PAN HEIDIODD SAESON YMA I WELD MOCHYN CYMRU YN LLOWCIO EFO'R TEULU - Ond tydi pethau wedi newid medd Eirwyn Wiliam

Nid disgrifiad o wlad anffortunus yn y Trydydd Byd yw hwn ond yn hytrach o Gymru. Dyma ddisgrifiad a gyhoeddwyd gyntaf dan enw 'E.B.', ac a ail-argraffwyd yn y cylchgrawn Wales I (1894) dan ei deitl gwreiddiol, 'A Trip to North Wales: being a description of that country and people in 1700'. Atgynhyrchwyd y disgrifiad fwy nag unwaith yn hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif gan 'J.T.' neu John Torbuck, yn A Collection of Welch Travels and Memoirs of Wales (1709, 1738, a 1749).

Mae'r disgrifiad yn nodweddiadol mewn dwy ffordd: mae'n pardduo'r Cymry yn ddidostur, ac fe'i 'benthyciwyd' a'i ail-gyhoeddi gan awdur arall.

Dyma ddau brif nodwedd disgrifiadau lluosog teithwyr Seisnig o'u hymweliadau â Chymru yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg: fe ddyfynnwyd talpiau helaeth o lyfrau Pennant druan am hanner canrif ar ôl ei deithiau pan oedd yr arferion a ddisgrifiai wedi mynd yn angof llwyr mewn gwirionedd.

Ond 'doedd Pennant ddim yn nodweddiadol o'r teithwyr hyn – yr oedd yn Gymro ei hun, yr oedd ganddo ddiddordeb byw a di-wawd ym mhopeth a welai, ac yn bwysicach fyth efallai, mae'n amlwg iddo weld y cwbl a ddisgrifiai drosto ei hun.

***

CYN diwedd y ddeunawfed ganrif nid oedd Cymru yn wlad hawdd ei thramwyo, gyda'i ffyrdd yn wael a thyllog a'r gwestai yn brin a chyntefig. Gyda datblygiad y lonydd tyrpaig a ffyrdd mwy megis lôn bost Telford o Lundain i Gaergybi daeth teithio yng Nghymru yn llawer haws.

Dyma'r cyfnod hefyd pryd yr oedd yn ffasiynol i Saeson cyfoethog fynd ar daith estynedig i'r cyfandir er mwyn gwella eu haddysg a lledu tipyn ar eu gorwelion ynysig. Ni allent oll fforddio treulio blwyddyn neu fwy ar y cyfandir a daeth yn arfer i'r rhai hyn droi yn hytrach at fannau anghysbell a rhamantus Prydain – Yr Alban, Ardal y Llynnoedd, a Chymru.

Ond yr oedd un peth yn gyffredin iddynt oll; yr oeddynt yn rhamantwyr ac wrth eu bodd â golygfeydd trawiadol Eryri neu dlysni coediog Dyffryn Maentwrog.

Ar ôl 1770 y cychwynnodd y ffasiwn o deithio i Gymru o ddifrif, a bob haf wedyn am hanner canrif neu fwy gellid gweld Saeson bonheddig yn tramwyo ffyrdd a llwybrau'r wlad, ar droed, ar gefn ceffyl neu mewn coets fawr. Byddent yn astudio gweithiau Gerallt Gymro, Leland a Camden cyn cychwyn, a mawr fu'r damcaniaethu di-sail ganddynt ar bob pwnc dan haul, o darddiad yr iaith Gymraeg i'r testun hynafiaethol mwyaf dyrys.

Bron yn ddi-ffael hefyd cadwent ddyddiadur manwl, ac ar ôl cyrraedd adref bu i dros drigain ohonynt gyhoeddi eu profiadau ar ffurf 'Tours through Wales', llyfrau yr oedd eu cyd-deithwyr yn eu hastudio yn ofalus ac yn dwyn talpiau addas ohonynt i'w hail-gyhoeddi fel sylwadau gwreiddiol.

***

BETH SYDD gan y teithwyr hyn i ddweud am Gymru, ac am gartrefi y brodorion yn arbennig?

