DYRYS DAITH O GALLIPOLI I GAERSALEM ~
Cledwyn Williams a'r sgwrs rhwyg o golli'r hogiau

PAN DORRODD Y Rhyfel ar y pedwerydd o Awst 1914, 'roedd gan y Fiwsiliars Cymreig (R.W.F.) dair Bataliwn sefydlog:– Y Cyntaf; yr Ail; a'r Trydydd, a phedair Bataliwn o Diriogaethwyr:– y Bedwaredd; y Bumed; y Chweched, a'r Seithfed. Ar y dyddiad tyngedfennol 'roedd y bedair yma yn gwersyllu ac ymarfer yng nghyffiniau Aberystwyth.

'Roedd pawb yn ffyddiog, o wybod am nerth a thraddodiad yr Ymerodraeth Brydeinig na fuasai'r rhyfel yn parhau ond am ychydig fisoedd, ac 'roedd dyhead ymysg y gwŷr ieuanc i fod yn bresennol pan gyhoeddid yr oruchafiaeth. Ymunodd gwirfoddolwyr yn lluoedd i rengoedd y Fiwsiliars, y Barics yng Nghaernarfon oedd y ganolfan leol.

Ffurfiwyd Brigâd o'r newydd; y North Wales Brigade of the Welsh (Territorial) Division, gyda'i phencadlys, a'i chanolfan gweinyddu yn yr Amwythig, ond trwy gydol yr amser bu'r pedair bataliwn o dan awdurdod y ganolfan filwrol yng Nghonwy.

Bu'r Bumed, y Chweched a'r Seithfed yn ymarfer mewn gwahanol wersylloedd ledled y wlad, a ffurfiwyd y 53rd Welsh Division ohonynt.

Yn gynnar yn ystod yr Haf, 1915, cafodd y tair Bataliwn ychydig o wyliau, gan ddeall mai dyna'r gwyliau dwytha, cyn hwylio dros y môr.

Ar ddiwedd y gwyliau, a gan mai o gylch Caernarfon y daethai bron i holl fechgyn y Chweched, a chrynswth o'r Seithfed, casglodd y bechgyn at ei gilydd ar y Maes yn y dref, cyn cerdded i'r Orsaf leol, am y trên.

'Roedd y Maes; y Sgwâr i bobl Caernarfon, yn orlawn; cannoedd ar gannoedd wedi ymgasglu; pob câr a chyfaill, i ffarwelio ac i ddymuno'n dda. Bu canu gwefreiddiol ar alawon Cymreig ac emynau Cymraeg. Cymaint oedd y dorf fel nad oedd modd symud, a dechreuwyd canu; "Tydi'r Sgwâr ddim digon mawr i'n hogia ni" Mae lle i gredu mai o dan yr amodau hyn a'r amgylchiadau yma y canwyd y geiriau gynta'.

O Gaernarfon fe aethant i Swydd Bedford, a buont yn gwersyllu yn Brandon a Rushden.

***

AR Y 14 o Orffennaf, 1915 gadawodd y Bumed a'r Chweched Bataliwn Swydd Bedford am Devonport i hwylio ar yr S.S. Caldeonian, ac ar Orffennaf 17 gadawodd y Seithfed i hwylio ar y City of Edinburgh, ar eu ffordd i Gallipoli yn y Dardanelles. Cyrhaeddwyd traethau'r Dardanelles ar Awst 9fed.

'Roedd yr amodau yn ddifrifol, a bu brwydro caled a ffyrnig. Meddai brawd o Bwllheli wrthyf mewn nodyn:- "It was an ordeal that neither I nor anyone else will ever forget, even if I lived for a thousand years." Cafwyd colledion dirifedi, ac o Gwmni 'A' o'r Chweched Bataliwn, dau ar hugain yn unig a ddaeth allan o'r heldrin yn ddianaf, ar ôl encilio o'r traethau.

Mae'n ddiddorol mai'r cyn-Brif Weinidog, yr Uwch-Gapten Clement Atlee (o'r South Lancashire Reg.) oedd y dwytha ond un i adael traethau y Dardanelles yn yr enciliad.

Cymaint oedd dewrder y Cymry yn wyneb y gelyn fel y gwnaethpwyd trefniadau mai'r Fiwsiliars Cymreig oedd i fod y dwytha i adael y traethau, ac i ymgymryd â'r cyfrifoldeb caletaf mewn unrhyw frwydr, sef dal pwysau trwm yr enciliad. O ail-gloriannu'r sefyllfa, sylweddolwyd ei bod wedi dioddef yn ddifrifol, wedi cael cymaint o golledion ac mewn mawr wendid, fel y trefnwyd iddynt i fod y rhai cyntaf un i encilio, ac ar y 11eg o Ragfyr 'roeddynt yn hwylio am Alexandria.

