PERSONOLIAETH YN Y LLAWYSGRIFEN?
gan Y Ffyretwr Bach

DAETH y cythra'l sgwennu heibio imi'n ddiweddar, sef sgwennu am sgwennu. A, gan fod Cymry Cymraeg yn sgwennu, dyna feddwl am fynd ati i astudio llawysgrifen. Bod yn galiffegwr neu be bynnag y galwch chwi fo - hynny ydy studio ffurf llythrennau a cheisio gweld os ydy arddull ysgrifennol y sawl sy wrthi yn datgelu unrhyw beth am ei bersonoliaeth.

Ond ble i ddechrau. Dichon fod pobl yn y Gymraeg wedi astudio'r maes. Mae digonedd wedi'i sgwennu myntwch chwi am lyfrau. Felly, beth am lawysgrifen.

Wel, allwn i ddim dod o hyd i affliw o ddim byd. Ond darfu imi daro ar un berl. O Cymru'r Plant Hydref 1908 y daw ac mae'n werth dyfynnu, oherwydd hyd oni ddangosir yn wahanol, credaf mai dyma'r unig astudiaeth, os y gellir ei galw'n hynny hefyd, sydd ar gael yn y Gymraeg o'r gelfyddyd sgwennu.

Symbylodd hyn fi i fynd ati i weithredu'n ddi-oed. Bu bron imi roi tudalennau melyn pobl y teliffon ar dân wrth fodio'n wyllt, ond y fath siom a'm harosai. Roedd yr holl astudwyr llawysgrifen wedi cymryd y goes i Loegar.

Sgrifennu at yr arbenigwyr honedig, a mhen hir a hwyr cael yr ateb:

"Sorry, signatures in isolation do not accurately represent the character and personality of the writer."

Fy nghynnig oedd anfon llofnod Bob Owen iddynt heb egluro pwy oedd ac aros gyda mawr ddiddordeb am eu dadansoddiad ohono.

Ond bu i rai cyrff honedig-broffesiynol gynnig telerau ariannol. Iawn Gymry annwyl – os ydych yn graig o arian. Dyma felly'r llofnod hanesyddol o bwys a anfonwyd:

Cynigiodd un ffyrm weithredu am bris eithaf rhad o £40. Roedd TAG at y gost hwn yn ogystal. Fe roddwyd rhif teliffon yn Lloegar y gellid cysylltu ag ef.

Fe ofynnodd ffyrm arall am flaen-dâl o £100 ynghyd â manylion bywgraffyddol ychwanegol am Bob Owen. Roedd Bob yn haeddu mwy meddech, ond gyda'r ffyrm dan sylw roedd rhestr aros faith. Unwaith eto, ysywaeth, yn Lloegar roedd y ffyrm dan sylw.

Ble mae arbenigwyr llawysgrifen yng Nghymru fy ngwlad? Nis gwn. Ond fe wn fod miloedd ar filoedd - wel, un neu ddau efallai - o Gymry sy'n casglu llawysgrifen hwn ac arall.

Os y gellwch fy nghynorthwyo ymhellach drwy fy nghyfeirio at astudwyr llythrennau a llofnodion a ballu yn y Gymraeg, ewch ati i wlychu'ch ysgrifbin. Cofiwch fod yn Y Casglwr gyfle i drin a thrafod.