PWY SYDD HEB DALU AM HWN?

HEN GWESTIWN cas yn y pennawd - ond heb i'r Parch. Dafydd Wyn Wiliam, Tresalem, Pontyberem, Llanelli, Dyfed dderbyn eich dwybunt nid yw'n bosibl cyhoeddi y cylchgrawn hwn. Mae llu ohonoch heb anfon eich tanysgrifiad - ond yr ydych yn derbyn eich copi yr un fath. Am y tro yma'n unig wrth gwrs. Ond gwyddom mai wedi anghofio yr ydych.

Llwyddiant rhannol yn unig a gafwyd wedi anfon dau gopi i bawb amser y Nadolig - yn y gobaith y ceid mwy o aelodau. Cafwyd llawer iawn o addewidion - a hanner cant o aelodau newydd. 'Roedd hynny'n well na dim un - ond nid yn llawer gwell.

Eto, peth braf yw medru dweud ein bod yn talu'n ffordd ac yn edrych ymlaen yn hyderus at ein hail flwyddyn. Ond mwya'n y byd o aelodau newydd a ddeil i ddod atom gorau'n y byd a fydd y gwasanaeth.

Un llwyddiant mawr a fu hybu cyhoeddi'r gyfrol Bywyd Bob Owen gan Dyfed Evans - cyfrol y gwerthwyd yr argraffiad cyntaf i gyd mewn wythnos. Mae ail argraffiad ar y farchnad lle'r ychwanegwyd tudalen o fyw­grafiad Bob Owen. A'r gyfrol wedi ennill gwobr Cyngor Celf­yddydau Cymru am ei bod yn un o gyfrolau gorau'r flwyddyn.

Oherwydd y rhuthro am y gyfrol fe fethodd rhai ohonoch a ymholodd ar y funud olaf a sicrhau'r argraffiad cyntaf. Gofidiwn oherwydd hyn - ni buom yn hollol ddoeth yn ein hymdrech i fod yn gynorthwygar.

Defnyddiwch Y Casglwr, wnewch chi? Ni chodir unrhyw dâl ar aelodau am hysbysebu'ch anghenion. Efallai eich bod yn chwilio am gyfrolau ac efallai fod gennych rai i'w gwerthu neu i'w rhoi. A gwerthfawrogir ymholiadau am wybodaeth am lyfrau, am gylchgronau, am awduron.

A’r angen arall yw - cyfraniadau i’r Casglwr. Y mae pob erthygl a anfonwyd i’r cylchgrawn hyd yn hyn wedi cael ei chroesawu a’i chysodi. Y mae’n rhaid cael mwy na llond pob rhifyn o ddefnydd er mwyn ceisio ei gael yn weddol daclus, yn ôl ei hyd, ar y tudalennau. Golyga hyn ddal rhai pethau tan y rhifyn dilynol. Felly - cyfrennwch, os gwelwch yn dda.