PEIDIWCH Â LLOSGI DIM
Prys Morgan a thrysorau'r hen wraig

'ROEDD hi wedi mynd i'r pen ar yr hen wraig. "Doedd dim amdani ond gwerthu'r hen gartre. Pan ddeuai'r cymdogion a'r cyfeillion mewn a gweld y pentwr trugareddau o bob rhith a math ym mhob twll a chornel, eu hawgrym fyddai "Llosgwch y cwbwl!" 'Roedd yn anodd i'r hen wraig glaf wybod ble oedd dechrau. 'Rwyf i yn byw led tri chae oddi wrthi, a digwyddais basio'r tŷ ryw fore, pan oedd hi yn petruso. "Dewch mewn i roi eich barn ar y llyfrau," ebe hi. A dyna ddechrau un o'r misoedd mwya' diddorol yn fy mywyd; chwilio, clirio, trysori, rhestru, catalogio. Diwedd y peth oedd arwerthiant o'r llyfrau yng Nghaerfyrddin ym mis Mai 1977.

Gyda'r llyfrau fe anfonwyd pentwr o ysgythriadau ac engrafiadau i'r arwerthiant. Nid oedd gofyn mawr iawn am y rheini: yr unig beth o ddiddordeb i'r darllenwyr efallai oedd pedwar engrafiad o Gymru gan Richard Wilson, wedi eu cyhoeddi gan Boyden yn 1775 ac fe aeth y set o bedwar am £65.

Casglwyr a masnachwyr llyfrau a ddaeth i'r arwerthiant yn benna, cynulleidfa ddethol, ddeallus. Nid fy mhethau i oedd ar werth, ond teimlwn ryw ddiddordeb tadol ynddynt, hefyd, gan fy mod yn cofio darganfod y cyfrolau yn y cornel a'r cornel, dan domen o hetiau, mewn bag cefn beisicl, neu yn dal coes cwpwrdd yn gymwys, a'r cyfan dan haen deugain mlynedd o ebargofiant. Gan fod yr hen wraig ei hun yn cofio derbyn llawer o'r llyfrau yn rhoddion pan oedd hi'n blentyn neu'n ferch ifanc, anodd iawn oedd esbonio iddi fod casglwyr hen lyfrau â diddordeb ynddynt.

Rhoddwyd £25 am Farrar, The English Rock Garden (1925), £20 am Mid Summer Night's Dream wedi ei ddarlunio gan Arthur Rackham tua 1920. Fe gafwyd £12 am lyfryn back o luniau The Funny Alphabet a brynwyd yn 1840 gan ei thad-cu. Gan ein bod wedi darganfod pentwr o'i ddyddiaduron ef, 'roedd modd dyddio prynu rhai o'r cyfrolau.

***

YN UN o'r dyddiaduron llawysgrif 'roedd ei thad-cu. Charles Morgan, yn sôn am glywed Charles Dickens yn darllen A Christmas Carol ac am gael swper gydag ef. Syndod a phleser mawr wedyn oedd dod ar draws copi o'r argraffiad cyntaf (1843) yn un o'r llofftydd. Siom felly oedd gweld nad aeth am fwy na £24 yn yr arwerthiant, yn enwedig o gofio bod Charles Morgan wedi tanysgrifio i'r Iolo MSS yn 1848-9 a bod y copi wedi mynd yn yr arwerthiant am gymaint â £16.

Syndod imi oedd fod rhywun wedi rhoi £18 am bumed argraffiad barddoniaeth Charles Churchill (1774). 'Roedd y rhwymiad yn hyll iawn, a'r unig beth diddorol imi oedd perchenneb "Mr. Fagg's Library" yn Abertawe tu fewn i'r clawr, a phrisoedd benthyg llyfrau tua 1880 arno. Mae gwerthu dan forthwyl yn beth rhyfedd ac annisgwyl. Llyfrgell teulu oedd y casgliad llyfrau ac 'roedd hen fam­gu wedi tansgrifio i lyfryn clawr papur yn 1796, barddoniaeth gan William Wainhouse. Aeth am £42.

'Roedd mynd ar yr hen lyfrau llenyddol, yn fwy felly nag ar lyfrau crefyddol. 'Roedd rhwymiad gwych iawn i gyfrolau Biddulph ar wasanaethau Eglwys Loegr (1799-1805) - byddent yn bictiwr ar unrhyw silffoedd. Ond aethant am £2, dim byd mwy. Gwahanol iawn oedd y stori am lyfrau'r byd real. Dyma oedd craidd a chryfder y casgliad, wedi eu gwneud gan James Morgan o Abercothi (bu farw yn 1771), George Morgan (bu farw 1819) a Charles Morgan (bu farw 1857), ill tri yn fargyfreithwyr yng Nghymru a Llundain.

Rhoddwyd £50 am Arnold, Observations on Insanity (1806), a £30 am Dictionary of Arts and Sciences (1763). Nid syndod efallai oedd rhoi £24 am un gyfrol o argraffiad cyntaf Bewick, British Birds er bod yr ail gyfrol wedi ei dwyn o'r casgliad yn 1833.

