CYLCHREDIAD Y FANER, FFEITHIAU A CHWEDLAU...
...A THYBED A DRODD Y FIFTEEN YN FIFTY? ~
Ymchwil ddadlennol Philip Henry Jones

OHERWYDD amharodrwydd cyhoeddwyr i ddatgelu ystadegau a fyddai o fantais i'w cystadleuwyr, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar glawr ynglŷn â chylchrediad newyddiaduron Cymraeg yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf – llai, yn wir, nag am gyfnod y stamp ceiniog gorfodol rhwng 1836 a 1855. Gan fod cyn lleied o lyfrau cownt cyhoeddwyr wedi goroesi, rhaid dibynnu i raddau helaeth ar osodiadau a wnaed yn ystod yr ymgecru cyson a oedd yn elfen mor amlwg yn hanes y wasg gylchgronol.

Ni ellir ymddiried yn y rhain: fel y dywedodd William Spurrell yn 1858 am gyhoeddwyr Cymru, 'one exaggerates in order to puff his property, and another takes the opportunity to avoid risk of competition'. Mae gwerth arbennig iawn, felly, i'r ychydig lyfrau cownt sydd wedi goroesi. Yn eu plith, yn ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae gweddillion archifau Gwasg Gee.

Er mai bylchog iawn yw'r defnyddiau yn achos y Faner, ac er ei bod yn rhaid dehongli'n ochelgar, maent yn datgelu tipyn o hanes cylchrediad y papur ar dair adeg dyngedfennol, sef - yn ystod ei flwyddyn gyntaf, yna yn 1886-7 pan fu, am ysbaid, yn bleidiol i Joseph Chamberlain yn hytrach na Gladstone, ac yn olaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Rhaid cofio, wrth gwrs, mai nifer y copïau a argraffwyd a ddatgelir yn y ffigurau hyn: gwyddom y byddai llawer mwy o bobl yn gweld copi o'r papur (neu'n clywed rhywun yn ei ddarllen) ond nid oes modd ymarferol i geisio amcangyfrif maint y 'cyhoedd' ehangach hwn.

***

PAN gychwynnodd Thomas Gee'r Faner ddechrau Mawrth 1857, 'roedd y papur yn dra gwahanol i'r wythnosolion Cymraeg eraill a sefydlwyd yn sgîl diddymu'r dreth ar newyddiaduron ganol 1855. Papurau ceiniog oedd y rhain, ac eithrio un, Yr Eifion, a werthid am ddimai.

Amcanai Gee gynhyrchu papur ar gyfer arweinwyr y genedl, un a fyddai, fel yr ysgrifennodd at Edward Morgan, Dyffryn, ddiwedd Hydref 1856, 'of a superior class ... of a distinctly religious character ... and as liberal in politics as you please'.

Gan mai nod gwreiddiol Gee oedd apelio at yr 'elite' radicalaidd-anghydffurfiol yn hytrach na thrwch y boblogaeth gallai fentro codi'r pris uchel o dair ceiniog am y papur.

Ceir ychydig o hanes misoedd cyntaf y Faner yn Llsgr. Llyfrgell Genedlaethol Cymru 20151C, cyfrol sy'n nodi'r gwaith a wnaed bob diwrnod gan argraffwyr Gee rhwng 1856 a 1861. Yn anffodus fe gollwyd diwedd y gyfrol cyn iddi gyrraedd y Llyfrgell, mae'r ffigurau weithiau'n fylchog ac ar adegau eraill yn anodd i'w dehongli oherwydd gwallau rhifyddol gan weithwyr Gee.

Y ffigurau mwyaf dibynadwy yw'r rhai sydd yn ymwneud â'r nifer o ddalennau o bapur a wlychwyd ar gyfer pob eitem a argraffwyd. (Er i swyddfa Gee gynnwys peiriannau argraffu yn ogystal â gweisg o 1853 ymlaen, bu'n rhaid parhau, am flynyddoedd lawer, â'r hen arfer o wlychu'r papur cyn argraffu i'w feddalu er mwyn sicrhau bod y teip yn gwneud argraff foddhaol arno).

Yn achos y Faner 'roedd pob dalen a wlychwyd yn cyfateb i un copi o'r papur.

Ar gyfer y rhifyn cyntaf, gwlychwyd tri rîm o bapur. Amcanai Gee fod pum can dalen i'r rîm, felly dyna 1500 o gopïau o'r rhifyn cyntaf yn ogystal â chant a hanner o gopïau ar bapur wedi ei stampio'n barod ar gyfer eu cludo gan y post.

