TRYSOR EDMUND JONES gan Trevor Watts

HYD Y GWN i nid oes un casgliad o lyfrau o'i fath a'i werth yn bodoli yn un o Gapeli Cymru â chasgliad llyfrau Edmund Jones, sydd yn cael eu trysori yn festri Ebenezer, Pontnewynydd, Pontypŵl. Yn anffortunus mae'r casgliad wedi lleihau dros y blynyddoedd ond y mae 80 cyfrol gan gynnwys tua 200 o bregethau, 'tracts, a mân bethau eraill wedi aros. Mae amryw o'r llyfrau yn rhai prin, a dim ond 19 sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.

O'r llyfrau Cymraeg dim ond dau sydd wedi aros yn y casgliad, sef, 'Llyfr Gweddi Gyffredin' ynghyd a'r Beibl a'r Apocriffa, a Salmau Edmund Prys' 1678. Hefyd 'Ystyriaethau Dextrelius, wedi ei gyfieithu yn gyntaf yn Saesoneg gan Dr. R. Winterton, ac yr awr hon yn Gymraeg, gan Elis Lewis, o'r Llwyn-gwern, Sir Feirion, ŵr bonheddig. Printiedig yn Rhydychen... 1661'. Mae'r cyfIwyniad i Cathrin Anwyl, unig ferch Sir John Owen o'r Clenennau a Robert Anwyl y Parc.

Yr unig un arall sy'n ymwneud â Chymru yw 'Saints fulness of Joy' - pregeth a draddodwyd wedi rhyddhau Rhydychen 1646, gan Walter Cradock. Yn Saesneg mae'r holl nodiadau llawn weithiau, gan osod ei farc ar bob tudalen. Mae un wedi ei lofnodi wrth ei roi yn rhodd gan John Wesle, tra mae 'Saints security against seducing Spirits' 1652 gan William Ames yn dangos ei ddiddordeb ym myd yr ysbrydion. Ymhlith y pethau yn y gyfrol hon mae 'A Trumpet blown in Zion', 1666, nad oes bosibl gwybod i sicrwydd pwy yw'r awdur.