HEN ARGRAFFWYR CAERGYBI gan Dafydd Wyn Wiliam

YR OEDD ROBERT ROBERTS (1778-1836) yn 46 oed pan brynodd wasg a dechrau argraffu arni yng Nghaergybi yn 1824. Erbyn hynny enillasai brofiad helaeth fel awdur a chyhoeddwr. Cyn marw ei dad yn 1806 buasai yn cyhoeddi rhifyn blynyddol o Almanac enwog Caergybi a'i argraffu yn Nulyn. Parhaodd i wneud hynny wedi marw ei dad. Hefyd gwelsai ei gyfrol fawr Daearyddiaeth (1816), rhannau o Mynegai Daearyddol (1819) a Dangosai Daearyddawl (1823) yn dod o weisg yng Nghaer, Dolgellau a Llundain.

Barnaf fod Robert Roberts wedi colli arian mawr wrth gyhoeddi'r cyfrolau hyn ac fe fodlonodd ar argraffu mân lyfrynnau a'r Almanac blynyddol ar ei wasg ei hun. Ar wahân i'r Almanac y gwaith pwysicaf a ddaeth o wasg Robert Roberts oedd Eurgrawn Môn, sef cylchgrawn misol. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf yn Ionawr 1825 a pharhau hyd ddiwedd 1826. Diffyg cefnogaeth ac anawsterau gyda dosbarthu a chasglu'r arian amdano a barodd dranc y cylchgrawn diddorol hwn.

Ar 17 Rhagfyr 1833 fe gyflwynodd Robert Roberts gais i Lys Sesiwn Chwarter Môn i sefydlu gwasg argraffu ym Mryngwran. Yr unig enghraifft o gynnyrch y wasg hon a welais i yw Amseroni; Neu Almanac 1835 ac arno'r argraffnod 'Bryngwran Ger Caergybi'. Yn fuan wedi hynny bu farw Robert Roberts.

Enw Ann, ail wraig Robert Roberts, a welir ar gynnyrch y wasg yn 1837, sef un llyfryn ac Almanacau Caergybi am 1837 ac 1838. Oherwydd argraffu y pethau hyn yng Nghaergybi y mae'n amlwg fod gwasg Bryngwran wedi dirwyn i ben ar ôl marw Robert Roberts yn 1836.

Ail-briododd ei weddw ar 15 Ionawr 1838 gyda Hugh Jones (m.1866) a'i enw ef a welir wedi hynny ar gyhoeddiadau'r wasg yn Stryd Stanley, sef ambell faled, min lyfrynnau a'r Almanac blynyddol. Yr oedd Hugh Jones yn hysbysebu ei fod yn llyfr rwymydd.

Ac eithrio'r Almanac ni welais undim o bwys a argraffwyd yng Nghaergybi gan Enoch Jones (1841-78) mab Hugh Jones ac wedi hynny gan Robert Roberts (1827-1904) mab Robert Roberts (m.1836) o'i briodas gyntaf. Fodd bynnag, y mae lle i amau mai Robert Roberts a argraffodd lyfrau Hugh Rowlands Bodfeddan (gw. Y Casglwr Mawrth 1982).

Y rhifyn olaf o Almanac Caergybi a argraffwyd yn y dref yw'r rhifyn am 1888 a chredaf i wasg y teulu gael ei gwerthu yn fuan wedi hynny.

***

EFALLAI mai dyfodiad argraffydd arall i Gaergybi yn 1881 a barodd dranc gwasg yr Almanacwyr. Fel Lewis Jones o'i flaen, o Gaernarfon y daeth Owen Preece Griffith (g. 1853) i Gaergybi ac yng Nghyfrifiad 1881 disgrifir ef fel 'Master printer employing one man' yn byw gyda Jane ei wraig a phedwar o blant bach yn Heol y Farchnad. Robert (g. 1863), brawd yr argraffydd, oedd y sawl a gyflogid yn y busnes.

Deallaf mai'r fan lle y saif Capel Bryn Hyfryd (A) y sefydlodd O.P. Griffith ei wasg. Symudodd oddi yno i'r drws nesaf i hen Swyddfa'r Heddlu yn Stryd Stanley ac oddi yno i'r fan lle mae swyddfa argraffu A.H. Taylor heddiw yn yr un stryd. Tua 1946 fe werthwyd offer y wasg i Henry Jones, Y Felinheli.