'Roedd llawer iawn o lyfrau cyfraith o'r cyfnod tua 1800 ac fe aeth y rheini rhwng punt a deuddeg punt yr un. Posibilrwydd gwerthu i'r farchnad Americanaidd oedd yn gyfrifol am y £65 a roddwyd am Chappe D'Auteroche, Voyage to California (1778), a phosibilrwydd tynnu'r engrafiad­au allan a'u gwerthu fesul un, mae'n debyg, oedd yn gyfrifol am £20 a roddwyd am Felton, Carriages and Harness (1805) er bod peth o'r gyfres yn eisiau.

***

'ROEDD digon o fynd ar y llyfrau hanes, yn naturiol, ond nid oedd y prisiau yn syfrdanol o uchel, a 'styried bod rhwymiadau gwych iawn o aur a lledr llo ar y rhain i gyd. Rhoddwyd £18 am Noble, Biographical History (3 cyfrol 1806). Fel gweithiau haneswyr fel David Hume, mae gwaith Noble yn ddefnyddiol o hyd. Ond beth oedd yn gyfrifol am y £70 a roddwyd am gyfrol Josiah Tucker (brodor o Dalacharn, gyda llaw) Four Tracts (1776)?

'Roedd y tri bargyfreithiwr a enwais yn dirfeddianwyr mawr hefyd, ac yn ddigon naturiol 'roedd llawer o lyfrau amaethyddol yn y casgliad. 'Roedd mynd mawr ar y rhain, hyd yn oed os oedd y rhwymiad yn wael: £55 am British Husbandry (1834), £40 am Harte, Essays on Husbandry (1770), £28 am Marshall, Rural Economy (1796), a'r rhyfeddod penna, £25 am lyfryn bach clawr papur di­enw o'r flwyddyn 1768 ar sut oedd tyfu coed eirin gwlanog. Mae'n rhaid bod yna gasglwyr llyfrau amaethyddol, ni fyddai neb ond casglwr yn rhoi £8 am Farming For Ladies mewn rhwymiad gwael o 1844.

***

MAE'N AMLWG nad rhwymiad yw popeth, ac nid wrth ei big mae prynu cyffylog. Un o'r cyfrolau hynaf yno oedd albwm cyfansawdd, bron wedi mynd yn rhacs jibidêrs, o hen hen ddramâu. Bu bron inni ei lluchio i ffwrdd, ond wrth iddi agor gwelsom fod ynddi bethau fel argraffiad cyntaf o gomedïau William Wycherley 1676-7. Arbedwyd ei bywyd. Yn wir, er hylled ei chyflwr, aeth am £150 yn yr arwerthiant.

Ar y pegwn arall, wedyn, gallem ni ragweld yn hawdd y byddai digon o brynwyr i lyfrau â darlun­iau ynddynt, yn enwedig o wledydd pell. Rhoddwyd £70 am gyfrolau ar Lundain a'r ardal, yn llawn mapiau ac engrafiadau (1761), £40 am argraffiad 1765 o Dr. Lee's Botany gan fod darluniau o blanhigion, ac ‘roedd digon o brynwyr i lyfrau darluniedig o ganol y 19 ganrif. Er enghraifft, cafwyd £40 am ail argraffiad o deithiau Edward Lear i Albania (1852) gan fod lluniau Lear mor brydferth.

Rhoddwyd prisiau da iawn am gyfres arbennig o hardd o weithiau William Gilpin tua 1800. 'Roedd deuddeg cyfrol i gyd, mewn lledr amryliw ac wedi eu goreuro, yn llawn lluniau acwatint a phapur sidan drostynt, ac o leiaf ddwy o'r cyfrolau yn ymwneud â Chymru.

***

LLYFR darluniadol oedd coron yr arwerthiant. Er bod yr hen wraig yn taeru nad oedd llyfrau yn y llofftydd cefais gyfle i chwilio, ac ar ben un wardrob o dan domen o hetiau 'roedd dwy gyfrol fawr lychlyd a ymddangosai yn dda iawn imi. History of the Thames (1794-6) a gyhoeddwyd gan y teulu diddorol hwnnw o sir y Fflint, y Boydelliaid. 'Roeddynt yn llawn o engrafiadau wedi eu lliwio gan bobol fel Faringdon, disgybl i Richard Wilson, ac eraill. Ni fu cyfrolau harddach yn fy nwylo erioed, ac nid oedd neb wedi eu trafod ers hanner canrif. Rhodd­wŷd £1,060 amdanynt yn yr arwerthiant.

Nid oedd y llyfrau ond darn bach o'r hyn a gafwyd yn y cilfachau a'r corneli, ac fe fydd mwy nag un arwerthiant eto o'r pethau eraill.

Ond 'rwy'n credu ein bod wedi darganfod digon i brofi i'r cyfeill­ion mai peth annoeth yw gwneud coelcerth heb edrych yn fanwl ar eich pethau. Dyfynnwch fy mhrofiad i, os mynnwch, a dwedwch wrth bobun "Peidiwch â llosgi dim!"