PE CAWN I HWN ~ Margaret Pritchard yn troi'n farus

AI BOD yn farus a fyddai gofyn am ganiatâd i newid un gair ac ysgrifennu'n hytrach "Pe Cawn i'r Rhain? "  Yn un peth, ni byddai'r gair 'hwn' yn ramadegol gywir, fe fyddai raid ei newid i 'hon' gan mai ysu am gael dramâu a wnaf, nid un ond pedair ohonynt. Ni wnâi un fy nhro - barus neu beidio, pedair neu ddim.

Y dramâu sydd gen i dan sylw ydyw dramâu'r Dr. Kate Roberts - ie, ei dramâu! Mae i'w storďau a'i nofelau eu priod le anrhydeddus ar fy silff lyfrau ond ni welais erioed gopďau o'i dramâu. Cyhoeddwyd 'Y Fam', y gyntaf ohonynt, gan Cardiff: Educ. Publ. Co. a dwy arall gan 'Welsh Outlook Press, Y Dref­newydd'. Ni wn i sicrwydd a gyhoeddwyd y ddrama olaf set 'Ffarwel i Addysg' gan mai teip­ysgrif a nodir ar ei chyfer.

Yn y bywgraffiad ar ddiwedd y gyfrol deyrnged, dywedir mai bwriad ysgrifennu'r dramâu oedd codi arian ar gyfer cysuron i’r milwyr ac mai Betty Eynon Davies oedd yn bennaf gyfrifol amdanynt.

Beth bynnag am hynny, ni allaf yn fy myw gredu na fyddai ôl stamp y Dr. Kate Roberts arnynt os oedd a wnelo hi â hwynt o gwbl. Yr hwyl a'r diddordeb fyddai cael gafael arnynt i chwilio a dyfalu ai ar y cynllunio, y gymeriadaeth neu'r iaith y byddai ôl y stamp hwnnw.

Ar yr olwg gyntaf, mae hi'n syn meddwl mai cyfraniad i ddrama a wnaeth hi gyntaf fel llenor, yn hytrach nag i'r stori fer. Yr un mor syn, eto ar yr olwg gyntaf, yw mai comedďau oeddynt gan mai dwyster yn hytrach na doniolwch bywyd yw defnydd crai ei storďau. Fodd bynnag, o ddarllen dau bortread ohoni gan gyn-ddisgybl a chydathrawes, nid yw'n syndod o gwbl iddi ysgrifennu drama a honno'n gomedi.

***

YN ÔL tystiolaeth Olwen Samuel, yr oedd hi'n athrawes "gyda'r asbri hwnnw sydd yn gwefreiddio a'i diwydrwydd hwyliog, " oedd un o'i nodweddion amlycaf. Pan lwyfannid drama yn yr ysgol, hi (a hynny'n annisgwyl i mi) oedd y prif golurwr. Yn ei gwaith gyda Cymrodorion y Plant, fodd bynnag, hi fyddai cynhyrchydd y dramâu.

Mwy diddorol fyth yw cyfeiriadau Winifred Rees, ei chyd-athrawes at ei diddordeb mewn drama. Dyna un o seiliau eu cyfeillgarwch oherwydd aent yng nghwmni ei gilydd i'r theatr yng Nghaerdydd lle byddai'r Dr. Kate Roberts yn "bywhau'r gwerth­fawrogiad o ddrama" iddi.

Difyrrach fyth oedd darllen amdani'n cymryd rhan yn nramâu'r staff ar ddiwedd tymor ac, ar un achlysur, "yn clwydo'n beryglus ar ben tŵr go amaturaidd wrth chwarae Sister Anne ar wyliadwriaeth am Bluebeard."

Ond eto, nid oes fawr ddim o sôn am ddylanwad drama arni yn 'Y Lôn Wen'. Yn y bennod ar ei mam, crybwyllir ganddi y gwelid ambell ddrama yn y pentref, ond nid ai ei mam i'w gweld am fod yn well ganddi fyw ar ei dychmygion. Er hynny, o'i chyfaddefiad ei hun, gan ei mam yr etifeddodd ei dawn i greu deialog - mewn stori. Mae hi'n amlwg na roddai hi unrhyw bwys ar ei hymdrechion i ysgrifen­nu drama.

