MIWSIG WRTH Y MILIWN - yn segur yn Abertawe

COLLED FAWR arall yn ystod yr haf yma - Gwasg y Brython, y daeth Huw Evans o'i gwm eithin yn Uwchaled i'w sefydlu, yn cau. Eisoes fe ddaeth einioes yr hen Hughes a'i Fab i ben yn nhre'r Brifwyl a gan fod Snell hefyd wedi cau yn Abertawe dyma derfyn ar ddau o brif gyhoeddwyr gweithiau cerddorol yng Nghymru.

Y mae tristwch anarferol ynglŷn â Snell gan fod yna, mewn cistiau enfawr yn Aber­tawe hyd at filiwn o gopïau - yn 81 y cwmni - o gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig a gyhoedd­asant yn gorwedd yn segur, a neb hyd yn hyn, wedi bod yn barod i dalu'r oddeutu ugain mil o bunnau a ofynnir am y copïau a'r hawlfreintiau.

Gan fod darnau rhai o brif gyfansoddwyr Cymru a llu mawr o'r darnau a fu mor boblogaidd gynt ynghlo fel hyn aeth yn amhosibl cael gafael ar gopïau o'r hen weithiau yma. Nid yw'n werth chweil i'r cwmni ymchwilio am nifer fach o gopïau yn y bwndel mawr. Felly y daeth i ben gyfran helaeth o'n hetifeddiaeth gerddorol ni.

Yn Y Casglwr yma ceir peth o gefndir yr hen gwmni yn Aber­tawe sy' mor ddigwsmer. Ond fe gynigir mil o bunnau i unrhyw un a fedr sicrhau prynwr i'r holl nodau mud nad ydynt mwyach ond eco diflanedig mewn pum cist enfawr.

CYFARFOD WRECSAM

CYNHELIR Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ar ddydd lau 4 Awst 1977 am 9.30 a.m. ym Mhabell y Cymdeithasau. I ganlyn rhagarweiniad byr gan D. Tecwyn Lloyd fe geir trafodaeth ar gynnwys Y Casglwr Rhif 1 a 2. Llywyddir y Cyfarfod gan y Dr. E.D. Jones. Mawr hyderir y daw tyrfa dda o'r aelodau a'u cyfeillion yno.

CYFROL BOB OWEN

TRWY gyd-weithrediad a charedigrwydd perchnogion Gwasg Gwynedd bydd gan y Gymdeithas gornel ym mhabell y wasg honno ar faes y Brifwyl yn Wrecsam. Cofiwch alw heibio - cewch groeso mawr. A chroeso mwy os dowch ag aelod newydd gyda chi i ni gael ei enw i lawr.

Fe freuddwydiwyd y gallesid dod â'r gyfrol fawr 'Bywyd Bob Owen' gan Dyfed Evans o'r wasg cyn yr Eisteddfod. Ond gan ei bod dros gan mil o eiriau bu'r dasg yn ormodol.

Ond mae'r gwaith ar y gweill a bydd y gyfrol ar gael mewn da bryd at y Nadolig. Mae'n anodd dweud ei phris, ond ceisir cadw hwnnw i lawr i bedair punt neu lai.

Yn unol â'r addewid yn Y Casglwr cyntaf, rhoddir telerau arbennig i aelodau Cymdeithas Bob Owen - £2.50 (dwy bunt a chweugain) i bob aelod sy'n barod i archebu a thalu am y gyfrol cyn diwedd wythnos y Brifwyl. Gellir archebu a thalu ym mhabell Gwasg Gwynedd ar faes y Brifwyl neu anfon at Gwasg Gwynedd, Nant Peris, Caernarfon.

Bydd y Gymdeithas yn gwneud cyfraniad tuag at gyhoeddi'r gyfrol er mwyn cadw’r pris mor isel ag y gellir gan y bydd nifer mawr iawn o Gymry'n dymuno cael copi o'r gyfrol hon - sy'n ddarlun diddan a phwysig o gyfnod yn ein hanes.

YR AELODAETH

DISGWYLIWN sicrhau llu o aelodau newydd yn y Brifwyl yn Wrecsam - mae yna gryn waith cenhadol i’w wneud eto. Os byddwch yn Wrecsam anogwch eich cyfeillion i alw ym Mhabell Gwasg Gwynedd ( sy'n argraffu Y Casglwr) ac ymaelodi. Y tâl yw £2 am y flwyddyn ac fe ddaw drwy'r post i chi bob rhifyn o'r Casglwr. (Mawrth, Awst, Rhagfyr), ac fe ga' pob aelod gopi o'r gyfrol Bywyd Bob Owen yn rhatach.

Os gwyddoch am unrhyw un a hoffai ymaelodi trwy'r post, dyma'r cyfeiriad i anfon gair: Parch. Dafydd Wyn Wiliam, Ysgrifennydd Cymdeithas Bob Owen, ********, Pontyberem, Llanelli.

Os oes gennych gyfraniad o unrhyw fath - neu ymholiad neu wybodaeth neu lythyr - ar gyfer Y Casglwr, fe ga' groeso mawr iawn yn wir, dim ond anfon i'r cyfeiriad yma: Y Casglwr, 18 ********, Llanrug, Caernarfon.

HELP LLAW

HELP mawr tuag at gyhoeddi Y Casglwr yw grant o £350 a gafwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru tuag at y costau. Golyga hyn y byddwn o hyn allan yn medru talu swm bychan am bob cyfraniad i'r cylchgrawn ac yn medru wynebu'r dyfodol yn fwy hyderus.

Ond yr elfen bwysicaf yn Y Casglwr yw ei ddarllenwyr. Os bydd y cynnwys yn ddigon defnyddiol a diddan i ddenu mwy o aelodau ac o ddarllenwyr bydd pawb yn hapus. Nid yw cadw’r aelodaeth bresennol yn ddigon, a chyffes ffydd seml y golygydd presennol yw - darllenwyr newydd neu olygydd newydd.