DYFODOL Y CASGLWR - Y Golygydd

OS EDRYCHWCH ar gornel chwith uchaf yr amlen y postiwyd y copi yma i chi ynddi, mae'n bosibl na welwch un dim yno. Os felly fe olyga fod lle i ddiolch i chi am nad oes arnoch ddimai o ddyled y medrid ei nodi yno. Ond os oes yna swm o arian wedi ei nodi yn y fan yna (gyferbyn â'r stamp) wel dyna faint sydd arnoch o dâl aelodaeth, sef yr hyn sy'n talu am gyhoeddi a dosbarthu Y Casglwr.

Felly y neges yn gyntaf, a'r eglurhad yn dilyn. A dyma'r neges - os bydd eich dyled yn dal yn fwy na'r ddwybunt flynyddol ar ddechrau mis Rhagfyr, NI fyddwch yn derbyn yr un rhifyn arall o'r cylchgrawn am y rheswm syml na fedrwn fforddio i'w bostio am ddim i chi.

Teg yw egluro mai cyfran fechan obonoch sydd mewn dyled ac, yn ddieithriad, fe gredwn, anghofrwydd a pheth diofalwch dynol yw'r rheswm am hynny. Wedi anghofio talu ar ddechrau blwyddyn y peth hawddaf yn y byd yw anghofio am weddill y flwyddyn. A'r unig beth a fedrwn ni ei wneud yw eich atgoffa.

Mae yna reswm da paham. Llwyddwyd i gadw'r tâl yn ddwybunt y flwyddyn am ddeng mlynedd. Bu hyn yn bosibl am i'ch cefnogaeth chi fod mor dda. Ar gyfartaledd fe gododd cylchrediad Y Casglwr gant o gopïau bob blwyddyn, a'r union gylchrediad ar y funud yw 1,065 i aelodau a rhyw dri dwsin o gopïau rhad i hysbysebwyr etc., sy'n gyfanrif o un cant ar ddeg.

Ond mae'n costio mwy na £700 y rhifyn i argraffu Y Casglwr, sy'n llyncu pob ffadan beni o'r tâl aelodaeth. Ar ben hyn mae yna gostau postio, yn amlenni a stampiau (sy'n dal i godi yn eu pris). Ar ben hynny telir rhywfaint (ond dim chwarter digon) i'r cyfranwyr (a chroeso i bob cyfraniad); ac ar ben y cyfan fe delir (ond dim hanner digon yma chwaith) am ddarlith flynyddol ym Mhabell Lên y Brifwyl (a chofiwch amdani fore Gwener yn Abergwaun).

A dyma'r pwynt mawr (chwedl Ifas y Tryc) - pe bai’r holl aelodau'n talu mewn rhesymol bryd medrem barhau i gyhoeddi'r Casglwr y flwyddyn nesaf eto heb godi'r tâl.

Os medrwch ein helpu i ddal i ychwanegu at ein darllenwyr dyna help enfawr arall i gadw'r tâl fel y mae. Nid oes yr un copi o'r rhifyn diwethaf ar ôl, ond dyma gynnig arbennig i aelodau newydd - rhifyn Awst a Rhagfyr eleni, ynghyd â thri rhifyn y flwyddyn nesaf am deirpunt. Bydd copïau ar gael, a chroeso, ym Mhabell Gwasg Gwynedd ar faes Prifwyl Abergwaun.

STONDIN YN Y 'STEDDFOD

BYDD gennym gornel yn stondin Gwasg Gwynedd eleni eto. Fe fydd rhywun o'r Casglwr yno nawr ac yn y man ac fe fydd bocs yno i bawb roi eu tanysgrifiadau. Os hoffai rhai o'n haelodau wirfoddoli i dreulio orig wrth y bwrdd dylent gysylltu â Richard Lewis cyn gynted ag sydd bosibl.