SGWNER YR HEN WEINIDOG ~ Iona Roberts a stori Y Luther

DECHRAU hel fy achau wnes i yn ddiweddar, ac wedi holi perthnasau a chwilio a chwalu ymysg hen bapurau a dogfennau, tyfodd enwau moel yn gymeriadau lliwgar. Cefais helfa ragorol o hen bapurau, llythyrau a dyddiaduron teuluaidd gan berthynas, ac esgorodd hyn ar ragor o ddiddordeb yn y gorffennol, a gwell darlun o'r cymeriadau.

Un o'r rhain oedd y Parch Griffith Hughes, Glanrhyd, Edern a aned yn 1804 ac a fu farw yn 1884. Trwy y llyfrau, erthyglau, llythyrau a'r dyddiaduron a adawodd ar ei ôl ceir darlun byw, nid yn unig o'i fywyd ef ei hun, ond hefyd o fywyd yr ardal am yn agos i ganrif.

Dyn diddorol iawn ydoedd, yn dipyn o deyrn yng ngolwg rhai o'i aelodau yn y Capel yn Edern lle bu'n weinidog am flynyddoedd. Er hynny 'roedd ochr arall i'w gymeriad.

Mae'n adrodd ambell i stori amdano'i hunan sy'n llawn direidi a doniolwch, fel y tro y bu'n pregethu yng Nghapel Penmount Pwllheli am y tro cyntaf, yn ddyn ieuanc. Teimlai yn nerfus iawn ac fel y pregethai, chwaraeai a'r lamp oel oedd ar astell y pulpud, ac yn raddol dadsgriwiodd honno nes bu bron iddi syrthio i'r set fawr. Y Sul dilynol pan ar ei daith i Bencaerau, daeth yr amgylchiad yn ôl i'w feddwl a gwelodd yr ochr ddoniol o honno.

Mentrodd ar dir newydd fwy nag unwaith hefyd a bu yn ei dro yn llosgi a gwerthu calch ym Mhorthdinllaen, prynu a gwerthu coed a ffermio yng Nglanrhyd yn ogystal â theithio hyd a lled Cymru ac i Lerpwl a Llundain i bregethu ac annerch ar ddirwest. 'Roedd yn danbaid tros ddirwest ac arweiniodd hyn ef i rai trafferthion ar ddechrau ei yrfa fel pregethwr a gweinidog.

Bu bron iddo ag ymfudo i America wedi iddo golli ei wraig gyntaf a'i blentyn bach o fewn llai na mis i'w gilydd, ond dywed fod yr Arglwydd wedi bod yn garedig wrtho trwy roi iddo wraig arall rinweddol a dau o blant.

***

NID FY mwriad yw rhoi hanes bywyd yr hen batriarch, ond hanes llong a adeiladwyd ganddo ar lan y môr ym Mhorthdinllaen yn 1850-1851. Sgwner bren gweddol fechan ydoedd a'r ffaith iddo brynu coed braidd yn ddifwriad ac i'r rheini droi yn golledus a barodd iddo benderfynu ei hadeiladu.

Fel hyn y dywed "Cefais radd o siom yn y coed a brynais yn y Borth, ac arweiniodd hynny fi i feddwl am adeiladu llong o honnynt er mwyn darfod a'r fasnach calch. Byddwn yn darllen llawer am y diwygiad ac o barch i Luther enwais y llestri ar ei enw.

Dyma restr o'r coed a brynodd at y gwaith - Coed Brynodol (fferm yn Llŷn yw hon); Ffawydd coch; Bedw; Derw; Derw America; Ffawydd ac Elm, a'r cyfan yn costio £246.1.1. Mae gweddill costau ei hadeiladu fel a ganlyn.

Gweithio 120 @ 29/- £174.0.0
Cartage a gwaith 15.0.0
Llifio 15.12.6
Haearn, Hoelion etc 13.8.3
Gôf 3.8.3
Oacum, tar resin etc 10.9.9
Lainch etc 4.0.0
Costau yr Hull 482.0.3
Hwyliou a rhaffau 154.0.0
Chaens ac angorion mawr 40.10.9½
Pob math beth eraill 159.6.3
  £835.17.3½

Mae wyth gant a hanner yn swnio'n rhad iawn am adeiladu llong heddiw, ond 'roedd yn dipyn o bris yn y dyddiau hynny, a phoenodd lawer ei fod wedi mentro gormod a pheryglu bywoliaeth ei deulu oherwydd ei bod yn fyd gwan ar longau.

Yna yn 1854 mae pethau'n gwella a dywed yn ei ddyddlyfr. "Trodd y flwyddyn hon yn hynod llwyddiannus i longau oherwydd rhyfel Rwsia a chafodd y Luther dair gwaith y dunnell i Lundain fel y llwyr dalodd fy nyled a'r costau pan gefais denantiaeth Glanrhyd".