Gwlychwyd rîm ychwanegol ar gyfer yr ail rifyn – dwy fil o gopïau, ac erbyn Ebrill 1857 'roedd deg 'token' o bapur yn cael eu gwlychu. Amcangyfrifid dau gant a hanner o ddalennau i'r 'token', felly 'roedd y cylchrediad wedi codi i ddwy fil a hanner.

Ond yna, fel yn achos llawer o bapurau a chylchgronau eraill, pallodd diddordeb y cyhoedd. Erbyn dechrau Awst saith 'token' – 1500 o gopïau, ac erbyn Rhagfyr dim ond dau rîm a phedwar cwir ar ddeg – 1350 o gopïau.

Ar ôl hyn fe ddechreuodd pethau wella: ddechrau Mawrth 1858 gallai Gee ddweud (fel cyfrinach, wrth gwrs) wrth Thomas Stephens, Merthyr, mai rhwng 1600 a 1700 oedd cylchrediad y Faner, ei bod yn broffidiol, a bod iddi rhwng ugain a phump ar hugain o dderbynwyr newydd bob mis.

Yn ôl y llawysgrif, 'roedd dau rîm ac un cwir ar bymtheg o bapur yn cael eu gwlychu tua'r adeg hynny – tua 1400 o gopïau, ffigur digon agos i'r hyn a hawliai Gee.

***

YN ANFFODUS, ni chofnodir yn y llawysgrif y nifer o gopïau o'r Faner a argraffwyd o fis Mawrth 1859 ymlaen: y ffigur nesaf a geir yw'r un am y 10fed Tachwedd 1860. Erbyn hyn 'roedd Gee wedi prynu'r Amserau (am dri chan punt, ddechrau Hydref 1859) a'i huno â'r Faner: gellid disgwyl, felly, gweld cynnydd sylweddol yn y cylchrediad.

'Roedd y nifer o ddalennau a wlychwyd – chwe rîm a deg cwir a hanner – yn cyfateb i dros 3260 o gopïau.

Cyn gynted ag y synhwyrodd Gee fod y Faner wedi ennill ei phlwyf, cychwynnodd ei ail newyddiadur, Udgorn y Bobl. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar yr 20fed o Fawrth 1858 – nid yn 1857, fel y dywed Ifano, nac yn 1859 ychwaith fel y myn Llenyddiaeth fy Ngwlad!

Honnai Gee mai ymateb oedd yr Udgorn i'r galw am bapur ceiniog a fyddai'n darparu llawer o gynnwys y Faner ar gyfer y 'dosbarth mawr yn y wlad' a oedd yn 'analluog i gyrhaedd pris y Faner'.

Gwelwn yma graffter masnachol Gee: ni chyhoeddodd bapur rhad yn gyntaf oherwydd y byddai wedi wynebu cystadleuaeth uniongyrchol oddi wrth y papurau ceiniog eraill. Arhosodd nes iddo fedru elwa ar fri'r Faner.

Argraffwyd mil o gopïau o'r rhifyn cyntaf o'r Udgorn ac fe gynyddodd y cylchrediad yn raddol gan gyrraedd tua 1550-1650 o gopïau'r wythnos erbyn Tachwedd 1860. Yna, o ddechrau Gorffennaf 1865 ymlaen, cyhoeddwyd argraffiad Sadwrn y Faner – 'y Faner fach' – yn lle'r Udgorn.

***

YN YSTOD y 60au bu'r cynnydd mwyaf sylweddol yng nghylchrediad y Faner. Fel canlyniad i ddiddymu'r dreth ar bapur bu'n bosibl gostwng pris Baner dydd Mercher o dair ceiniog i ddwy geiniog o ddechrau Hydref 1861 ymlaen.

Hyrwyddwyd dosbarthu'r papur gan ddatblygiad y rheilffyrdd yng Nghymru, menter a gefnogai Gee'n frwdfrydig. Erbyn 1869, yn ôl 'Machine Room and Piece Book' y wasg, 'roedd 22 rîm o'r Faner yn cael eu hargraffu bob wythnos, 12 rîm - 6000 o gopïau - o'r Faner a 10 rîm - 5000 o gopïau - o'r 'Faner fach'.

Parhaodd y cylchrediad i godi yn ystod y 70au, ond erbyn hyn 'roedd y cynnydd yn arafach o lawer, a bu newid pwysig yng nghyfansoddiad prynwyr y papur. Erbyn 1877 'roedd y nifer o gopïau o Faner dydd Mercher a argraffwyd wedi disgyn o 6000 i 5500 yr wythnos ond 'roedd cylchrediad y ‘Faner fach' wedi codi o 5000 i 9000.

Yn ystod y 60au 'roedd y Faner wedi ennill darllenwyr ymhlith y Cymry a oedd yn gymharol gefnog: yn ystod y 70au llwyddodd i ddenu llu o brynwyr o haenau cymdeithasol is.