Nid oeddynt yn rhy hapus â'r hyn a welsant, neu yn hytrach buasai'n fwy cywir dweud, fel pob teithiwr hyd yn oed heddiw, iddynt ymffrostio yn y tlodi: y mwyaf garw yr hyn y bu iddynt ei ganfod y mwyaf anturus yr oeddynt hwythau.

Mae eu llyfrau felly yn llawn ansoddeiriau damniol, megis 'enbyd', 'garw', 'tlawd', 'gwael', a 'salw', ac mae eu brawddegau yn aml yn llwyddo i gynnwys mwy nag un o'r ansoddeiriau hyn: dyma John Byng, yn ddiweddarach yr Is-Iarll Torrington, yn 1794, er enghraifft: "Mae'r Bala yn dref farchnad wael, y tai yn isel, du a salw"; "Mae Conwy yn lle tlawd a gwael".

Yr oedd y Parchedig G.J. Freeman, ar y llaw arall, dipyn yn fwy cytbwys: er iddo ddweud am Nefyn, "Mae'n anodd dychmygu lle mwy truenus na hwn ... Mae llawer o'r tai yn disgyn yn adfeilion". Eto fe nododd am Lanbedrog, "Un o'r pentrefi tlysaf imi erioed ei weld, wedi ei leoli yn rhamantus mewn cwm cysgodol yn agos i'r môr". Ond ar gyfartaledd, am bob un sylw canmoliaethus ceir yn rhwydd naw i'r gwrthwyneb.

Yr oedd George Lipscomb yn nodweddiadol o'r teithwyr hyn. Dyma ei sylw ar dŷ ger Pumlumon: "Yma gwelsom fwthyn, neu yn hytrach garnedd, wedi ei ffurfio yn gyfan gwbl o dywyrch ac wedi ei doi â'r un defnydd. Gwnâi carreg fel clawr i'r ffenestr ac yr oedd y drws yn wiail ... bron na welais erioed ffasiwn bictiwr truenus. Ac eto, ni ellid ystyried y gŵr hwn yn dlawd, canys dywedodd wrthyf fod ganddo dros gant o ddefaid ar y mynydd, ac nid oedd yn talu rhent".

Ond gwellodd pethau ychydig erbyn iddo gyrraedd Cwm Ystwyth: "Maldodwyd ni trwy weld pedwar tŷ gyda'i gilydd .... dyma bentref Cwm Ystwyth, nad oes ond ychydig i'w gweld sydd yn fwy truenus nac yn fwy anghyfannedd."

***

YR OEDD dulliau byw pobl dlawd y mynydd-dir yn achosi cryn sioc i'r Saeson uchel-ael hyn. Sylwodd R. Warner yn 1800, "Ystyrir mochyn yn yr ardaloedd mynyddig hyn yn un o'r teulu; a gwelir ef yn aml wrth ei bwysau yn gyfforddus o flaen tan y bwthyn, gyda phlant y tyddynnwr yn chwarae o'i amgylch".

Yn Ninas Mawddwy y gwelodd Warner yr olygfa deuluaidd hon, ond nododd William Bingley yr un duedd hefyd: "Wrth un bwrdd yr oedd y teulu yn eistedd .... yn bwyta eu bara llaeth, bwyd arferol y dosbarth gweithiol yma: yr oedd hen hwch fawr yn llowcio ei chinio hithau .... o bwced wedi ei gosod iddi gan y ferch mewn un cornel; tra'r oeddwn innau yn bwyta fy mara menyn ... yn y gornel arall". Ategwyd y syniad hwn o fudreddi gan sawl ysgrifennwr arall.

Yr oedd Byng yn gweld deuoliaeth yma: "I mi maent yn ymddangos yn falch a diofal; er eu bod yn gwneud sioe allanol trwy wyngalchu eu tai, byddai'n rheitiach pe buasent yn cael twb o ddŵr a'i ddefnyddio i lanhau y tu mewn i'w cartrefi, sydd fel eu cyrff bob amser yn fudr a chas...".

