GWEISG PREIFAT ~ Cipdrem gan Thomas Parry

Y MAE'R ymadrodd "gwasg breifat" yn ddigon adnabyddus i bawb ohonom, ac y mae'n debyg y gellid diffinio gwasg felly fel un a sefydlwyd i ryw amcan arbennig, i gyhoeddi math arbennig o lyfrau, neu i roi i'r llyfrau safon arbennig o ddiwyg; gwasg nad yw amodau arferol masnach yn ei rheoli. Ond nid yw hyn yn dal bob tro, ac felly gadawn y diffinio ar hynna.

Y mae'n ugain mlynedd er pan roes yr Athro Geraint Gruffydd inni hanes y wasg ryfeddaf a mwyaf rhamantus a fu yng Nghymru erioed, sef gwasg ddirgel y Catholigion yn ogof Rhiwledin heb fod ymhell o Landudno, lle yr argraffwyd Y Drych Cristnogol Gruffydd Robert, Milan, yn 1587, gan greu'r argraff mai yn Rouen y bu'r argraffu. Yr oedd hon yn wasg breifat ar un olwg - breifat iawn, nes i'r awdurdodau Protes­tannaidd ddod o hyd iddi, ac i'r argraffwyr orfod ffoi.

Nodwedd arbennig y wasg hon oedd ei bod wedi ei bwriadu i argraffu llyfrau o fath neilltuol, sef llyfrau crefyddol dan nawdd yr Eglwys Gatholig, ond un yn unig a welodd olau dydd. Tua'r un adeg y mae'n weddol sicr fod gwasg gudd arall yn nhŷ'r meddyg a'r ysgolhaig hwnnw, Siôn Dafydd Rhys, yn Aberhonddu, ac mai’r un pwrpas oedd i honno.

***

YMHEN rhyw gant a hanner o flynyddoedd dyma ymgais arall i sefydlu gwasg arall gydag amcanion pendant, y tro hwn ym Môn. Yn 1732 cyhoeddodd Lewis Morris ei fod am gychwyn gwasg yn Llannerch-y-medd, yn un path er mwyn cael gwaith i Siôn Rhydderch, y gŵr a fu'n argraffu yn Amwythig am flynyddoedd, ond a oedd erbyn hyn yn hen a thlodaidd ei fyd. Yr oedd Lewis am gael nifer o danysgrifwyr i gyfrannu gini yr un, a phroffid y wasg i fynd i gynnal Siôn Rhydderch, ac ar ôl ei farw ef i sefydlu ysgol a llyfrgell gyhoeddus yn Llannerch-y-medd. Ond ni chaed y gefnogaeth angenrheidiol, a'r peth nesaf oedd bod Lewis Morris yn cychwyn gwasg yn ei dŷ ei hun yng Nghaergybi, ac yn argraffu Tlysau yr Hen Oesoedd yn 1735.

Hwn oedd y cylchgrawn cyntaf yn Gymraeg, os teg ei alw'n gylchgrawn, oherwydd un rhifyn yn unig a ddaeth allan. Ni wyddom beth yn union a fwriadai Lewis Morris i'r wasg fod, ond yn sicr un o'i phrif amcanion fuasai argraffu enghreifftiau o'r hen farddoniaeth Gymraeg, oherwydd dyna a geir yn Tlysau yr Hen Oesoedd, fel y mae'r enw yn awgrymu.

***

Y MAE'N weddol sicr mai er mwyn lledaenu crefydd y mynnodd Howell Harris gael gwasg argraffu yn Nhrefeca, ac eto fe fu yno lawer o argraffu masnachol. Yn wir, un o'r pethau cyntaf a ymddangosodd o wasg Trefeca oedd hysbysiad gan Gymdeithas Amaethyddol Brycheiniog yn 1758 am wobr yr oedd y gymdeithas yn ei chynnig am dyfu rwdins.

Pamffledi crefyddol oedd cynnyrch y wasg am rai blynyddoedd, ond erbyn 1788 yr oedd yno ddigon o fedr ac o adnoddau i argraffu Beibl Peter Williams.

Diddorol iawn yw sylwi mai yn Nhrefeca yr argraffwyd dau rifyn cyntaf a pheth o drydydd rhifyn Y Cylchgrawn Cymraeg Morgan John Rhys yn 1794-5, ac yn rhyfedd ar ryw ystyr yno yr argraffwyd Gardd o Gerddi yn 1790, sef casgliad o farddoniaeth Twm o'r Nant. Llawn mor rhyfedd â hynny yw'r ffaith mai dim ond pump o'r 95 o lyfrau bach a mawr a gyhoeddodd Williams Pantycelyn a argraffwyd yn Nhrefeca, er gwaethaf cyswllt agos Williams a Harris.