Ymddengys i'r rhyfel rhwng Rwsia a Thwrci yn 1877 fod yn gyfrifol am ehangu cylchrediad y Faner ymhellach dros dro: yn Hydref y flwyddyn honno argraffwyd rhwng 31 a 33 rîm o'r papur – 15500 i 16500 o gopïau'r wythnos. Ond ar ôl i'r hanesion o Plevna a Kars golli eu hapêl cwympodd y cylchrediad yn ôl i ryw 14500 yr wythnos.

***

ERBYN yr 80au 'roedd i'r Faner le arbennig iawn fel prif lais radicaliaeth anghudffurfiol Cymru. Mynnai Gee ei bod yn bapur cenedlaethol, ond nid oedd yn barod i ddatgelu ei gylchrediad. Er mwyn denu hysbysebwyr byddai'n dosbarthu mapiau a ddangosai fod gan y Faner rhyw 500 o asiantau a dosbarthwyr ym mhob cwr o Gymru.

Ond yn 1887 fe ymddengys i’r 'dirgelwch' ynglŷn â chylchrediad y Faner gael ei chwalu. Sefydlodd y llywodraeth ymholiad i archwilio i achosion Rhyfel y Degwm ac un o'r tystion oedd Howel Gee, mab Thomas.

Amcan gelynion Gee wrth ei groesholi oedd darganfod cylchrediad y Faner er mwyn profi dwy ddamcaniaeth.

Y gyntaf, ar led ers gwanwyn 1886, oedd bod cylchrediad y papur wedi cwympo'n sylweddol oherwydd bod Gee wedi cefnogi Chamberlain yn hytrach na Gladstone pan rwygwyd y blaid Ryddfrydol.

Yr ail oedd mai'r cwymp yn ei chylchrediad a wnaeth i'r Faner gefnu ar Chamberlain yn ystod haf 1886. At hyn, mynnai rhai (eglwyswyr yn bennaf) mai ystryw ar ran Gee er mwyn adfer cylchrediad y papur oedd ei ymgyrch yn erbyn y degwm.

Dyma dalfyriad o'r rhan berthnasol o adroddiad y Comisiwn. Rhaid ei ddyfynnu yn Saesneg am reswm a ddaw yn amlwg cyn bo hir:

Holwr: Will you tell the commissioner what is the number of your circulation?

Howel Gee: Yn petruso

Holwr: About 800?

Howel Gee: Yn gwenu. '800'

Holwr: Can you answer?

Howel Gee: 'I will give you an answer although I do not think you have the right to ask me. It is more than 8000. I think it is rather an insult to say 800'.

Holwr: Can you give us the exact figure?

Howel Gee: I should think it was 50000 a week between the two papers.

Derbyniwyd y ffigur o 50000 gan haneswyr megis y diweddar Frank Price Jones yn ei ysgrif ar Ryfel y Degwm a Gwynfor Evans yn Aros Mae. Ond mae'n amhosibl o uchel: gwyddom nad oedd gan newyddiaduron Cymraeg mwyaf poblogaidd y ganrif ddiwethaf megis Yr Herald Cymraeg neu'r Genedl Gymreig gylchrediad o dros 25000 yr wythnos. Ysywaeth, rhoddodd y Cydymaith i Lenyddiaeth Gymreig ei statws swyddogol i'r haeriad am y 'fifty thousand' yna.

Yn ôl Machine Room and Piece Books y wasg, 26 rîm ‑ 13000 o gopïau - o'r Faner a argraffwyd ar gyfartaledd bob wythnos rhwng 1879 a 1889. A oes modd cysoni hyn â thystiolaeth Howel Gee? Mae'r ateb, credaf, yn un syml: cam-gofnodwyd ei dystiolaeth. Dywedodd 'Fifteen thousand' nid 'Fifty thousand'. Pe bai'r ymholiad wedi cael ei gynnal yn Gymraeg ni fyddai'r fath ddryswch wedi digwydd!

***

ER I lawer ar y pryd ac yn ddiweddarach gredu'r gosodiad bod cylchrediad y Faner wedi cwympo yn 1886, mae'r llyfrau cownt yn dangos nad felly y bu. Cwympodd y nifer o gopïau a brintiwyd o 13000 i 12000 ddwywaith yn ystod y flwyddyn - wythnos olaf Gorffennaf ac wythnos gyntaf Medi - ond fe geir sawl enghraifft o hyn yn digwydd yn achlysurol dros y blynyddoedd. Er enghraifft, yn 1883 bu pum wythnos pan argraffwyd nifer llai nag arfer o gopïau.

Mae'n debyg mai ffactorau technegol megis prinder papur neu broblemau gyda'r peiriannau yn hytrach na diffyg galw am y Faner oedd yn gyfrifol am y methiant o bryd i'w gilydd i argraffu'r cyflenwad arferol.

