'RESGOB ANNWL gan Dewi Williams

MAE'R englyn yma yn un o gadwyn a gyfansoddwyd gan Owen Gruffydd Llanystumdwy dan y teitl "Testyn Drwg Newydd i'n gwlad". Achos ei ofid oedd symudiad yr Esgob Humphrey Humphreys o Fangor i Henffordd yn 1701.

Yn 1712 'roedd Owen Gruffydd yn canu marwnad swyddogol i'r Esgob ond ni all rywun lai na synhwyro fod gwir deimlad o dristwch wedi ymledu trwy'r esgobaeth ar ymadawiad Humphrey Humphreys ac nad canu yn ystrydebol oherwydd colli noddwr hael yr oedd hen fardd Llanystumdwy.

Ganwyd Humphrey Humphreys yn yr Hendre, Penrhyndeudraeth yn 1648. Roedd ei dad yn fonheddwr ac yn ôl pob tystiolaeth bu Richard Humphreys yn selog yn ei ymlyniad i'r Brenin Siarl trwy ei helyntion. Mae'n debyg i Humphrey gael ei ddysgu gyntaf yng Nghroesoswallt, yna yn bendant yn ysgol Friars a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn diwinyddiaeth o'r brifysgol. Bu'n beriglor amryw o blwyfi ym Meirionydd, Eifionydd a Llŷn.

Yn ystod ei gyfnod fel deon Bangor profodd ei hun yn weinyddwr penigamp ac yn ddi-os bu ei lwyddiant yn rheswm tros ei godi'n esgob yn 1689. Bu ei esgobaeth yn binacl yr 'oes aur' yn hanes Bangor, fel y disgrifiwyd hi gan A.I. Pryce.

Dilynwyd ef gan reng o esgobion Seisnig, amryw yn absenolion, a dioddefodd yr esgobaeth hirlwm diffaith trwy gydol y ddeunawfed ganrif.

Mam Humphrey Humphreys oedd Margaret Wynn o'r Gesail Gyfarch yn Eifionydd ac etifeddodd ei mab yr ystâd ar farwolaeth ei ewythr Robert Wynn yn 1685. Yn ddiamau bu'n trigo yno am gyfnod; yn sicr, 'roedd eglwys Sant Beuno ym Mhenmorfa yn agos at ei galon, yn arbennig ar ôl iddo gladdu ei wraig ieuanc Elizabeth yn y fynwent yn 1684, prin fis ar ôl genedigaeth eu hail blentyn.

Ni wnaeth ail-briodi, Ymdaflodd i'w ddyletswyddau clerigol gan arddangos cariad yn unig bellach at hynafiaethau a llenyddiaeth ei wlad. Cyffesa mewn llythyr mai ‘chwilio ymysg yr achresi yw fy mhrif ddifyrrwch'.

***

CYFEIRIWYD eisoes ato fel noddwr y beirdd, ac mae'n amlwg fod perthynas arbennig iawn rhyngddo ac Owen Gruffydd. Yn 'Drych yr Amseroedd' edrydd Robert Jones ddameg am yr Esgob yn mynnu fod y bardd yn ei ragflaenu allan o'r eglwys gan fod "dawn Duw gennyt ti, Owen bach, ond nid oes gennyf fi ddim ond a gefais am fy arian".

Yn ôl Ellis Owen Cefnymeysydd cyflwynodd yr Esgob ardreth blynyddol tyddyn ar dir y Gesail at gynhaliaeth Owen, ac adnabyddir ei leoliad hyd heddiw fel Tyddyn Owen.

Ceir tystiolaeth pellach o wasanaeth Humphrey Humphreys i'w ardal yn y 'Gestiana'. Dywed Alltud Eifion ei fod wedi talu am addysgu Edward Samuel Cwt-y-Defaid a bachgen tlawd arall o blwyf Penmorfa, gan eu bod wedi mynegi eu dymuniad 'i fod yn bersoniaid'.

Ordeiniwyd Edward Samuel ganddo yn eglwys Penmorfa yn 1697; 'roedd David Samuel, y meddyg ar fordeithiau Capten Cook, yn ŵyr i'r Edward Samuel yma.

Anogai y clerigwr ieuanc addawol yn ei esgobaeth i ddarparu deunydd cymwys ar gyfer y werin. Cyflwynodd Ellis Wynne ei gyfrol 'Rheol Buchedd Sanctaidd' iddo a chefnogai'r Esgob bob symudiad i ledaenu llyfrau defosiynol yn y Gymraeg ymysg ei braidd. Bu'n flaenllaw gyda'r Gymdeithas Taenu Gwybodaeth Gristnogol o'r cychwyn.

