YR HEN FFA A ARBEDWYD O'R CORSYDD ~
Diolch i hen gof Gruffydd Parry

TUA CHANOL ail ddegawd y ganrif hon, yr oedd y bachgen ifanc oedd wedi cael swydd fel darlithydd mewn Cymraeg a Lladin yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd, yn dod adre i dreulio misoedd hir ei wyliau haf. Yr oedd yna lythyr wedi dod oddi wrtho fo yn dweud y byddai gofyn cael dwy neu dair silff yn gegin ffrynt i ddal y llyfrau oedd o am ddod efo fo.

A dyna'r sut, am y tro cyntaf erioed, y daeth yna hwda o lyfrau i'r tŷ. A'r rheiny yn rhai sych gynddeiriog a deud y gwir. Amryw byd o rai Lladin. A rhai Saesneg. A'r ychydig rai Cymraeg, i bob golwg, yn gwbl annarllenadwy. Ar wahân i un bach tenau mewn clawr glas.

Barddoniaeth oedd o, a 'doedd barddoniaeth ddim yn apelio yn arbennig at chwaeth un ar ddeg oed. Ac eto ... Yr oedd yno un gân fer o dri phennill gyda'r teitl, 'Cwyn y Gath'. Cath? O wel, ella bod yma rywbeth gwerth ei ystyried.

Tri dosbarth o lyfrau oedd yn bod cyn i'r llyfrau yma ddod o Gaerdydd. Llyfrau capel oedd y cyntaf, yn esboniadau, Rhodd Mam, 'Fforddwr, llyfrau emynau a'r Beibil – pethau i'w hanwybyddu hyd y gellid. Llyfrau Ysgol Penygroes dau frawd hŷn oedd yr ail ddosbarth, Elementia Latina, A Course in Algebra, Junior Chemistry – pethau i'w hosgoi cyhyd ag y gellid. A'r trydydd dosbarth oedd llyfrau diddorol fel Y Llong Lô ac Ynys y Trysor a Nedw – pethau i'w darllen.

Ond bellach yr oedd yna ddosbarth arall, sef y llyfrau y byddai yn rhaid i chi eu darllen os oeddech chi am gael M.A. Ymysg y rheiny yr oedd y llyfr glas. Ffa'r Corsydd oedd y teitl, a'r Ddau Hogyn Rheini oedd yr awduron. Cyfrol o barodïau ydoedd, a'r teitl yn adlais o Plu'r Gweunydd, Iorwerth Peate oedd newydd ei gyhoeddi. A'r ddau awdur – Y Ddau Hogyn Rheini – oedd Caradog Prichard a Thomas Parry.

***

AM NIFER o resymau rhoddwyd gwaharddiad ar Ffa'r Corsydd yn fuan iawn. Dim ond cip-olwg arno fo oedd eisio i weld ei fod o yn gwneud sbort am ben 'barddoniaeth go-iawn'. Yr oedden nhw yn ymylu ar faswedd neu ganeuon llofft stabal. Mewn gair, pethau amheus onid drwg oedden nhw, ac o ganlyniad fe aeth y llyfr glas o dan ddaear y rhagrith biwritanaidd honno oedd yn fwrn ar wên ac yn angau i chwerthin.

Mae'n syndod na fyddai gwegil llawer o'r rhai a fagwyd yn y blynyddoedd hynny wedi mynd yn barhaol stiff gan faint y buon nhw a'u pennau i lawr yn darllen pethau oedd yn cael eu darn guddio dan y bwrdd neu dan y ddesg. Blynyddoedd y jyrsi oeddan nhw, cyn dyfod blynyddoedd y crysbas a phoced cesail ynddo, lle gellid cuddio Wizard a Magnet a chyffelyb eitemau llenyddol eraill ansicir eu dylanwad ar foesoldeb. Ac felly, ar y slei y cafwyd cip cynnar ar Ffa'r Corsydd.

Ar ddiwedd y gwyliau haf hynny, fe aeth yn ôl i Gaerdydd i ganlyn y sychder, a fu o ddim yn 'wyddfodawl' chwedl Caergybi am tua thair blynedd wedyn nes daeth y perchennog a'r awdur rhannol yn ddarlithydd yn y Gymraeg i Goleg Bangor.

Erbyn hynny, a'r jyrsi yn mynd yn grysbas, yr oedd y gwaharddiadau yn llacio mymryn – 'doedd golchi llestri ar y Sul ddim yn rhoi sicrwydd sêt yn fflamau'r tân tragwyddol. Ac yr oedd cerdd am gath, ar batrwm neu ar ffurf dynwarediad o gerdd am ferch yn ddigon doniol.

