MAUGHAN AM GOED, MINNAU AM GN ~
Robin Williams yn hyfrydwch Eifionydd

ALLAN o gerdd R. Williams Parry i 'Eifionydd' y daw'r pennill uchod lle mae'n disgrifio'r LON Goed enwog. Er bod y ln honno'n ymnyddu trwy ganol cefn gwlad am gryn bum milltir, eto ar un wedd, gellir dadlau nad yw'n arwain i unlle yn y byd.

Erbyn heddiw, mae'r Ln Goed wedi tyfu'n un o ramantau cenedlaethol y Cymry. Ond i ni a fagwyd ar ei chyrion, roedd y rhamant yno eisoes, ac yn rhan o'n mebyd. Wrth ddringo trwy ddau-ddegau'r ganrif hon, roedd yn amlwg fod oes y bendefigaeth ariannol ar y stetydd yn dirwyn i ben. O ran hynny, roedd y ganrif o'r blaen wedi rhyw ddarogan fod tro yn y gwynt.

Yn ystod ein plentyndod ni, roedd gan y goludogion ddau blas, un yn y Gwynfryn, a'r llall brin chwarter milltir i ffwrdd yn Nhalhenbont. (Plas Hen oedd ei enw cyn hynny, ac o fynd yn l, fe geir Talhenbont yn enw cynharach fyth.) Syr Hugh Ellis Nanney oedd sgweier y Gwynfryn, ac efe oedd yr aristocrat a drechwyd gan David Lloyd George o 18 pleidlais ym 1890.

Gyda'r blynyddoedd, pan symudodd y teulu i fyw i Dalhenbont, rhoddwyd fy nhad (a oedd yn saer coed ar y stad) a'i deulu i fyw ym Mhlas Gwynfryn, i gadw'r lle'n gynnes, fel petai. Daeth sawl tro chwyrn ar fyd ers hynny. Darfu am y bendefigaeth. 'Talhenbont Hall' yw'r enw newydd, gyda phobl 'o ffwrdd' yn byw ynddo.

Cafodd Plas Gwynfryn ei droi'n 'Nazareth House' gan y Pabyddion. Yna'n 'Gwynfryn Plas', math o westy a gedwid gan estroniaid. Ar l hynny, fe'i gadawyd yn wag. Ac o bob dirgelwch, ym 1982 aeth y plas gwag ar dn.

Bu adeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd rhannau helaeth o Lŷn ac Eifionydd yn perthyn i stad Mostyniaid sir y Fflint. Ar dro'r ganrif honno, fe dystir fod rhenti'n unig yn esgor ar 50,000 a mwy y flwyddyn. Sut bynnag, yn stad Plas Hen (bryd hynny) fe gyflogwyd gŵr egnol o Northumberland yn stiward. Ei enw oedd John Maughan. A chreadigaeth y gŵr hwnnw oedd y Ln Goed.

***

YR ADEG honno, roedd chwyldro amaethyddol ar gerdded. I lawr yng Ngheredigion, yr oedd Thomas Johnes wedi arbrofi gyda choed a llysiau ac anifeiliaid ar ei stad yn Hafod Uchtryd. I fyny ar ffiniau Eifionydd yr oedd Alexander Maddocks wrthi ar y Traeth Mawr yn ymrafael 'r mr am dir amaethu.

Ac yn ddyfnach i mewn i'r fro honno, wele John Maughan gyda'i gynllun yntau, sef gosod ffordd newydd sbon a fyddai'n ymestyn o'r Afon Wen ger y tywod, trwy ganol tiroedd y stad i gyfeiriad Mynydd Cennin.

Ar hyd ei thaith, mae lled y ffordd honno'n ddwsin cyson o gamau; yr oedd ffordd ddeuddeg llath ar ei thraws yn lled pur eithriadol y pryd hynny, lled a oedd yn llyncu swm helaeth iawn o dir. I gyflawni'r gwaith, yr oedd gan John Maughan chwech o ddynion yn agor ffosydd llydain o bobtu'r ffordd, ffosydd sy'n sugno'r dŵr corsiog hyd y dydd hwn.

Nid oedd peiriannau crafaglog a nerthol ein dyddiau ni ar gael i ysgafnhau trymwaith y dynion hynny. Nid oedd ganddynt, bid siŵr, ond rhaw a rhaff a throsol a cheffyl.

Wrth rodio'r Ln Goed heddiw, yr hyn sy'n hynod yw gweld ar fin y ffordd yma a thraw nifer o feini anferthol eu maint; cerrig-tir trymion ac anhylaw a sugnwyd allan o'r ffosydd cyntaf hynny trwy chwys a straen ddirfawr, ac a adawyd yno ar ymyl y ln er y dydd y'u codwyd. Maen nhw'n gorwedd yno heddiw fel math o gofeb i nerth bn braich y gweithwyr gynt.