Gwelais o'i lyfr cofnodion costau, iddo glirio £320.11.9½ mewn tair blynedd.

***

MAE'N amlwg iddo fod wedi gorffen ei hadeiladu yn gynnar yn 1851 gan fod y cyfrifon yn dangos iddo ei hwylio am naw mis y flwyddyn honno a'i bod wedi cario chwe cargo. Hen daid i fy ngŵr oedd Griffith Hughes, ac yn rhyfedd iawn priod i chwaer hen daid i minnau oedd ei chapten, sef John Williams, Tyn Llan, Tudweiliog.

'Roedd pobl eraill a chyfraniad ynddi mae'n amlwg a John Williams oedd un o'r rheini, ond erbyn 1860 gwelir mai chwarter oedd siâr John Williams a Griffith Hughes yn berchen ar y tri chwarter arall.

Erbyn 1856 mae'r cofnodion yn fwy diddorol a gwelir ei bod yn hwylio i borthladdoedd Llundain, Plymouth, Poole, Amlwch, Lerpwl, Looe a Runcorn, ac yn 1857 cariodd 50,000 o frics o Lundain i Plymouth.

Tradio gylch y glannau yr oedd gan iddi ymhellach alw ym mhorthladdoedd Newhaven, Newcastle a Llanelli hefyd. Bu raid dod a hi i Borthdinllaen i gael ei thrwsio yn 1862 a chael coed o Bwllheli i wneud hynny. Costiodd hyn £141.12.6.

Rhwng cant a hanner a dau gant oedd y cyflogau yn flynyddol a'r bwyd rhyw drigain i bedwar ugain punt. 'Portcharges' oedd y costau uchaf a wynebent bob blwyddyn ond sylwaf na redodd i golled o gwbl. Ar waelod y dudalen am 1865 mae wedi cofnodi fel a ganlyn. "Gwnaed y cyfrif hwn gan fy nhad yn llawn 85 mlwydd oed".

Capten llong y 'Palmyra' oedd ei dad, John Hughes, Cefn Edeyrn, a byddai yn tradio yn ôl a blaen rhwng Lerpwl a Dulun yn ôl ei lythyrau i'w wraig. Felly 'roedd Griffith Hughes yn hyddysg ym mywyd môr.

Yn Ionawr 1859 aeth yr hen weinidog ar daith bregethu i Lundain a bu yno hyd ddechrau mis Mawrth. Mae'n llythyru yn ôl a blaen a'i wraig yn Glanrhyd ac yn gofyn iddi anfon pot o fenyn iddo gyda'r Luther, ond er i'r pot menyn hwnnw fod yn destyn trafod rhwng y ddau ym mhob llythyr, trodd y tywydd yn groes a dywed yn un o'i lythyrau diwethaf cyn dychwelyd adref, "Mae'n amheus gennyf a gaf fwynhau gweld y Luther yma gan fod y tywydd yn ei herbyn, na chwaith gael dim o'r menyn yr ydwyf yn ei fawr chwennych".

***

AR DDYDD Gwener y 4ydd 1870 cafodd y 'Luther' ei tharo gan y stemar 'Bonney' yn afon Lerpwl, ac aeth i lawr mewn ychydig funudau. Anfonwyd gair i Glanrhyd y diwrnod canlynol i hysbysu Griffith Hughes fod yn rhaid iddo dalu am i'r Mersey Dock and Harbour Board symud y sgwner gan ei bod yn berygl i longau.

Dechreuwyd ei chwythu i fyny ar Chwefror 9fed a gorffen y gwaith ar y 12fed. Bu cryn lythyru rhwng twrneiaid y ddau gwmni yswiriant. Samuel Roberts, Bangor a weithredai tros Griffith Hughes a chai anhawster i gael perchenogion y `Bonney' i gydnabod mai hi oedd yn gyfrifol am y ddamwain.

Wedi dadlau a bargeinio hyd fis Awst y flwyddyn honno, dyfarniad Griffith Hughes yn ei ddyddiadur oedd, "Collwyd yr hen 'Luther' ar Chwefror 4ydd ond cawsom dal da amdani". Ni allwn felly ond credu iddo lwyddo yn y dadleuon. Dyna dynged y sgwner fach a fu'n rhan o foddion cynhaliaeth iddo ef a'i deulu am bron i ugain mlynedd.

***

PRIODOL yw sylwi ar ei gerdyn mowrning sydd yn cynnwys y pennill bach syml a thinc morwrol yn rhedeg trwyddo.

Cyfuniad yn wir o'r pregethwr, y dirwestwr, y gweinidog a pherchennog y `Luther'.