SAITH MIL O RECORDIAU ~ Ioan Mai a'r trysorau

Englyn gan John Griffith Owen, o Bantglas, Clynnog. Ond englyn i beth medda chi? Eleni mae hi'n ganmlwyddiant dyfeisio'r ffonograff gan Edison.

Deg ar hugain oed oedd Edison pan ddyfeisiodd y ffonograff yn 1877, ac oni chyfrifwch Edison ymhlith dyfeiswyr mwya'r byd? Yn blentyn, dyfeisgarwch a chywreinrwydd oedd nodweddion amlwg Edison. I'w athro ysgol yn y Merica, arwydd o styfnigrwydd oedd ei gwestiynau parhaus yn y dosbarth. Ond beth a feddyliodd yr athro, pan adgynhyrchodd Edison y geiriau Mary had a little lamb ar record rowlar am y tro cyntaf.

***

MAE YM Mhenllech, Llŷn, ŵr sydd wedi ymddiddori mewn caglu recordiau er pan oedd yn blentyn - Mr. William Owen Jones, Bryntirion, sydd â'i gasgliad erbyn hyn yn saith mil a rhagor. "Dau ewythr i mi oedd ar y môr. Y nhw ddaeth â recordiau i gychwyn i hen gartre 'nhad ym Mhen Palmant, Nefyn."

O'r cyfnod cynnar hwnnw, mae record o Morlais Morgan yn canu "Bendithiaist Goed y Meysydd" yn barchus yn ei siaced ac yn uchel ar y siart yn serchiadau William Owen.

"Ac mi fûm i'n ffodus yn fy nyddiau ysgol," meddai wedyn. "Mr. Owen Roberts, oedd fy mhrifathro yn ysgol Nefyn ac mi ofalodd fod yna record o ddarnau a genid gan y Bangor Trio ar gael er mwyn i ni'r plant gael clywed y Gerddoriaeth ymlaen llaw. A dyma'i chi record i gofio am yr amser hwnnw," meddai wrthyf wrth iddo ymgrymu o flaen trugareddau ei Hei Ffei er mwyn i mi gael mwynhau Kreisler yn byseddu y Meditation gan Thais.

***

HEFO'R un brwdfrydedd ag y byddai Bob Owen, Croesor, yn sôn am lyfr prin, dyma William yn gofyn a glywais i Caruso yn canu bas.

Ond tenor oedd Caruso... Ia, ond fe fethodd y bas â chanu mewn opera yn y Merica, ac mi drodd Caruso ei gefn at y gynnull­eidfa i ganu bas i lenwi'r bwlch.

A beth yw gwerth record fel, hon? Yn ôl y catalogau Americanaidd, mi ddeudwn i tua chant a hanner o bunnau.

***

NID CASGLU recordiau fel y casgl y wiwer gnau wna'r casglwr hwn o Benllech. Na, mae yno gatalogi gofalus, ac ar y funud mae ganddo gornel i holl recordiau Leila Meganne, a rhaid oedd gwrando ar ei record fawr - 0! Rest in The Lord"

Areithiau Gwladweinwyr hefyd ar gael ym Mryntirion - Hitler, Mussolini, Chamberlain, ... pob un o'r criwia ond Stalin a Franco. Ond pwy meddwn a ymddiddorai yn y rhain?

"Mi ddeuda'i chi," medd William. "Pan oeddwn i’n byw ym Morfa Nefyn, mi 'roedd 'na un araith a mynd garw arni. 'Rydwi'n cofio'n dda am un noson o aeaf, hen noson oer a gwlyb. Rhywun yn cnocio, yn y drws, a hitha'n sbel wedi un-ar-ddeg. Tom Nefyn, yn wlyb socian hefo'i feic ar ei ffordd adref o'r Greigwen. Gofyn tybed oedd modd cael record yr ‘enaid mawr' neu 'Mahatma Gandhi."