Ni wyddys rhyw lawer am J.R. Edwards a fu'n argraffu yn 3 Stanley Crescent ac wedi hynny yn Stryd y Farchnad rhwng 1892 a 1908. Argraffodd ef o leiaf chwe rhifyn o Y Vord Gron yn 1892, sef cylchgrawn misol dwy-ieithog dan olygyddiaeth Margaret Louisa Hughes (m. 11 Mehefin 1931), merch y Parchedig Peter Ellis, Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Priodasai M.L. Hughes â gŵr gweddw, Owen Hughes, saer dodrefn, a breswyliai yng Ngharreg Domos gyferbyn â'r Tabernacl (A) yn Stryd Domos. Ymhlith y cyfranwyr i'r cylchgrawn ceid pobl fel Catherine Pritchard ('Buddug' 1842-1909) ac R. Môn Williams a cheir ynddo ysgrifau, colofn farddol, gohebiaeth, hysbysebion, ychydig o hanes lleol a stori gyfres sy'n dechrau yn rhif 3 (Mehefin 1892) ac iddi'r teitl 'Lladron Creigiau Crigyll; Neu, Arweinydd Y Morladron. Seiliedig Ar Ffeithiau Hanesyddol'.

Diddorol yw sylwi fod gweisg Caergybi wedi argraffu tri chylchgrawn diddorol yn y XIX ganrif, sef Eurgrawn Môn (1825-6) a oedd yn gylchgrawn ar gyfer pobl Môn, Y Punch Cymraeg (1858-61) a enillodd fri cenedlaethol a Y Vord Gron a ddarparwyd ar gyfer pobl Caergybi yn unig.

Clywais fod J.R. Edwards wedi argraffu papur newydd lleol The Holyhead Advertiser eithr ni welais gopïau ohono.

Dechreuodd Albert Henry Taylor (g. 1915) argraffu mewn ystafell yn Stryd Cambria yn 1947 eithr ar ôl ychydig fisoedd yno fe symudodd i'r adeilad presennol yn Stryd Stanley. Gweithiodd yn galed iawn gyda'i grefft ac erbyn hyn y mae ei feibion yn ei gynorthwyo. Cyflawna ef a'r meibion swyddogaeth arferol argraffwyr mewn tref.

CYNNYRCH GWASG ROBERT ROBERTS (1778-1836) A'I DEULU AC ERAILL
Geiriadur Bychan, Sef Adroddiad Byr Ar Bob Llythyren Yn Yr Egwyddor Gymraeg, Wedi Ei Gasglu O'r Geiriadur Ysgrythyrol, O Waith y Parchedig Thomas Charles. Caergybi: Argraffwyd, Gan Robert Roberts (1824) tt. 12.

Pregeth Ar Y Sacrament Sanctaidd, O Swpper yr Arglwydd, Gan Y Parchedig Ellis Anwyl Owen, A.M. Gweinidog Plwyf Caergybi, Caergybi: Argraphedig gan Robert Roberts: (1824) tt. 24.

Eurgrawn Môn, Neu Drysorfa Hanesyddawl Caergybi: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan R. Roberts, yn Ngwasg St. Cybi (31 Ionawr 1825 - Chwarter olaf 1826) tt. 284 a 110. (Cylchgrawn misol oedd hwn.)

Hanes Bywyd A Marwolaeth Jane Hughes, Merch Thomas A Catherine Hughes, Plwyf Llanynghenedl; Yr hon a fu farw Ionawr 30, 1825. - Oedran 11. Caergybi: Argraffwyd gan R. Roberts. (1825) tt. 12.

Sylwadau Ar Y Bedydd Efangylaidd; Sef Ar Bregeth, a bregethwyd Gan Mr. Edward Jones, Llantysilio, Yn Nghaergybi. Gan W. Morgan. Caergybi: Argraffwyd Gan Robert Roberts (1826) tt. 32.