Felly y lliniarwyd peth ar erwinder y gwaharddiad, er mai goddefgarwch rhannol ac amodol oedd o. Dal i lechu rhwng Llyfr Gwyn Rhydderch a'r pared ar gomin main, yr oedd Ffa'r Corsydd.

Ond yr oedd yna un gynulleidfa oedd yn gwerthfawrogi'r cynnwys, a honno oedd y fintai bach oedd yn cerdded ôl a blaen bob dydd o Garmel i Benygroes – i gael ei disgyblu a'i cheryddu a'i chlustochi er mwyn iddi fod yn addysgedig. Ac yr oedd hi'n werth dysgu ambell i bennill er mwyn cael ei adrodd o i gymeradwyaeth y gynulleidfa honno wrth ddringo adre heibio'r Allt Felen a Chlogwyn Melyn.

***

PAN briododd awdur Ffa'r Corsydd a mynd i fyw i Fangor, aeth y llyfrau i gyd i'r tŷ newydd – a'r gyfrol denau yn ei chlawr glas i'w canlyn. Yng nghornel yr ail silff o'r gwaelod, nesa i'r ffenest yr oedd hi. Ac yr oedd tameidiau o'i chynnwys yr un mor dderbyniol gan las fyfyrwyr. Daeth rhai o'r glas-fyfyrwyr hynny yn olygyddion enwog yn eu tro – i orfodi eu cyfeillion i `gyfrannu'. Yr oedd Sam Jones yn byw dros y ffordd ym Mangor hefyd, ac yr oedd ganddo yntau ddiddordeb mawr, a hynny pan oedd y syniad am y Noson Lawen yn dechrau cyniwair yn ei feddwl.

Ond fe symudwyd y llyfrau unwaith wedyn. I Aberystwyth y tro hwnnw – i Hengwrt i ddechrau ac yna i Blas Penglais ... A dyna'r cownt olaf o Ffa'r Corsydd. Hwyrach ei fod o wedi ymblygu ynddo'i hun a diflannu allan o fod o gywilydd bod mor agos i gyfrolau pwysfawr a dysgedig y Llyfrgell Genedlaethol.

'Doedd o ddim i'w weld wrth edrych o gwmpas pan ddaeth y llyfrau yn eu holau i Fangor beth bynnag. Yr oedd y blynyddoedd wedi mynd wrth eu degau. Rhaid ei fod yntau wedi mynd i'w canlyn ...

Yr oeddwn i wedi bod yn holi ei hanes droeon, a'r ateb, â gwên atgofus fyddai, 'O ia. Ydw 'rydw i'n cofio. Ydi mae'n siwr'i fod o yma yn rwla.' Ateb nad oedd, efallai, yn gwbl nodweddiadol.

Syndod pleserus felly oedd clywed y Dr Derec Llwyd Morgan yn dweud ryw bnawn fod yna gopi o Ffa'r Corsydd yn Llyfrgell y Coleg ac y byddai modd cael ei weld. Trwy gwrteisi awdurdodau'r Llyfrgell, a thrwy garedigrwydd fy chwaer-yng-nghyfraith, dyma felly o'r diwedd, gael fy mhump ar lun o'r Ffa'r Corsydd sydd yn y Llyfrgell ...

***

OND NA! Na, nid y fo ydi o. `Ffa'r Gors' ydi teitl hwn – casgliad o gerddi ar achlysuron a digwyddiadau a throeon gan R T Jenkins, T Hudson Williams, Thomas Richards, Thomas Parry ac eraill. Eithaf diddorol, ac yn ddarlun digon gwerthfawr o ddiddordebau rhai o'r gwŷr oedd yn bwyta'r 'academig dost' yn y tri a'r pedwar degau. Ond dydi o ddim yn yr un byd â Ffa'r Corsydd. Yr oedd yna wefr ieuenctid a llawenydd llencyndod yn hwnnw.

Tybed ei fod o yn hel llwch ar ryw silff yn rhywle? Neu yn swatio mewn bocs? Neu yn cuddio mewn ffeil? Rhag ofn nad ydi o ddim, dyma rai o'r cerddi sydd wedi aros ers dyddiau ysgol. Hwyrach nad ydyn nhw ddim hanner cystal ag yr oeddan nhw yn ymddangos yr adeg honno chwaith ...