YR YMGYRCH I GYRRAEDD MIL
GYDA'R TRYDYDD rhifyn hwn dyma gwblhau'r gyfrol flynyddol gyntaf o'r Casglwr. Llawenydd yw medru dweud fod Cymdeithas Bob Owen yn gadarn ar ei thraed erbyn hyn diolch i bwyllgor ffyddlon a swyddogion brwd a gweithgar. Cododd cylchrediad y Casglwr yn gyson ac yn awr mae'n tynnu at y pum can copi.
Dwy neges ar derfyn ein blwyddyn gyntaf.
I ddechrau mae'r tanysgrifiad o ddwybunt ar gyfer pob rhifyn yn 1978 yn ddyledus. Pan ddaw'r rhifyn nesaf allan ym mis Mawrth mawr hyderir y bydd pawb wedi cofio postio - i arbed arian a thrafferth i'r ysgrifennydd prysur. Anfonwch yn awr (cyn i Si�n Corn fynd i waelod eich pwrs) at Y Parch. Dafydd Wyn Wiliam, Troedlem, Pontyberem, Llanelli, Dyfed. A diolch o galon i bawb.
Yn ail, �rydym yn gwneud ymdrech fawr i godi�r cylchrediad - ei godi i �fil� yw�r nod ar y funud. Felly, yr ydym yn anfon dau gopi o�r rhifyn yma i bob tanysgrifiwr. A dyma�r ap�l - a wnewch chi roi eich copi ychwanegol yn anrheg Nadolig - am ddim - i ffrind, a cheisio ei gael ( trwoch chi yw�r ffordd sicraf) i ddod yn aelod o�r Gymdeithas, talu ei ddwybunt a chael y Casglwr a holl freintiau�r Gymdeithas am y flwyddyn nesaf.
Croesawir pob cyfraniad oddi wrth aelodau a hoffem bwyso arnoch i wneud llawn ddefnydd o�r cyfle i ymholi am gyfrolau neu am awduron neu am unrhyw beth sy�n ymwneud a phethau printiedig (sy�n cynnwys recordiau, mapiau, printiau, lluniau, cardiau etc.)
Un peth arall � Nadolig Llawen. A pheidiwch ag anghofio�r copi ychwanegol yna, os gwelwch yn dda.
Diwedd braidd!
"GADAWYD llyfrgell Cowlyd i dref Llanrwst, a galwyd Glan Menai i wneud rhestr o'r llyfrau. Ond dywedwyd y cymerai flwyddyn i baratoi y rhestr, a bod llawer o'r llyfrau yn ddiwerth. Barnodd y bwrdd lleol yn ddoeth i werthu'r llyfrau diwerth, a phrynu "llyfrau defnyddiol" yn eu lle. Wn i ddim beth yw syniad y cynghorwyr am ysbrydion; ond da fyddai iddynt beidio bod allan yn hwyr y nos rhag iddynt gyfarfod ysbryd Cowlyd."
o'r Goleuad, Awst 25, 1905.
Y nodau'n dal yn fud
Y NEWYDD diweddar o Abertawe yw bod casgliad enfawr Cwmni Snell, sy'n cynnwys tua 1,600 o deitlau a thua miliwn o gop�au o gerddoriaeth Gymreig, yn parhau ar werth.
Ar �l cyhoeddi'r ysgrif yn dwyn y pennawd 'Trychineb Snell' yn ein rhifyn diwethaf, daeth Mr. H. Ronald Snell i gysylltiad �'r Casglwr i ddweud bod Llywydd Cymdeithas Gymraeg Washington D.C. wedi dangos diddordeb yn y casgliad, a'i fod yn awyddus i sefydlu canolfan ar gyfer masnachu cerddoriaeth Gymreig ar raddfa fyd-eang yn U.D.A. Addawodd Mr. Snell ein hysbysu'n ddi-oed pan fyddai'r fargen honno wedi ei setlo, ond ni ddaeth gair pellach oddi wrtho.
Yn yr ysgrif a gyhoeddwyd yn Rhif 2 o'r Casglwr nodwyd mai �23,000 oedd y swm yr oedd Snell yn ei ofyn am y casgliad cyflawn, ac fe ddywedwyd hynny ar sail gwybodaeth mewn llythyr oddi wrth Mr. Snell dyddiedig 26 Chwefror 1976. Ond mewn llythyr pellach oddi wrtho dydd�iedig 11 Medi 1977 dywed mai �400,000 yw gwerth y casgliad cyflawn, ac mai'r pris y mae'n wastad wedi ei ofyn amdano yw �32,000.
Yn �l Mr. Snell, postiwyd miliwn o barseli o gerddoriaeth Snell o Abertawe dros gyfnod o 55 o flynyddoedd, a bydd yn rhaid wrth le sy'n mesur o leiaf 30' x 12' x 10' cyn y gellir storio'r hyn sy'n weddill ac ar werth gan y Cwmni.
Gyda llaw, mae Mr. Snell yn cadw at yr addewid a wnaeth ym mis Chwefror 1976, sef y rhoddir cil-dwrn o fil o bunnau i'r sawl a lwydda i ddod o hyd i gwsmer iddo.