***

CYMDEITHAS Amaethyddol arall a gafodd help gan wasg arbennig - a gwasg breifat yn ddiamau oedd honno - oedd cymdeithas Ceredigion. Argraffwyd rhai o'i phethau hi yng ngwasg Thomas Johnes yn Hafod Uchtryd ym mhlwyf Llanfihangel y Creuddyn.

Yr oedd Johnes yn ddigon cyfoethog i allu prynu gwasg a chyflogi dau argraffydd, a hynny'n un swydd er mwyn cynhyrchu ei gyfieithiad ef ei hun o groniclau'r hanesydd Ffrengig, Jean Froissart, gŵr oedd yn byw yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Daeth y gwaith o'r wasg yn bedair cyfrol hardd yn 1803-5, ac aeth y wasg rhagddi i argraffu cyfieithiad o groniclau Ffrangeg eraill yn bum cyfrol.

Y mae un o nodweddion gwasg breifat ar y cyfrolau hyn i gyd, sef safon uchel y gwaith o ran papur, y llythrennau, yr argraffu ei hun, a'r rhwymo. Y tu cefn i waith fel hyn y mae'n rhaid cael cryn gyfoeth.

***

GŴR arall cefnog, nad oedd yn argraffydd ei hun ond a brynodd wasg i bwrpas arbennig, oedd Thomas Jones o Ddinbych, fel y gelwir ef, ond a oedd yn byw ar y pryd yn Rhuthun. Yn 1808 gosododd wasg mewn adeilad a fu unwaith yn lle i fragu, a chan na allai ef ei hun ei defnyddio, cyflogodd ddyn ifanc o Sais wyth ar hugain oed o Gaer o'r enw Thomas Gee fel argraffydd. Hwnnw oedd tad y Thomas Gee arall a ddaeth yn enwog fel sylfaenydd Y Faner ac un o gyhoeddwyr enwocaf Cymru. Ar y wasg honno yr argraffodd Thomas Jones ran o'i gyfieithiad ef ei hun o Y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth gan William Gurnal.

Yna symudodd i fyw i Ddinbych, ac yn 1813 gwerthodd ei wasg i Thomas Gee, a dyna ddechrau'r hyn a adwaenom ni heddiw fel Gwasg Gee. Helaethodd Thomas Gee y wasg a'i gosod ar sylfaen fasnachol sicr. Yr oedd yn ddigon sicr ohono'i hun yn 1828 i gyhoeddi trydydd argraffiad Geiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters yn ddwy gyfrol o dros 1200 o dudalennau. A gwasg ffyniannus a glanwaith ei chrefft fu'r wasg hon byth wedyn.

***

MEWN erthygl yn rhifyn cyntaf Y Casglwr y mae Mr. John Eilian yn dweud pethau heb fod yn ganmoliaethus iawn am Gwenogvryn Evans, a rhoes Mr. Dyfed Evans beth gwybodaeth ddiddorol amdano yn rhifyn diwethaf Y Casglwr. Nid wyf fi'n gwybod digon o lawer am ochr dechnegol argraffu i allu cytuno nac anghytuno â Mr. John Eilian, ond y mae'n werth ymhelaethu ychydig ar yr hyn a gyflawnodd Gwenogvryn Evans, oherwydd gwnaeth gymwynas enfawr ag ysgolheictod Cymraeg.

Ei nod mawr mewn bywyd oedd darparu argraffiadau o'r hen lenyddiaeth Gymraeg, yn rhyddiaith ac yn farddoniaeth, a hynny yn y dull a elwir yn ddiplomataidd, sef defnyddio teip i ddangos natur y llythrennau yn y llawysgrifau a phellter geiriau oddi wrth ei gilydd a nodweddion felly, ac atgynhyrchu tudalen am dudalen fel yn y gwreiddiol.

Dechreuodd ar y gwaith yn 1887, pan oedd yn byw yn Rhydychen, gyda'r Mabinogion o Lyfr Coch Hergest, a Gwasg Clarendon yn argraffu. Daeth y Brutiau yn 1890 o'r un wasg, a Llyfr Llandaf yn 1893 o wasg John Bellows yng Nghaerloyw.