Buont yn yr Aifft am gyfnod, yn gyntaf yn gwersyllu ym mhentref Wardan ar ochr Afon Neil, ac ymhellach ymlaen yn Zeitoun ger Cairo.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1916 trefnodd yr Uwch Gapten Hamlet Roberts o Benygroes, Arfon (Bargyfreithiwr amlwg ar ôl y Rhyfel ar gylchdaith Caer a Gogledd Cymru, ac a anfarwolwyd gan R Williams Parry) ginio arbennig i'r ddau ar hugain a ddaeth o'r heldrin yn ddi-anaf o dan lywyddiaeth yr Is Filwriad C S Rome, yng ngwersyll Ban Salam, y tu allan i Cairo. Cymraeg oedd iaith y ciniawa - a Chymraeg oedd iaith y fwydlen.

Yn llawer diweddarach, dechreuodd y Ffiwsiliars gerdded o Cantara, ar gyrion Camlas Siwes, gyda un nod arbennig mewn golwg, rhyddhau y Ddinas Sanctaidd Caersalem. Bu brwydro ffyrnig a chaled ar y ffordd, a cholledion mawr, yn enwedig yn nwy frwydr Gaza.

***

AR Y 6ed o Dachwedd bu Brwydr Khuweilfeh, er ceisio ennill Beersheba. Rhaid oedd ennill Beersheba er mwyn sicrhau Ffynhonnau Abraham, gan nad oedd dyfroedd eraill o fewn ugeiniau o filltiroedd. Collodd y meddyg, y Capten John Fox Russell o Gaergybi ei fywyd; bu'n gweithio drwy'r frwydr yn cludo clwyfedigion i ddiogelwch a chael triniaeth feddygol.

'Roedd yn llamu o'r ffosydd yn hollol ddi-hid o'r peryglon o'i amgylch, a phoeni dim am ddiogelwch personol. 'Roedd yn ymgymryd â gwaith oedd tu hwnt i'w gyfrifoldeb, gan fod eraill wedi eu clustnodi i wneud y gwaith. Dyfarnwyd y 'Victoria Cross' iddo, ar ôl ei farw, anrhydedd a oedd yn hollol haeddiannol, gan iddo ddangos dewrder ymhell tu hwnt i'r cyffredin.

'Roedd John T Humphreys o Lanwnda, milwr cyffredin, aelod o'r Chweched, yn gweithio i'r Capten Fox Russell, gan fod ganddo allu arbennig i drin clwyfau. Yn ystod y frwydr 'roedd y ddau ochr yn ochr, a llamodd o'r ffosydd niferoedd o weithiau i gysuro a chludo clwyfedigion.

Dangosodd yr un dewrder â'r meddyg; collodd ei fywyd o dan yr un amgylchiadau; ond yn rhyfedd, ac nid oes eglurhad na chyfiawnhad am hyn, ni dderbyniodd anrhydedd milwrol o gwbl.

Teithiai y Chweched tua blaen y gad yn yr ymdrech i ryddhau Caersalem, gwŷr meirch Awstralia yn unig oedd o'u blaen. Ar ddamwain ildiodd y Ddinas i filwyr o Loegr a oedd, yn digwydd bod yn chwilio am ffynhonnell o ddŵr i'w yfed.

Wedi i'r Twrciaid roddi eu harfau i lawr, marchogodd y Cadfridog Allenby, gyda'i was yn cerdded wrth ei ochr, ar farch gwyn i gymryd y Ddinas Sanctaidd drosodd yn enw Brenin Prydain Fawr. Dysgynnodd oddi ar ei geffyl y tu allan i'r porth, a rhoddodd y ffrwyn i'w was, a cherddodd yn wylaidd a phenisel drwy'r porth, ac i mewn i'r Ddinas.

Ni fynnai farchogaeth i gymryd y Ddinas yn enw yr un brenin, gan y cofiai am Un a oedd yn fwy nag ef o lawer, a farchogodd ar hyd yr un llwybr ar ŵyI arbennig, pan orchuddid y ffordd â phalmwydd. Milwyr o'r Chweched oedd y cyntaf i warchod Porth Java (Jaffa Gatre) ar ôl rhyddhau'r ddinas.

***

'ROEDD y Parch David Williams, M A, (Colegau'r Bala ac Aberystwyth) yn Gaplan gyda'r Tiriogaethwyr Cymreig, y 1st 6th, ac 'roedd yn bresennol ym Mrwydr Khuweilfeh. Ym merw'r frwydr a'r ymladd, gwelodd filwr a adwaenai yn dda, wedi ei ladd. Cafodd y profiad effaith ysgytwol ar y Caplan, rhedodd at gorff y milwr, arfogodd ei hun a'i arfau, a rhuthrodd tuag at linellau'r gelyn.

Yn ffodus, gwelwyd hyn gan un o'r Swyddogion, a llwyddodd, ar ôl cryn drafferth, gan fod y Parch David Williams yn ŵr mor rymus a nerthol i'w ddiarfogi.