TRYCHINEB SNELL - Y Golygydd

ER PAN roes Cwmni Snell yn Abertawe y gorau i fasnachu y mae'r genedl mewn sefyllfa fwy argyfyngus mewn perthynas â chyhoeddi, yn ogystal â phrynu a gwerthu cerddoriaeth, nag y bu ar unrhyw adeg yn ystod y can mlynedd diwethaf.

Mae yna rai ugeiniau o weithiau cerddorol a gyhoeddwyd gan Gwmni Snell yn Abertawe dros gyfnod o ryw drigain mlynedd nad oes modd eu prynu yn unman gan gynnwys rhai gweithiau gan gyfansoddwyr cyfoes y genedl. Ac oherwydd hyn fe orfodwyd llu o bwyllgorau eisteddfodau (gan gynnwys pwyllgorau cerdd rhai o'r prifwyliau cenedlaethol a gyn­haliwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf) i gyfyngu ar eu dewis o ddarnau prawf.

Cychwynnodd yr argyfwng hwn yn hanes cyhoeddi ein cerddor­aeth tua diwedd 1970, pan ben­derfynodd Cwmni'r Mri D.J. Snell a'i Feibion yn Abertawe gau eu siop enwog yn High Street Arcade o dan gynllun datblygu Cyngor Dinas Abertawe, a phenderfynu'r un pryd ei fod yn rhoi'r gorau'n gyfan gwbl i'r adran gyhoeddi o'r busnes.

***

SEFYDLWYD y Cwmni hwn ym mlynyddoedd cynnar y ganrif gan y diweddar Mr. D.J. Snell, a dywedir nad oedd ond gŵr ifanc 19 oed pan fentrodd i'r busnes cyhoeddi am y tro cyntaf. Gŵr arbennig oedd Mr. D.J. Snell, ac nid oedd yn rhaid treulio rhyw lawer iawn o amser yn ei gwmni cyn sylweddoli bod ganddo ystôr o wybodaeth am gerddorion a cherddoriaeth y genedl. Diogelodd gopïau llawysgrif o lu o weithiau cerddorol gan rai o brif gyfansoddwyr y genedl, yn cynnwys operâu, operetau, unawdau, a chasgliadau o wahanol fathau, ac yn ffodus iawn fe brynwyd y copïau hynny gan awdurdodau'r Llyfrgell Genedlaethol ym 1967. Wedi marw Mr. D.J. Snell ym 1957, daeth dau o'i feibion, sef y Mri. Ronald a Leslie Snell yn Gyfarwyddwyr y Cwmni. Ac ar ôl i'r ddau frawd benderfynu eu bod yn dirwyn i ben yr ochr gyhoeddi o’r busnes yn niwedd 1970, agorodd Mr. Ronald Snell siop newydd yn Abertawe yn gwerthu gwahanol offerynnau cerdd.

***

YR UN pryd ag yr agorwyd y busnes newydd hwn penderfynwyd rhoi'r casgliad enfawr o gerddoriaeth y bu Cwmni Snell yn gyfrifol am ei gyhoeddi dros y blynyddoedd ar werth, - casgliad, gyda llaw, y dywedwyd amdano ar y pryd ei fod y mwyaf o'i fath trwy'r byd i gyd! Amcangyfrifwyd bod y casgliad yn cynnwys tua miliwn o gopïau unigol o fiwsig, a thua 1,600 o 'deitlau', a bod cyfanswm gwerth ariannol y copïau tua £133,000.

Dywedodd Mr. Ronald Snell wrthyf mewn sgwrs yn Abertawe rhyw dair blynedd yn ôl ei fod wedi methu'n lan â chael cwsmer i'r gerddoriaeth, er ei fod wedi ymgysylltu â phawb y gwyddai ef amdano a fyddai'n debygol o ddangos diddordeb, yng Nghymru ac yn y Merica! Dywedodd hefyd na fyddai'n barod i werthu rhannau o'r casgliad i wahanol gwsmeriaid, ond yn hytrach ei fod yn chwilio am UN prynwr i'r casgliad cyflawn. Pwysleisiai Mr. Snell bod cwmnïau cerddoriaeth yng Nghymru yn wynebu argyfwng gwirioneddol, a methai'n lân â chysoni paham bod llyfrau Cymraeg yn cael y flaenoriaeth ar gerddoriaeth Gymraeg, yn gymaint â bod grantiau hael i'w cael at gyhoeddi'r naill, ond dim cymorth o unrhyw fath at gyhoeddi'r llall.

Cefais air pellach oddi wrth Mr. Ronald Snell i'm hatgoffa bod miwsig Snell yn parhau ar werth, ac mai'r swm yr oedd yn ei ofyn am y casgliad cyflawn oedd £23,000. Cynigiodd wobr o fil o bunnau imi os llwyddwn i gael cwsmer iddo!

Gwn yn dda bod yna amryw o'n sefydliadau cenedlaethol (yn ogystal ag ambell i unigolyn!) sy'n awyddus i brynu'r casgliad, ond mai'r bwgan mwyaf yw y pris! Yn y cyfamser, mae'r copïau yn dal dan glo mewn bocsus pren anferth yn Abertawe. A chan ei bod yn anghyfreithlon gwneud copi o fiwsig, 'does dim gall y sawl sy'n awyddus i brynu copi o fiwsig Snell ei wneud ond byw mewn gobaith.