Mae'r llyfrau felly'n ategu tystiolaeth Gee ei hunan i'r Faner golli 124 o archebwyr rhwng Gorffennaf a Hydref 1886 ond iddi ennill 125 o archebwyr newydd yn ystod yr un cyfnod.

***

YCHYDIG iawn o wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â chylchrediad y Faner rhwng 1889 (pan ddaw'r Machine Room and Piece Books i ben) a'r Rhyfel Byd Cyntaf. Ond mae cyfres o ffigurau gennym sy'n dangos yr elw a ddeilliai o werthiant y Faner rhwng 1905 a 1910: rhwng 1905 a 1909 maent yn disgyn yn gyson o ychydig dros £1900 y flwyddyn i ychydig dros £1600, er bod rhywfaint o welliant i dros £1640 yn 1910. 'Roedd y Faner, felly, yn colli darllenwyr ymhell cyn trychineb 1914.

Ar y llaw arall, yn ôl nodyn braidd yn amwys gan D.S. Davies, 'roedd ei chylchrediad yn parhau o gwmpas 13000 yn 1914.

Er i brinder papur achosi problemau yn ystod misoedd cynnar y rhyfel, bu cynnydd sylweddol yng nghylchrediad y Faner; erbyn Chwefror 1915 bu'n rhaid i'r cwmni brynu peiriant argraffu rotary oddi wrth gwmni Victory o'i herwydd.

Mae'n wir i D.S. Davies ddweud wrth T. Gwynn Jones y Rhagfyr blaenorol 'the circulation is not what it used to be' ond 'roedd hyn yng nghyswllt pennu tâl addas am ei gyfraniadau i'r papur! Erbyn diwedd 1915, fodd bynnag, 'roedd pethau'n gwaethygu oherwydd prinder papur a'r cynnydd yn ei gost.

Bu'n rhaid rhoi'r gorau i argraffu Baner dydd Mercher, cwtogi maint y papur fwy nag unwaith a dyblu'r pris i ddwy geiniog erbyn gwanwyn 1918. Collodd dir i'r papurau dyddiol Saesneg a roddai'r newyddion diweddaraf am hynt yr hogiau ar y 'ffrynt'. Cwympodd y cylchrediad yn ddifrifol; i 6000 erbyn Medi 1918 yn ôl D.S. Davies.

***

ER I faint y Faner gael ei ehangu'n fuan ar ôl diwedd y rhyfel, ni lwyddwyd i adfer ei chylchrediad. Nid oedd yr arian ar gael i ddatrys y problemau sylfaenol.

Felly, er enghraifft, ni fu'n bosibl cyflogi digon o staff yn y swyddfa: 'roedd yn rhaid i ddau wneud y gwaith a wnaed gan bedwar cyn y rhyfel. 'Roedd llawer o'r staff yn rhy hen i weithio'n effeithiol. Bu farw un o'r argraffwyr yn 1919 ar ôl diwrnod o waith yn y swyddfa: 'roedd yn 76 blwydd oed.

Chwalwyd y rhwydwaith o ohebwyr lleol yn ystod y rhyfel, yn rhannol oherwydd prinder arian i'w talu ond hefyd oherwydd nad oedd digon o le yn y papur i gynnwys eu hanesion. Ar ben hyn oll 'roedd syniadaeth y Faner yn rhy hen ffasiwn i ddenu darllenwyr newydd o'r to ifanc.

Yn ôl ymchwiliad a wnaethpwyd yn ystod wythnos olaf Ionawr 1920, 6118 oedd cylchrediad y Faner. Dangosodd ymchwiliad arall yn Rhagfyr 1920 fod y cylchrediad wedi disgyn ym mhob cwr o Gymru mewn cymhariaeth â'r hyn ydoedd yn 1914. Ni dderbyniwyd y papur mwyach mewn 90 o drefi a phentrefi lle'i derbynnid cyn y Rhyfel ac 'roedd hyn yn gyfrifol am golled o 1200 o gopïau'r wythnos.

Ddechrau 1922 symudwyd prif swyddfa olygyddol ac argraffu'r Faner i Aberystwyth, er bod swyddfa fechan yn parhau yn Ninbych. Yn ôl Prosser Rhys, a ymunodd â staff y Faner bryd hynny, bu gostyngiad sylweddol pellach yn y cylchrediad ac yn nifer yr hysbysebion fel canlyniad i'r symud o Ddinbych.

Yna, o dan olygyddiaeth Prosser Rhys, gweddnewidiwyd y papur a dechreuodd ei gylchrediad godi unwaith eto o 1924 ymlaen. Ond stori arall yw honno!