***

BOED HYNNY fel y bo, wrth gofio am a ddywed am ddylanwad ei mam arni hi a'r teulu, ai hap a damwain oedd mai 'Y Fam' oedd teitl y ddrama gyntaf honno yn 1920? Drama oedd honno ac nid comedi. Diddorol fyddai cael ei ddarllen i weld a oedd rhyw awgrym o fam y llenor ym mam y ddrama. A oedd honno hefyd, tybed, yn "gymeriad cymhleth ac anghyson"? A oedd honno, fel Catrin Roberts, yn ddewr ac yn dosturiol, yn ffraeth ac yn ymchwilgar ei meddwl? A oedd honno yn mwynhau doniolwch ystum fel y gwnâi Catrin Roberts wrth gofio am bobl Thibet yn mynegi eu diolch gyda'u bodiau i fyny a'u tafodau allan?

Beth bynnag am fam y ddrama, mae i fam y Dr. Kate Roberts, ddiddordeb dihysbydd i mi am ei bod yn fam i'r llenor yn ogystal ag i'r plentyn. Ganddi hi, yn ôl pob golwg, y cafodd ei chraffder i adnabod pobl ac i ddadelfennu cymeriad a hynny "heb flewyn ar ei thafod". Ynddi hi, hefyd, yr egniodd y dycnwch di-ildio a etifeddodd, nid yn unig y Dr. Kate Roberts ei hun, ond ei chymeriadau mwyaf cofiadwy yn ogystal.

Ei drama olaf oedd "Ffarwel i Addysg", drama wedi ei hysgrifen­nu, mae'n bur debyg, pan oedd hi ei hun yn ffarwelio â bod yn athrawes. Beth oedd y thema tybed? I ble y cyfeirid y pigiadau a geid mewn comedi? Sut y blagurodd ffrwyth ei phrofiad hi ei hun?

Ond yn bwysicach na dim, nid ar y cyd yr ysgrifennwyd y ddrama yma. Ei gwaith hi ei hun oedd hi. Nid yn Aberdâr y lluniwyd hi chwaith, ond flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1932 i fod yn fanwl, ar ôl iddi briodi ac ar ôl iddi brofi ei dawn fel awdur stori fer yn "O Gors y Bryniau" a "Rhigolau Bywyd" a threiddio i fyd plentyn yn Deian a Loli a Laura Jones.

Felly yr oedd y theatr yn dal i'w herio a hithau wedi mynd ati i ysgrifennu comedi mewn tair act. Cyn belled ag y gwyddys, dyma ei hymdrech olaf ym myd y ddrama ac o'r herwydd, fe ddylai ei darllen fod yn ddadlennol.

Pori mewn anialwch, meddwch, fyddai hynny, gwastraff ar amser gyda phorfeydd mor welltog i’w cael yn ei storďau a'i nofelau. Efallai. Cofier hefyd na chrybwyllodd neb y dramâu yn y gyfrol deyrnged, tystiolaeth derfynol nad oes bwysigrwydd iddynt. Efallai eto. Ar wahân i’r ddrama olaf, ei hunig amcan oedd gwneud cyfraniad ymarferol a chymdeithasol wrth helpu i'w cynllunio. Digon teg.

***

ER GWAETHAF hyn i gyd, fe rown y byd am eu cael. Yn un peth, fe awn ar fy llw, nad ysgrifennodd y Dr. Kate Roberts yr un gair yn ei bywyd yn ddifeddwl. Mae geiriau'n gig a gwaed iddi. Pe cawn i’r dramâu, fe'u cribiniwn yn ofalus i chwilio am ei chyfraniad hi. A welwn i ynddynt y priod-ddulliau a'r ymadroddion tafodieithol sydd yn nodwedd mor iraidd o'i gwaith? Wrth ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa yn y De, a ddefnyddiai hi rai a glywsai hi gan ei disgyblion? Yn ôl Olwen Samuel, fe fyddai hi'n eu holi'n bur ddygn ar y pwnc.

A welwn i eiriau bachog i oleuo cymeriad yn neialog y dramâu? Os felly, dyna gyfraniad y Doctor Kate Roberts. Digon gwir y byddai nifer o berlau gwerthfawr y storďau ar ddisberod, y cyflwyniad cryno, y datblygu cytbwys a'r cloi celfydd wrth roi; darlun cyflawn a threiddgar o fywyd. Ai dyna'r rheswm iddi droi ei chefn ar y ddrama, cael ei chyfyngu wrth gyflwyno ei darlun, a oedd pall ar wreichion mewn deialog, ai seren gynffon oedd drama iddi, wedi'r cwbl?

Pe cawn i’r rhain, efallai, pwy a ŵyr, y cawn i ateb i rai cwestiynau sydd yn fy ngoglais i ers pan sylweddolais i mai dyna gynhyrchion llenyddol cyntaf y Dr. Kate Roberts. Er anhawsed ei dychmygu fel prentis, hyd yn oed yn arbrofion ei phrentisiaeth,

"Hysbys y dengys y dyn (a'r ddynes) o ba radd y bo'i wreiddyn."