Mae bodolaeth beirdd Eifionydd yn wybyddus i bawb ond ychydig a sylweddola fod cymaint ohonynt yn ymddiddori'n ddwfn mewn hynafiaethau. Ystyrid Owen Gruffydd yn achyddwr gwybodus a diau bod hyn yn agwedd neilltuol o'r cyfeillgarwch clos rhyngddo a'r Esgob.

Meithrinid diddordeb cyffelyb gan Robert ap Gwilym Ddu, Sion Wyn o Eifion ac Ellis Owen Cefnymeysydd a etholwyd yn gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr. Parhawyd y traddodiad gan Myrddin Fardd ac fe ellir ystyried Cybi fel yr olaf o'r llinach.

Cysylltodd Humphrey Humphreys ei hun â'r traddodiad unigryw yma a dilynwyd ei esiampl gan glerigwyr eraill yn y ddeunawfed ganrif.

***

Portread Hugh Hughes o Ellis Owen, Cefnymeysydd ym meddiant Mrs. Jones-Evans, Llanrug. Yn llawysgrifen Ellis Owen ar y cefn mae'r dyddiad 1845. Felly dyma'r llun cynharaf ohono. Cymharer â'r portread gan William Roose yn Y Casglwr, rhif 25.
 

'ROEDD Ellis Owen yn ddisgynnydd o linach yr Esgob ar ochr ei fam, Ann Thomas Tuhwnt i'r Bwlch, ac mae'n sicr ei fod wedi penderfynu ei efelychu fel gwasanaethwr y gymdeithas leol. Yr enghraifft orau yw Cymdeithas Lenyddol Cefnymeysydd a sefydlwyd yn 1846 ar gyfer 'dynion ieuanc athrylithgar, ac awyddus am wybodaeth' yn ôl y cyfansoddiad.

Nid gweithred anfwriadol ar ran Ellis Owen oedd iddo lywyddu'r cyfarfodydd yng nghadair dderw ddu yr Esgob, a etifeddodd. Bu'r gadair yma ym meddiant nith i Ellis Owen ym Mhentrefelin mor ddiweddar â 1931, a pharhaf i fyw mewn gobaith y gallai ei darganfod rhyw ddydd!

Fodd bynnag, mae sawl portread o'r Esgob wedi goroesi'n ddiogel a thybiais y byddai enghreifftiau ohonynt o ddiddordeb i ddarllenwyr y 'Casglwr'. Bernir mai'r portread yn Nhŷ'r Esgob yw'r un gwreiddiol ac mai copïau ohono yw'r un yn amgueddfa'r ddinas ac yng Nglasfryn, plwyf Llangybi.

 

Nid oes angen bod yn arbenigwr herodraeth i sylwi ar y gwahaniaeth yn y ddau arfbais ond mae'r frawdoliaeth arbennig yma yn ein sicrhau fod tras yr esgob o Owain Gwynedd a Collwyn ap Tangno yn cael ei ddynodi gan y ddau. Hoffaf feddwl fod bodolaeth y portreadau yn brawf pellach o'r parch a arddangosid tuag at yr Esgob Humphreys.

O Amgueddfa Henebion Bangor O Dy'r Esgob Bangor O Blas Glasfryn Llangybi

Mae'n bosibl bod sawl portread ar gael o Gymry blaenllaw eraill fu'n esgobion Bangor, Robert Morgan, Yr Henblas, tad yng nghyfraith Humphrey Humphreys a Henry Rowlands. Efallai fod yna destun cyfraniad pellach i'r 'Casglwr' gan chwilotwr arall.

Hoffwn gydnabod fy nyled i'r Archddiacon E. G. Wright, Bangor am ffeithiau ynghylch yr Esgob a'i bortreadau a ganfûm yn ei draethawd M.A. arno. Diolch hefyd i'r Gwir Barchedig Cledan Mears, Esgob Bangor, Mr. John Ellis Jones, Curadur yr Amgueddfa Henebion, a Mr. Roger Williams-Ellis, Glasfryn, am eu caniatâd parod i dynnu llun y portreadau a'u hatgynhyrchu. Tynnwyd y lluniau, gyda'i fedr arferol, gan fy nghyfaill John Roberts, Y Ffôr.