Ond erbyn 1900 yr oedd Gwenogvryn Evans wedi pwrcasu ei wasg ei hun, ac o honno, yn Llanbedrog, Llŷn, y daeth y gweddill o'r llyfrau gwych a gynhyrchwyd ganddo. Gwasg fechan i'w gweithio â llaw ydoedd, ac y mae'n awr yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dyma'r prif lyfrau a argraffwyd gan wasg breifat Gwenogvryn: Llyfr Du Caerfyrddin, Mabinogion y Llyfr Gwyn, Llyfr Taliesin, Llyfr Aneirin, a Bardd­oniaeth y Llyfr Coch. Rai gweithiau yr oedd i'r llyfr amrywiadau o ran papur, ac weithiau o ran plyg, a byddai'r copïau wedi eu rhifo. Yr oedd rhai ohonynt hefyd wedi eu rhwymo yn odidog.

***

Y WASG breifat fwyaf adnabyddus i ni yng Nghymru yw Gwasg Gregynog. Y mae cryn dipyn wedi ei ysgrifennu amdani hi eisoes, megis erthygl Mr. David Jenkins yn rhifyn diwethaf Y Casglwr, lle dangosir beth yw prisiau'r cyfrolau erbyn hyn, ac y mae Mr. Jenkins wrthi'n paratoi cyfrol sylweddol ar hanes y wasg.

Yr oedd gan y ddwy chwaer, Gwendolen a Margaret Davies, a sefydlodd y wasg, gyfoeth yn helaeth, a'u hamcan hwy yn syml oedd cynhyrchu llyfrau cain o ran papur, argraff, rhwymiad a darluniau. Cyflogwyd arbenigwyr ym mhob maes, ac y mae'r gwaith yn rhyfeddol o wych. O'r 42 o deitlau a gyhoeddwyd, wyth sydd yn Gymraeg.

Diddorol yw'r ymgais ddiweddar i ailgychwyn y wasg gyda chasgliad o gerddi y Parch. R.S. Thomas.

***

BU LLAWER un o dro i dro yn gwneud hobi o argraffu. Yn yr erthygl a nodwyd eisoes y mae Mr. John Eilian yn crybwyll Jonathan Ceredig Davies, gŵr a fu unwaith yn genhadwr, ac a gasglodd wasg at ei gilydd ac argraffu, ymysg pethau eraill, ei hanes ef ei hun. Ni welais i ddim o waith y gŵr hwn.

Ond mi adwaenwn un arall cyffelyb iddo, sef W. Gilbert Williams, ysgolfeistr Rhostryfan gynt, a brodor o'r lle. Ganed ef yn 1874, a bu farw yn 1966.

Fel ei frawd, John Williams, Llundain (awdur Hynt Gwerinwr) yr oedd yn dipyn o fardd yn y mesurau caethion, ond nid dyna'i nerth. Arbenigrwydd Gilbert Williams oedd ei fod yn hanesydd Ileol tan gamp. Cyhoeddodd lu o erthyglau yn Cymru o 1907 ymlaen ac yn Yr Herald Cymraeg yn y tri degau ar wahanol agweddau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog, a chasglodd rai ohonynt at ei gilydd yn llyfrau, fel Arfon y Dyddiau Gynt, a gyhoeddwyd yn ddiddyddiad, ond y mae'n debyg mai 1915 neu 1916 oedd y flwyddyn.

Yr oedd ganddo yntau wasg fechan, a byddai'n argraffu ac yn rhwymo llyfrynnau o'i waith ef ei hun ar wahanol bynciau hanesyddol. Tri o'r rhain sydd gennyf fi. Y cynharaf yw Breision Hanes o 1688 hyd 1720, llyfr o 48 o dudalennau, a argraffwyd yn 1928.

Y mae cryn fwlch rhwng y llyfr yna a'r nesaf sydd gennyf fi, sef Betws Gwernrhiw (1945). Hen westy oedd y Betws ar y ffordd rhwng Caernarfon a PhwIlheli, heb fod ymhell o bentref Llandwrog, ac yr oedd unwaith yn lle prysur ac adnabyddus. Gyda greddf y gwir hanesydd daeth Gilbert Williams o hyd i hanes y Betws, a dyna gynnwys y llyfryn.

Llanwnda yn nyddiau'r Weriniaeth yw teitl y trydydd llyfryn sydd gennyf, ac argraffwyd ef yn 1946. Defnydd wedi ei dynnu o gofnodion Sesiynau Chwarter Sir Gaernarfon sydd ynddo. Y mae'n debyg fod Gilbert Williams wedi argraffu mwy na hyn o lyfrau, a da fuasai gwybod amdanynt, os oes rhywun a ŵyr yr hanes.