904
SALT, George, Llanfrothen. Atgofion Ieuenctid; 29t.

***

ROBERT ISAAC JONES A'I FAB, TREMADOG

1909
Rhestr testunau Eisteddfod Gadeiriol Criciath Mawrth 28ain 1910;1g, 16t.

1910
Rhaglen Pwyllgor Ymrysonfa Aredig Dyffryn Madog. Ymrysonfa Tremadog, Chwefror 23 1910; un daflen.
Sioe Cymdeithas Ceffylau, Cŵn a dofednod Porthmadog. Rhestr wobrwyo (S) Mai 4ydd 1910; 22t.
Sioe Gŵn Defaid (S). Rhestr Dosbarthiadau Awst 27ain 1910; 8t.
Rhestr gystadlaethau. Rhaglen (S) ig.; 8t.

1911
Pwyllgor Ymrysonfa Aredig Dyffryn Madog. Chwefror 25ain 1911. Gwobrau. Llawlyfr Cylchwyliau Cerddorol; 28t.

***

DEUNYDD A YSGRIFENNWYD AM ROBERT ISAAC JONES (ALLTUD EIFION)

DAVIES, Edward. Hanes Porthmadog. Cwmni Cyh. Cymreig 1913; Eifion Wyn yn trafod Alltud Eifion tt.140-1.
ELLIS, Mary. Robert Isaac Jones. Alltud Eifion (1814-1905) Portread. Yr Haul a'r Gangell 1975. tt.16-21.
HUGHES, John Elwyn. Yr Hen Alltud. Yr Wylan Mehefin 1983 t.11.
HUGHES, R. Price. Barn y Bobl. Llythyrau at y Golygydd. Ymweliad ag Alltud Eifion y Sadwrn olaf o Ragfyr 1886. Yr Herald Cymraeg a'r Genedl Chwefror 12fed 1940, t.8.
JONES, J. (Myrddin Fardd) Enwogion Sir Gaernarfon. Gwasg Genedl Gymreig 1922 tt.205-6.
ROBERTS, O.E. Meddygon a gwyddonwyr Eifionydd. Cyngor Sir Gwynedd. Gwasanaeth Llyfrgell, 1984 tt.13-15.
ROWLANDS, William. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, t.481.
WATKINS, Elizabeth X. Bwlch lle bu'r carreg. Yr Wylan Mai 1980 t.8.

***

LLAWYSGRIFAU

Fy niolch i Tomos Roberts, Archifydd, Adran y Llawysgrifau, Y Llyfrgell, Coleg Prifysgol Cymru, Bangor, am yr wybodaeth ganlynol:

Llawysgrifau yn ymwneud ag Alltud Eifion yn yr Adran uchod:
Bangor 2434: Papurau teuluol, llawer ohonynt yn ymwneud Thyddyn Iolyn, Ynyscynhaearn; llythyrau Alltud Eifion at ei rieni 1830-38; llythyrau at ei frawd John Jones, Bryntirion, Dolyddelan; llythyrau amrywiol.
Bangor 2435: Llyfr Rhent Tyddyn Iolyn.
Bangor 2438-2441: Llyfrau Cyfrifon Tyddyn Iolyn.
Bangor 2936: Llythyr yn llaw Alltud Eifion yn rhoi hanes Y Brython.
Bangor 4181(31): Llythyr yn llaw Alltud Eifion yn cynnwys ei atgofion am deulu Gellidara.
Bangor 25132: Cyfrol yn cynnwys emynau, englynion ac yn llaw Alltud Eifion ei hun (ei waith ei hun gan mwyaf).
Cynhaiarn 191-94:

Gweithredoedd yn ymwneud ag Alltud Eifion a'i deulu sef morgais ar Dyddyn Iolyn 1843; cytundeb priodas Alltud Eifion a'i wraig Martha Roberts; ewyllys Gaynor Jones, mam Alltud Eifion, a llythyr oddi wrth yr Arglwydd Penrhyn at Thomas Jones, Cynhaiarn yn cynnwys cyfraniad i dalu dyledion Alltud Eifion.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
Gw. Rhestr Llawysgrifau Cyf. 155 rhan 2-20 t.57 rhifau 8515B-8527; hefyd 756-7; 3292; 755; 9225.9228; 9486E; 10184; 948313; 1025813; cynnwys nifer o lythyrau at wroniaid y genedl Gymreig.

Rhestr Llawysgrifau Cyf. 155 rhan 2-27, a hefyd Rhestr Llawysgrifau Cyf. 155 rhan 1-10.