NI'R CYMRY TRWY LYGAID YR ESTRON
gan Bruce Griffiths

Adolygiad: Sharon Penman, Here Be Dragons. Collins, 1986. £11.50.

GWLAD y Bobl Ryfedd, dyna yw Cymru yn rhy aml i'r nofelydd nad yw'n Gymro. Rhywsut, pan dry atom, cyll nofelydd sydd fel arfer yn ŵr call, bob synnwyr persbectif. Ceir y gybolfa ryfeddaf – pentrefi pyllau glo gyda derwyddon a dreigiau yn y cefndir, milwyr oes Harri Tudur yn gwisgo cennin Pedr yn eu helmau ac yn canu Hen Wlad Fy Nhadau ganrifoedd cyn ei chyfansoddi.

Y mae pob Cymro yn eithafwr gwleidyddol, yn lloerigyn crefyddol, morbid a rhagrithiol, yn botsier, yn feddwyn neu'n dirgel addoli'r Diafol, os nad yw'n Dderwydd.

Gyda pheth amheuaeth, felly, o ystyried ei theitl, yr agorais y nofel hon. Da gennyf ddweud imi gael fy siomi ar yr ochr orau. Treuliodd Sharon Penman gryn amser yn astudio hanes Cymru'r Oesoedd Canol cyn bwrw ati i weu nofel o gwmpas hanes priodas Llywelyn Fawr â Joanna neu Siwan, merch siawns y Brenin John. Dyna fan canol tapestri eang sy'n ymestyn dros dair gwlad - Cymru, Lloegr a Ffrainc yn oes dirywiad Ymerodraeth Angyw.

Eir â ni o Gastell Dolwyddelan i Abaty Fontevrault, o Gastell Chinon i Lanfaes. Cyfarfyddwn â'r dyn drwg a diddorol hwnnw, y Brenin John, a oedd yn ddigon creulon i grogi plant bach o Gymry a oedd yn wystlon ganddo, ac eto a oedd yn dad caredig a feddyliai'r byd hyd yn oed o'i blant siawns, ac a aeth i drafferth i ddod o hyd i Siwan a pheri ei dwyn ato i'w lys yn Ffrainc.

Oes ddisentiment oedd hi: rhoddid merched yn briod, a hwythau eto'n blant, i wŷr hŷn lawer na hwy, nas gwelsent erioed o'r blaen, ac a oedd yn aml yn anghyfiaith. Dyna hanes Joanna/Siwan - ei rhoi gan ei thad yn wraig i Lywelyn gyda'r bwriad o glymu hwnnw yn was ffyddlon i goron Lloegr.

Ond nid â merch y gellid darostwng Llywelyn - daliodd i ymladd grym Lloegr, ac yn ddieithriad yn chwarae'r un gêm â John, gan briodi ei blant â phlant yr estroniaid hyn.

I Siwan, wrth gwrs, alltudiaeth oedd dod i'r llys yn Abergwyngregyn, ym mhellafoedd Gwynedd, a hithau'n rhyw bymtheg oed; llys lle caseid pob Normaniad, lle na siaradai odid neb Ffrangeg; llys lle 'roedd gan Lywelyn eisoes ordderch a phlant siawns.

Darlunnir y cyfan yn fyw iawn ac yn argyhoeddiadol iawn. Rhwygir Siwan rhwng ei chariad at ei thad a'i chariad at Lywelyn. Rhaid iddi wynebu gelyniaeth Gruffydd, mab siawns Llywelyn, ac achub cam ei mab gwylaidd ei hun, Dafydd, a ddewiswyd gan Lywelyn yn etifedd yn hytrach na Gruffydd. Dangosir Siwan yn ymbil dros Lywelyn gyda'r Brenin John yn Aberconwy, a Llywelyn ar ffo yn Eryri. Deuir yn y diwedd at y garwriaeth odinebus rhyngddi hi a'r Barwn Normanaidd William de Braose, yr hanes a geir yn Siwan Saunders Lewis ac yn Llywelyn Fawr Thomas Parry.

Mae'r awdur yn dilyn y traddodiad mai yn Aber y bu crogi Gwilym Brewys (dienyddiad a allasai fod wedi peryglu holl deyrnas Llywelyn) er mai'r tebyg yw mai yng Nghastell Crogen, ar ffiniau Penllyn, y bu hynny.

Nid ymdrinnir yma â'r cwestiwn diddorol, sut na chododd gwŷr y Mers a Lloegr fel un dyn i ddial y dienyddio sarhaus a herfeiddiol hwn. Ai gwir y ddamcaniaeth mai cynllwyn ar ran gelynion William i'w ddifetha oedd y cwbl?

***

CLAMP o nofel braff yw hon, ond ar ei hyd, gwaith rhwydd yw ei darllen, gan fod sawl golygfa ar ffurf dialog, a'r symud o'r herwydd yn gyflym. Un gwendid y sylwir arno yw fod pawb yn llefaru yn yr un arddull delegraffig sy'n hepgor y gair 'and'; mae defnydd dieisiau o ambell air hynafol megis 'wroth' a 'fo certès'; chwith yw clywed plant yn cyfarch eu rhieni fel 'Mama' a 'Papa' yn null teulu brenhinol Lloegr heddiw.

Ond a chofio nad oes, hyd y gwn i, yr un llinell o ddialog o'r oes hon yn goroesi yn yr un cronicl, cefais fy argyhoeddi, ar y cyfan, mai sgyrsiau digon tebygol oedd sgyrsiau'r nofel, yn enwedig pan fo'r arwres yn yr olygfa.

Rhywsut, teimlais nad oedd yr awdur yr un mor sicr sut y byddai Cymry yn sgwrsio ymhlith ei gilydd: ychydig a geir o'r trafodaethau pwysig rhwng Llywelyn a'r arglwyddi eraill o Gymry.

Er nad hanesydd mohonof, sylwais ar ambell beth anamserol: yn y mapiau dangosir ffin 1536-42 rhwng Cymru a Lloegr; ni ddefnyddid y gair plas (benthyciad o'r Saesneg place) yn oes Llywelyn hyd y gwn i. Gall y goreuon lithro.

Mewn nofel hanesyddol o'r enw Cry God for Glendower, nofel y bu'n rhaid imi roi'r gorau iddi cyn darllen ei hanner, cofiaf fod yr awdur dan yr argraff y gellid gweld yr Wyddfa o Sycharth! A dyna'r nofelyddes ddawnus honno, Mary Stewart (The Crystal Cave; The Hollow Hills; The Last Enchantment) sy'n trafod oes Arthur a Myrddin yn ddychmygus ond heb ormod o rwdl ffug-dderwyddol: mae hi, hyd yn oed, dan yr argraff y byddai Brythoniaid yr oes honno yn rhuthro i'r gad gan weiddi "Yr With-va! Yr With-va!" am ryw reswm.

A chan ddod yn fôl at y nofel dan sylw: nid wyf eto'n rhyw siŵr paham y dewiswyd y teitl Here Be Dragons, onid yw'n glod i'r Cymry arwrol hynny, ac yn bennaf Lywelyn Fawr, a wnaeth gamp - cynnal annibyniaeth Cymru yn wyneb gelyniaeth gwladwriaeth gryfaf Gorllewin Ewrop, a marw gan adael ei wlad yn rhydd, yn weddol unedig ac mewn heddwch â'i chymydog fawr. Mae'r nofel hon yn gryn gymorth i ddeall yr oes gymhleth honno, ac yn dangos y Cymry fel pobl ddynol, urddasol a normal.