Mynegwyd yr agwedd hon ar ei gwaethaf yn y Llyfrau Gleision enwog, adroddiad Comisiwn Addysg 1847. Teithwyr â'r un duedd nawddogol oedd yr archwilwyr, gyda'u bryd ar gofnodi'r gwaethaf a welsant: "Credaf nad yw bythynnod Cymru ond ychydig gwell, os o gwbl, na chytiau'r Gwyddel yn yr ardaloedd gwledig ... Dim ond mewn ychydig iawn o fythynnod y ceir mwy nag un ystafell, sy'n cael ei defnyddio at fyw a chysgu. Rhennir hi fel arfer gan dresel fawr a silffoedd; a lle mae gwelyau ar wahân i'r teulu, fe rennir hwy â llen neu forden isel ... mae'r bythynnod a'r gwelyau yn aml yn fochaidd. Mae'r bobl hefyd yn fudr iawn."

***

WEITHIAU ceir disgrifiadau dipyn mwy cytbwys, disgrifiadau sydd o gryn werth wrth geisio olrhain dulliau byw ein cyndadau.

Dyma'r Arglwydd Lingen, un o gyd-archwilwyr Jellinger C. Symons a ysgrifennodd y dyfyniad uchod: "Yr oedd y llawr yn fwd; ar ochr dde y drws, ar ôl mynd i mewn, rhedai palis o fangorwaith bron i'r mur gyferbyn gan adael ond digon o le i fynd o un rhaniad i'r llall. Ym mhen draw'r cyntedd hwn yr oedd hen gist, ac o fynd yr ochr arall i'r palis yr oedd gwely cwpwrdd bron yn llenwi'r ystafell fewnol; yn agos iddo yr oedd yr aelwyd; dwy stôl isel ddi-ffurf oedd gweddill y dodrefn; un arall ychydig yn uwch, a hen dresel, neu rywbeth tebyg i un. Bangorwaith oedd defnydd y simnai, a ddôi i lawr o'r to dros yr aelwyd yn debyg i fonet neu ambarél; buasai cawod drom wedi diffodd y tân a boddi'r bwthyn, cymaint oedd maint twll y mwg ... Ychydig bolion wedi eu gosod o wal i wal oedd y nenfwd, neu'r hyn a ddeuai rhwng eich pen a gwellt y to, ac ar y polion hyn yr oedd ychydig o goediach rhydd wedi eu taenu."

Ceir disgrifiadau go debyg gan Wallter Mechain yntau yn ei General View ... of South Wales (1815), er efallai fod ei ddiweddglo braidd yn optimistig: "Mae tai mwd ... yn anfaddeuol ac yn cyfrannu llawer i gywilydd y wlad. Mae mur mwd rhyw bum troedfedd o uchder, talcendo isel o wellt gyda simnai o fangorwaith yn cael ei dal wrth ei gilydd â rhaffau gwellt ... yn rhoi yr argraff i'r sylwebydd o hen iâr yn gori ei chywion. Gadewch i'r disgrifiad byr hwn fod yr unig goffadwriaeth i'r annedd-dai hyn mewn llai na hanner canrif."

***

ER DIFFYG cytbwysedd ac atgasedd amlwg llawer o'r teithwyr hyn at Gymru, mae cryn werth i'w sylwadau fel dogfennau hanesyddol sydd nid yn unig yn dweud tipyn wrthym am ein gwlad ein hunain ond cryn dipyn am agwedd ein cymdogion agosaf tuag atom.

Mae deuoliaeth ryfedd yn y llyfrau hyn – mae'n amlwg na wyddai eu hawduron fod pethau gymaint gwaeth ar dlodion Lloegr ac yn wir ar eu tenantiaid eu hunain, nag oedd hi ar ffermwyr a thyddynwyr Cymru.

A'r paradocs rhyfeddaf oll yw, ar ôl canrifoedd o ddirmygu Cymru a'i phobl, i'r Saeson heddiw ddewis heidio yma yn eu miloedd ar eu gwyliau ac i ymddeol.