Cyfaill Hyfforddus (1828) (Hwn yw'r cyntaf o Almanacau Caergybi a argraffwyd yng Nghaergybi. Sylwer bod y ffug argraffnod Dulyn arno.)

CYNNYRCH GWASG ANN ROBERTS, GWEDDW ROBERT ROBERTS

Traethawd Ar Sobrwydd A Meddwdod, Mewn Dull 0 Ymddiddan Rhwng Abram Ddirwestwr, A Seimon Ddiottwr, Gan Robert Jones, Caergybi, Neu Bardd Du Môn. Caergybi: Argraffwyd Gan A. Roberts.(1837) tt. 32.

Amseroni Neu Almanac, Am Y Flwyddyn 0 Oed Ein Harglwydd, 1837 ... Caergybi: Argraffwyd Yn Swyddfa A. Roberts. (Hi hefyd a argraffodd Amseroni 1838).

CYNNYRCH GWASG HUGH JONES (1820-66), Ail ŵr Ann Roberts

Amseroni; Neu Almanac, Am Y Flwyddyn 1839 ... Caergybi: Argraffwyd Gan Hugh Jones. (Parhaodd i argraffu'r Almanac yn flynyddol hyd ei farw.)

Cyfaill Y Cywrain, Neu Ystorfa 0 Wybodaeth Gelfyddydawl: Yn Cynnwys Haiamyddiaeth ... Gan William Hughes, Cleifiog Fawr, Môn. Caergybi: Argraffwyd Gan Hugh Jones, Dros Yr Awdur. (1840) tt. 60.

Briwsion, Oddi Ar Fwrdd y Dysgedigion; Sef Crynnodeb o Hanes y Bibl Gymdeithas o'i dechreuad fel Mam Gymdeithas Frutanaidd A Thramor ... Gan W. Owen. Caergybi: Argraffwyd Gan Hugh Jones. (1841) tt. 24, (Ail-argraffiad o'r llyfryn hwn a welais i.)

* Y Seren: Neu Ymddiddan Crefyddol Rhwng Cristion Ag Amryw Bersonau Gan John Williams, Lianddeusant, Môn. Caergybi: Jones, Argraffydd A Llyfr-Rwymydd (1845) tt. 23.

Byr Gofiant; Neu Hanes Bywyd Y Diweddar Mr. Robert Williams, Gweinidog y Bedyddwyr yn Rhuthyn. Gan William Morgan, Caergybi. Y'nghyd A Darluniad 0 Hono Fel Pregethwr. Gan John Prichard, Llangollen. Hefyd, Marwnad i'r Un, Gan 'Eryr Glan y Môr.' Caergybi: Jones, Argraffydd A Llyfr Rwymydd.(1847) tt. 44.

Holwyddoreg Ar Grist A'r Pab, Ac Eglwys Crist Ac Eglwys Y Pab; Y Naill Yn Cael Ei Ddal Ar Gyfer Y Llall, Yn Ngholeuni Y Bibl. Gan Owen Williams, Towyn, Meirionydd. Caergybi: Argraffwyd Gan H. Jones, Heol Stanley. (1852) tt. 204. (Ail-argraffiad a welais i o'r gyfrol hon.)

Hymn Americanaidd. (hefyd) Penillion Ar Fy Nhad sydd wrth y Llyw. Cyfeithedig gan y Parch. S. Roberts, Llanbrynmair. H. Jones, Argraffydd, Heol Stanley, Caergybi (d.d.) tt. 4.

Marwnad Er Coffadwriaeth Am Y Diweddar Richard Wm. Roberts, Gweinidog yr Efengyl yn yr Eglwysi cynulleidfaol Siloam, Llanfairneubwll, A Rheioboth, Llanfaelog, Yr hwn a ymadawodd a'r bywyd hwn Rhagfyr 2il, 1860, Yn 32 mlwydd oed. Hugh Jones, Argraffydd, Caergybi (d.d.) tt, 4.

(Penillion gan Abel Jones, (Bardd Grwst) yn adrodd hanes crogi Richard Rowlands oherwydd iddo lofruddio Richard Williams, Garnedd, Llanfaethlu, Môn, ar 1 Tachwedd 1861.) Hugh Jones, Argraffydd, Caergybi. (1862) tt. 4. (Nid yw'r copi sydd gennyf yn gyflawn.)

CYNNYRCH GWASG ENOCH JONES (1841-78) mab Hugh ac Ann Jones.

Amseroni, Neu Almanac, Am Y Flwyddyn 1868 ... Caergybi: Argraffwyd A Chyhoeddwyd Gan E. Jones, Heol Stanley. (Parhaodd i argraffu'r Almanac blynyddol hyd ei farw.)

CYNNYRCH GWASG ROBERT ROBERTS (1827-1904) mab y Robert Roberts uchod

Amseroni, Neu Almanac, An, Y Flwyddyn 1880 ... Caergybi: Argraffwyd Gan R. Roberts, Stanley Street. (Parhaodd i argraffu'r Almanac blynyddol hyd 1888.)

CYNNYRCH GWASG O.PREECE GRIFFITH (g. 1853)

Testynau Cyfarfod Llenyddol Cherddorol Perthynol I Gapel Y Methodistiaid Calfinaidd Llanfaethlu, Yr Hwn A Gynhelir Nos Wener, Mawrth 13, 1891. O. Preece Griffith, Mona Printing Works, Caergybi. tt. 2.

* Gwleidyddiaeth A Chrefydd: Sylwedd Papyr a Ddarllenwyd yn Nghynadledd Cwrdd Chwarterol y Bedyddwyr, yn Llanfachraeth, Medi 10fed a'r 11eg, 1886. Cyhoeddwyd Ar Gais Cymanfa Amlwch, a gynhaliwyd Mehefin 8fed a 9fed, 1886. Caergybi: Argraphwyd Gan O. Preece Griffith, Llyfr-Rwymydd. tt. 15.

Pryddest Goffadwriaethol Am Mr. A Mrs. Thomas Owen, Pen-y-mynydd, Valley, Gan Glan Alaw. Buddugol yn Nghyfarfod Llenyddol Undebol Caergeiliog, Nos Llun y Pasg, 1891. Caergybi: Argraphwyd Gan O. Preece Griffith, Mona Printing Works. tt. 16. (Y mae gennyf gopi arall o'r bryddest ar un ddalen fawr.)

Pryddestau Goffadwriaethol Am Mr. William Roberts, Ty Hen, Valley, Gan Glan Alaw Ac H. Isgaer Lewis. Cyd-fuddugol yn Nghyfarfod Cystadleuol Undebol Caergeiliog, Nos Lun y Pasg, 1893. Caergybi: Argraphwyd Gan O. Preece Griffith, Stanley Street, tt. 24.

Y Pregethwr. Cyf. 1. Rhif 1. Cyhoeddjad At Wasanaeth Crefydd Ym Môn ... Caergybi. Argraphwyd gan O. Preece Griffith, Stanley Street. (d.d.) tt. 17.

GWASG J.R. EDWARDS & CO.,3 STANLEY CRESCENT, CAERGYBI

Y Vord Gron, Cyhoeddiad Misol Cymraeg a Saesneg - Golygydd Mrs M.L. Hughes, Caergybi. Argraphwyd Dros Y Cyhoeddwr Gan J.R. Edwards & Co., 3,Stanley Crescent, Caergybi. (Ebrill - Hydref 1892).(Gwn fod chwe rhifyn o'r cylchgrawn hwn wedi ymddangos ac y mae pedwar ohonynt yn fy meddiant.)

Y Ddau Flaenor, Sef Mr. John Jones Heol-Y-Farchnad, Caergybi, A Mr. John Jones, Foundry, Caergybi. Marwnad Goffadwriaethol, Buddugol Yn Nghyfarfod Llenyddol Hyfrydle, Caergybi, Nadolig, 1891, Gan R. Môn Williams. Caergybi: Argraphwyd Gan J.R. Edwards & Co., Stanley Crescent. tt. 16.

Cyfrol Goffa A Rhaglen Swyddogol Undeb Bedyddwyr Cymru A Mynwy Yn Nghaergybi, Medi 21, 22, 23, 24, 1908. Caergybi: Argraphwyd Gan J.R. Edwards & Co., Market Street. tt. 80.

Dynoda. * nad oes copi gennyf.