HEN GEINDER MEWN COCH, GLAS A MELYN ~
Arolwg gan E.D.Jones

SONIAI Syr Owen M. Edwards lawer am gynhyrchu llyfrau cain, ac yn ddiamau gwnaeth lawer i wella chwaeth mewn cyhoeddi llyfrau Cymraeg. Nodwedd arbennig ei gyfraniad ef oedd cynnwys darluniau a threfnu cael rhwymiad syml a destlus i'w lyfrau. Nid oes arwydd ei fod yn poeni llawer am y papur a ddefnyddid. Ei brif amcan ef oedd cynhyrchu llyfrau i symbylu darllen eang. Nid oedd ganddo ddiddordeb mewn argraffu preifat cyfyngedig ar linellau gweisg enwog Lloegr yn ei ddydd.

Yn gymharol ddiweddar y cymerodd pobl Cymru ddi­ddordeb mewn argraffu cain ar bapur gwaith llaw. Gwasg Gregynog a ddug yr elfen hon i ymwybyddiaeth artistig Cymru. Hawdd yw cymryd yn ganiataol na fu dim tebyg tan y cyfnod rhwng y ddau Ryfel.

Ond fe fu Cymdeithas ddethol yn cyhoeddi'n breifat yng Nghymru rhwng 1900 a 1915. Fe ddechreuodd mewn sgwrs rhwng John Ballinger, prif lyfrgellydd Dinas Caerdydd ar y pryd, a'r Llyfrgell Genedlaethol wedyn, a John Humphreys Davies, Cwrt Mawr. Yr oedd yn ofid i John Ballinger nad oedd llyfrau tlws a chain yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg. Yr oedd gan J.H. Davies ddiddordeb mewn llawysgrifau a hen lyfrau. Addawodd John Ballinger fynd yn gyfrifol am drefnu argraffu a chyhoeddi ond i J.H. Davies gymryd y cyfrifoldeb am ddethol a golygu testunau addas.

Cafwyd addewid am gefnogaeth ariannol gan Syr John Williams, yr Athro Edward Anwyl, Dr. J. Gwenogfryn Evans, a oedd ei hun yn cyhoeddi hen lawysgrifau Cymraeg mewn diwyg urddasol, a T.J. Evans, golygydd Celt Llundain. Y chwe gŵr hyn oedd aelodau Cymdeithas Llên Cymru, fel y gelwid hi, a'r bwriad oedd rhannu'r llyfrau arfaethedig rhyngddynt, ond daeth eraill i wybod am y cynllun a chynnig prynu copïau. Felly argraffwyd mwy nag a fwriadwyd yn wreiddiol.

Gan mai yng Nghaerdydd yr oedd John Ballinger nid yw'n ddim syndod mai William Lewis, Heol y Duc, yn y ddinas honno, a ddewiswyd i argraffu llyfrau'r Gymdeithas. Papur J. Whatmore a ddewiswyd, a'i blygu'n bedwarplyg heb docio'r ymylon. Y mae'r llyfrau mewn amlen bapur ychydig yn lletach na chorff y llyfrau.

Ceir tair cyfres yn gwahaniaethu yn lliw'r amlenni. Gellir cyfeirio'n hwylus atynt fel cyfres las, melyn, a choch. Argreffir manylion am nifer a dyddiad argraffu ar gefn dalen deitl pob cyfrol. Y ffurf yn Gymraeg yw 'Argraffwyd yn gyfrinachol dros Gymdeithas Llên Cymru...'

Dyma restr o'r llyfrau yn y tair cyfres. Rhoir y nifer a argraffwyd mewn cromfachau.

Y gyfrol ddwbl hon oedd cyfrol olaf y gyfres a chymerwyd y cyfle i argraffu rhestr o dderbynwyr y cyfrolau yn ychwanegol at y chwech aelod.

Mae hon yn rhestr ddiddorol am ei bod yn dangos pwy a pha ddosbarthiadau o bobl a oedd yn barod i noddi argraffu cain. Ymhlith y deg sefydliad a dderbyniai gopïau yr oedd y Tredegar Workmen's Institute. Pa siawns fyddai gan lyfrau cyffelyb i gael lle heddiw mewn sefydliad o'r fath? A pha beth fu tynged y llyfrau a dderbyniwyd yno gynt? Tri llyfrwerthwr sydd ar y rhestr: Charles Joyce, Casnewydd, y Brodyr Maggs yn Llundain, a W.H. Roberts, Cecil Court.

Ymhlith yr unigolion (87 ohonynt) yr oedd tri Almaenwr, Kuno Meyer, L.C. Stern, a Heinrich Zimmer. Dyma ddetholiad o'r enwau: Daniel Davies, Ton, J. Glyn Davies, Ellis Edwards, C.M. Edwards, A.W. Wade-Evans, E. Vincent Evans, D.G. Goodwin, Gwili, L. Lloyd John, Corwen, M.O. Jones, Treherbert, T. Gwyn Jones, Caer­narfon, Elfed, J.E. Lloyd, Thomas Matthews, John Morris, Llan­sannan, A.N. Palmer, Morris Parry, Elis o'r Nant, Ernest Rhys, John Rhys, W.Ll. Roberts, Pen-y-­bont Fawr, R. Peris Williams, Richard Williams, Celynog , W. Llewelyn Williams.

Llyfrau Saesneg sydd yn yr ail gyfres, ond y maent yn ymwneud a hanes Cymru. J.H. Davies yn sicr a ddewisodd y llyfrau ac ef a ysgrifennodd y rhagymadroddion fel ag i'r gyfres las. Perthyn i'r ail ganrif ar bymtheg y mae'r llyfrau a atgynhyrchwyd.

Un gyfrol yn unig a ymddangos­odd yn y gyfres hon, sef

Hon oedd cyfrol fwyaf trwchus y Gymdeithas, ac y mae'n amlwg y bwriedid iddi fod yn ddechrau cyfres o adargraffiadau o lyfrau emynau.

***

FEL Y gwelir, argraffiadau cyfyngedig oedd y rhain i gyd, eto mae'n ymddangos fod mwy o gopïau wedi eu hargraffu nag a oedd o brynwyr iddynt. Rai blynyddoedd yn ôl fe'u gwelid yn ddigon aml mewn siopau llyfrau ail-law a chredaf i Galloway yn Aberystwyth sicrhau nifer o gopïau. Beth bynnag, gan eu bod yn llyfrau a drysorid, yr oedd y rhai ail-law mor berffaith a rhai newydd. Gellid eu prynu'n rhad, o hanner coron i dri swllt yr un am y gyfres las, ond mwy fel pymtheg swllt am y gyfres goch. Nid ydynt i'w gweld mor gyffredin heddiw. Mae'r cyfresi yn llawn deilyngu sylw casglwyr.

Yr oedd Thomas Shankland yn un o dderbynwyr y llyfrau, a chystal cyfeirio yma at ddwy gyfrol unffurf a'r gyfres goch, a olygodd ef ar ran Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, y byddai'n werth eu casglu gyda llyfrau Cymdeithas Llên Cymru.

Ni roddir manylion am y nifer a argraffwyd o'r ddau lyfr hyn, ond y mae'n rhesymol dadlau fod ychydig dros ben aelodaeth Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr ar y pryd wedi eu hargraffu.