Yn dilyn gwŷr y ffosydd, yr oedd tri dyn yn plannu coed ar hyd yr ochrau; coed ffawydd a derw, gan amlaf, er bod masarn, ynn, a chelyn i'w cael hwnt ac yma. (Mae hin a henaint canrif a hanner helaeth wedi cwympo llawer o'r coed gwreiddiol, ond yn ddiweddar aed ati i ail-blannu yn y bylchau hynny.)

Cyflog y gweithwyr arloesol oedd pum swllt y rhwd, sef 8 llath. Llwyddai'r dynion i weithio tua dwy rwd mewn wythnos, a'u cyflog felly'n chweugain, fwy neu lai. Ym 1819 y dechreuwyd ar y fenter gan ddod i ben 'r dasg ym 1828, wedi naw mlynedd o lafur.

Awgrymir fod sawl rheswm gan John Maughan dros agor y Ln Goed: cludo mawn o'r corsydd, a hwyluso ffordd i'r farchnad amaethyddol; cario calch i'r ffermydd at wella'r tir. (Yr oedd odyn galch yn Afon Wen yr adeg honno.)

Anogid y ffermwyr i dyfu ŷd, a'r ffordd newydd bellach at eu gwasanaeth i gludo tuag Afon Wen i felin y Ffriwlwyd, clywais rai'n damcanu y bu syniad gan John Maughan o godi porthladd bychan yn Afon Wen, gyda llong yno ar gyfer marchnata'r ŷd a'r calch, yn l y gofyn. Ac wrth gwrs, byddai ffordd urddasol fel hon yn ddelfrydol i ymwelwyr ryfeddu at ogoniannau stad Mostyn.

***

DYFELIR fod gan Maughan un bwriad pellach, sef gweithio'r ffordd rhagddi trwy Frynengan am Bantglas, a'i chyplu gyda'r briffordd rhwng Pwllheli a Chaernarfon. Wrth gofio fod syniadau anturus yn y gwynt bryd hynny, onid oedd Alexander Maddocks 'i fryd ar godi rheilffordd yr holl ffordd o Borthmadog i Borthdinllaen, a hwylio'n deidi oddi yno am Iwerddon? (Tybed ai' r weledigaeth Iwerddon hon sy'n cyfrif am 'Dublin Street' yn Nhremadog?)

Sbel dda yn l, dangosodd cyfaill o Lanbedrog imi fap gorffenedig o benrhyn Llŷn, ac arno'n argraffedig amlwg yr oedd rheilffordd yn cyrraedd yn daclus i Borthdinllaen.

Ond ni ddaeth dim o fwriadau Maddocks yn hynny o beth. Nac o Ln Goed Maughan ychwaith. Canys bu farw Syr Thomas Mostyn heb etifedd i'r stad. I gymhlethu popeth, trwy orwario mewn llawer cyfeiriad, aeth y stad i ddyled.

Ac er i John Maughan gynnig sawl awgrym ynglŷn 'i ffordd orchestol, diwedd y stori oedd ildio, ac fe'i cawn, o wirfodd neu o raid, yn ymadael stad Mostyn.

Clywais gan gyfaill gwreiddiol fod un o'r tyddynwyr wedi gwrthod caniatu i'r ln fynd trwy'i dir, ac mai dyna ystyr y dweud 'fod mistar ar Mistar Mostyn'! Beth bynnag am Mistar Mostyn, anelodd John Maughan am wlad Ardudwy i oruchwylio gwaith sychu tir ac i blannu coed yn y dyffryn hwnnw. (Ar dderw un tŷ ym mro Ardudwy, gellir gweld y Ilythrennau 'J.M.' wedi'u cerfio'n amlwg.)

Symudodd wedyn i Broomsgrove yn agos at bedwar ugain oed bellach a cheir ei gladdfan yn Eglwys Alvechurch yn swydd Worcester.

Bellach, mae'n dyddiau ni'n sn gyda balchder am 'Feirdd y Ln Goed', a chyfiawn yw rhyfeddu at y fintai o wŷr amlwg a fu'n trigo yn ei chwmpasoedd hi. Dyna Sin Wyn o Eifion, Pedr Fardd (awdur 'Cynllunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen'), Nicander (Molwch Arglwydd nef y nefoedd), Eben Fardd ('O! fy Iesu bendigedig'). Ac wrth gwrs, y ddau arall hynny, beirdd enwocaf Eifionydd yn eu cyfnod: Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu o'r Betws Fawr.

