PE BAWN I'N FROLIWR - Mary Ellis a llyfrau T.E.Ellis

PE BAWN i'n brolio fy llyfrau, byddwn yn siŵr o ddarganfod toc fy mod yn siarad efo un fyddai'n berchen ar set gyflawn o lyfrau Gwasg Gregynog, neu pob argraffiad o'r Llyfr Gweddi Cyffredin. A phetawn yn digwydd gorfoleddu am fy mod wedi cael gafael ar un o lyfrau mwyaf prin Myrddin Fardd, dyweder, byddwn yn darganfod yn weddol fuan fod silffoedd y sawl y siaradwn â fo yn gwegian o dan bwysau holl lyfrau Myrddin, heblaw pob llyfr a gyhoeddwyd yn Llanfyllin, Llangollen, Aberdâr neu rhywle annisgwyl felly, Cyfres y Fil yn gyflawn, a bron y cwbl o Almanaciau Caergybi. Profiadau torcalonnus felly sy'n dyfod i'm rhan. Dysgais innau bellach, mai'r ffordd orau i frolio, fy nhipyn casgliad yw dechrau fel hyn:

"Dim ond un llyfr o'r Kelmscott Press sydd gen i"

"O!" syndod mawr, "Mae gynnoch chi lyfr o'r Kelmscott Press, oes 'na?" y llais yn llawn edmygedd, os nad eiddigedd, a dyna finnau'n teimlo fy mod wedi cael yr ergyd adre.

Anaml iawn y gallaf fi gychwyn fel yna, gan mai ychydig iawn, iawn o lyfrau "prin" sydd gennyf. Ond yr hyn y gallaf ymffrostio ynddo yw, fod rhai o'm llyfrau'n ddiddorol oherwydd eu cysylltiad­au.

***

DYNA I CHI lyfr John E. Southall, Wales and her language a gyhoeddwyd ganddo yn ei wasg yng Nghasnewydd yn 1892. Ar flaen y clawr lledr tywyll mae llun cenhinen mewn aur, a'r geiriau "Cymru, Cymry a Chymraeg" uwchben, ac oddi tano " Gwell pwyll nag aur", a chylch hirgrwn o'i gwmpas. Mae'r papur a'r argraffwaith o ansawdd ardderchog, a golchiad coch llachar i ymylon y tudalennau. Mae'n anodd gennyf gredu mai dyma'r argraffiad cyffredin. Un o lyfrau Thomas E. Ellis, A.S. ydoedd.

Mae gan Southall arddull ddarllenadwy iawn. Adroddir hanes comisiynwyr y Llyfrau Gleision, 1847 a sefydlu'r Gymdeithas er defnyddio'r laith Gymraeg : mae'n ymdrin â gohebiaethau Dan Isaac Davies a Henry Richard, a llawer iawn o ffrwyth ymchwil yr awdur am gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg ac am ddysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion. Ni welai fawr o anhawster i hyfforddi'r di-gymraeg yn ysgolion deheudir Cymru.

Gŵr o sir Henffordd oedd Southall, a gychwynnodd fusnes argraffu yng Nghasnewydd yn 1879. Crynwr ydoedd gyda rhagfarn amlwg yn erbyn Eglwys Loegr, yng Nghymru beth bynnag am Loegr. Y mae wrth ei fodd yn dyfynnu datganiadau gwrth Gymreig yr offeiriaid yn Adroddiadau 1847, ac yn tywallt gwawd ar Goleg Dewi Sant, Llanbedr am ei ddiffyg Cymraeg. Mewn llyfryn a sgrifennodd am gyfrifiad 1891, mae'n dweud am Fangor :

Er hynny, pan aeth ati i ddysgu Cymraeg o ddifrif, at yr Athro Cymraeg yng Ngholeg Llanbedr yr aeth am gyfarwyddyd, ac wrth ddarllen Y Cyfaill Eglwysig yr ymgynefinodd â'r iaith. Swynwyd ef gan y gerdd Cyflafan Morfa Rhuddlan Ieuan Glan Geirionydd) wrth glywed Crďwr tref Aberystwyth yn ei darllen, a dysgodd y cyfan ar ei gof. Fel Crynwr uniongred, ni allai gyd­fynd â'r rhyfel-gân, wedi iddo iawn ddeall ei hystyr! Cyhoeddodd lyfrau darllen dwy­ieithog ar gyfer ysgolion cynradd ac enillodd wobr mewn eisteddfod yn 1897 am draethawd ar ddiogelu a dysgu'r iaith yn y rhannau Seisnig o Gymru.

Arbenigrwydd y llyfr Wales and her Language i mi yw fod nodiadau T.E. Ellis ar gyfer araith i Gymdeithas Cymry Caer yn dal ym mhlygion y llyfr. Mae'n cyfeirio at dudalennau arbennig, a chopďodd rai dyfyniadau yn ei law ysgrifen ddestlus, gain. Marciodd nifer mawr o baragraffau gyda llinell i lawr yr ochr, ac y mae ganddo aml ryfeddnod. Fel ei fab, yr oedd ganddo lygad barcud am wallau argraffu, ac fe'u cywirodd. I aelod seneddol prysur, yr oedd y llyfr hwn yn hwylus dros ben, gyda hanes dysgu'r Gymraeg mewn un gyfrol. Mae'n eithaf posibl fod T.E. Ellis wedi rhoi cymorth i'r awdur.

***

LLYFR HYNOD arall, eto, yn un o lyfrau T.E. Ellis yw Y Pererin, sef pigion o Hymnau. Llyfr bychan, bach, fawr fwy na stamp post yw hwn, yn cynnwys deg o emynau, John Jones, Pyll oedd y cyhoeddwr; ŵyr i Ddafydd Jones Drefriw a thaid y Dr Hartwell Jones. Anrheg Nadolig i T.E. Ellis "oddi wrth ei hen gyfaill, John Cowlyd" 1897 yw'r copi sydd gennyf fi.

***

EIDDO Mrs. Frances Davies, Cwrtmawr, Llangeitho yw'r trydydd llyfr, Life and Letters of Henry Rees. Golygwyd hwn gan Annie Mary Davies, wyres Henry Rees. Sgrifennodd y cofiant yn Saesneg er mwyn i or-wyrion a gor-wyresau Henry Rees wybod ei hanes. Mae hyn ynddo'i hun yn adlewyrchu'r cyfnod. Priododd merch Henry Rees â Richard Davies, Porthaethwy yn 1855. Ymhen rhai blynyddoedd aethant i fyw i Benarth, plasty ar Ian afon Conwy.

Yn y llythyrau, sydd wedi eu golygu'n ofalus, cawn gipdrem ar fywyd gwahanol iawn i’r ddelwedd gyffredin o weinidog Methodist. Dyma'r aristocratiaid Methodistaidd y sonia R.T. Jenkins amdanynt. Cyhoeddwyd y gyfrol hon yn 1906 gan Jarvis & Foster, Bangor For Private circulation only. Nid oes arwydd arbed costau ar gyfyl y llyfr o dros 540 o dudalennau o bapur tew a darluniau helaeth.

Nid oes dim sy’n debyg o achosi berw llyfryddol yn y tri llyfr uchod, ond y maent yn rhoi pleser i mi, a dyna, mi dybiaf, yw hanfod casglu llyfrau.