***

PA RYFEDD i addoldy'r Bedyddwyr, led trichae o'r Ln Goed, gael ei alw'n Gapel y Beirdd! Cofiaf Wil Vaughan a minnau'n mynd yno ar Orffennaf 8fed 1950, hithau'n bnawn Sadwrn tesog, a'r ffordd y tu allan, fel y cysegr ei hun, yn orlawn. Dathlu canmlwyddiant marw bardd y Betws oedd ar fynd yno.

Yn y cwrdd hwnnw y dadorchuddiodd William George gofeb iddo ef, a hefyd i'w gymydog, Dewi Wyn. Siaradwyd ymhellach yn y cyfarfod gan enwogion fel William Morris, Goronwy Roberts a T.H. Parry-Williams.

Cofir Robert ap Gwilym Ddu yn arbennig am ei emyn 'Mae'r gwaed a redodd ar y groes', ac am englyn fel hwn o'i awdl leddf wedi iddo golli'i unig ferch, Jane Elizabeth, yn 17 oed :

Er ei fod yn ŵr pruddglwyfus, mae'n rhaid fod straen o hiwmor yn ei ddefnydd, fel yr awgryma'r pill hwn ganddo am ei forwyn :

Am Ddewi Wyn o'r Gaerwen gyfagos, bu ef yn ddisgybl barddol i'r athrylith o'r Betws, gan ddod yn gryn feistr ar lunio epigram o'r natur yma :

Roedd y gwŷr hyn yn dra chyfeillgar 'r landlord, a dywedir y byddai John Maughan yn annog pobl i brynu gan deulu Dewi Wyn yn Siop y Gaerwen oedd yn nhre Pwllheli. Ym 1820, fe ganodd yntau, Dewi Wyn, 'Awdl Cyfarch y Gweithwyr', sef moliant edmygus o waith John Maughan a'i ddynion wrth lunio'r Ln Goed, gan nodi'r manteision a ddi yn ei sgil.

(Roedd Dewi Wyn wedi gofalu priflythrennu enw'i arwr.)

***

PAN gyhoeddodd Robert ap Gwilym Ddu ei gyfrol Gardd Eifion ym 1841, gwelir fod ei glodydd yntau'n wresog i nawdd y bendefigaeth wrth gyflwyno'i lyfr fel hyn i Syr Thomas Mostyn, a oedd newydd ddod i'r etifeddiaeth ar ei l :

To the Honourable E.M.Lloyd Mostyn.

Sir,
You have always shown yourself to be the enlightened and generous friend of every pursuit, and of every institution, or advance the interests of the community. This spirit of patriotism, indeed, is characteristic of your family. To you, therefore, I take the liberty of dedicating these pages, with every sentiment of respect for your personal character, and as a slight, but most sincere token of gratitude, for your steady patronage of Welsh literature.

I have the honour, Sir, to be your obliged and humble servant,

Robert Williams
Betws Fawr, June 18, 1841.

A phan ddaeth Blodau Arfon Dewi Wyn o'r Wasg ym 1842 (flwyddyn wedi'i farw, gyda llaw) gwelir fod 'The Publisher' yn taro'r un cywair canmolus ar ran Dewi :

To the Hon. Edward M.Ll. Mostyn, M.P. for the county of Flint ... I know of no gentleman to whom I could with equal justice dedicate this Volume of the Works of your late talented Tenant ...

Ac felly yr 'r cyflwyniad rhagddo'n dra blodeuog a gorwylaidd. Ond eto i gyd, y mae'n anodd credu fod cymaint o athrylithoedd fel hyn wedi byw o gwmpas pum milltir y Ln Goed. Hyd yn oed yn ei phen draw eithaf, lle mae'r ffordd yn diflannu'n ffwr-bwt mewn drain a drysi, nid yw capel hynafol Brynengan ymhell. Ac oni fu Howel Harris ar ei dro yn y fan honno? A Robert Jones hefyd gyda'i ysgol gylchynnol? Robert Jones, Rhoslan, awdur 'Drych yr Amseroedd' a chasglydd 'Grawn-syppiau Canaan', un arall o gewri Eifionydd.

Fel Abraham gynt, bu John Maughan yntau'n plannu coed. Eto, ni welodd ef y coed hynny yn eu gogoniant. Pan oedd y deri'n grymuso, roedd John Maughan yn edwino. Bellach, mae pendefigaeth Mostyn wedi crino, a stad Gwynfryn wedi chwalu. Beirdd y Betws a'r Gaerwen wedi tewi, rheilffordd yr L.M.S. wedi cancro, melin Ffriwlwyd wedi darfod, a chapel Engedi wedi'i gau.

Heddiw, gall 'Cyffro'r newyddfyd blin' fod yn orthrwm ar ysbryd, ond wrth rodio yn 'llonydd gorffenedig' y Ln Goed, roedd Williams Parry'n siŵr o fod yn llygad ei le: