RHYFEDDODAU YR HEN LANC gan Elisabeth Ingman

 

 

PWY A fedyddiodd Daniel Owen? Pwy oedd gwrthrych dienw `Darlun' Daniel Owen yn ei lyfr 'Y Siswrn'? Onid ydych yn gwybod mae'r atebion i'w cael mewn llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi gan Gyngor Gwasanaethau Gwir­foddol Clwyd. "Hyd yma..." yw ei deitl ac ar drothwy ei drydydd Jiwbili mae Capel Soar, Nercwys, ger Yr Wyddgrug yn cofnodi peth o hanes Methodistiaeth yn yr ardal.

Dipyn o fenter i Gapel Soar gyda 50 o aelodau yw argraffu 500 o gopïau o'r llyfryn ond mae Elisabeth Ingman wedi llwyddo i wneud y llyfryn yn hynod o ddiddorol i bawb sydd yn ymddiddori mewn hanes Methodistiaeth neu yng nghyfnod a chymeriadau Daniel Owen.

Nid gwaith un person yw'r holl ymchwil sydd yn amlwg yn y llyfr. Bu tri chwilotwr wrthi yn casglu ffeithiau hanesyddol dros y misoedd diwethaf a llwyddasant hefyd i ddarganfod perthynas i'r hen batriarch John Dafis, Nercwys (1799-1879) i ysgrifennu peth o'i hanes.

Perthynai John Dafis i gyfnod y pregethwyr teithiol ac fel hen lanc yr oedd yn gallu teithio llawer iawn gan wybod fod yr Achos yn Nercwys yn ddiogel yn nwylo George Ingman a'r blaenoriaid. eraill. Yn ystod ei yrfa pregethodd 20,127 o weithiau, traddododd 640 o ddarlithiau, bedyddiodd 1,381 a theithiodd 223,581 o filltiroedd yng Nghymru a Lloegr.

***

YR OEDD John Dafis yn bregethwr doniol iawn ac mae Charles Hogg yn adrodd amryw o storïau am ei atebion parod. Dywedir iddo fod yn boblogaidd iawn gyda'r merched ond serch hynny llwyddodd i osgoi'r allor. Holwyd John Dafis, fel pob hen lanc, gan nifer o bobl a fynnai wybod pa bryd yr oedd am briodi ac yr oedd ganddo ateb parod bob amser a dyma ddau ohonynt: "Mae fy mam yn fyw eto ac yn gofalu amdanaf yn dda iawn a liciwn i mo'i digio hi er dim" a thro arall...

"Pe buaswn i'n priodi mi fuaswn yn plesio un ond buaswn yn digio llond gwlad."

Aeth si o gwmpas un tro fod John Dafis wedi priodi a dywedodd rhywun wrtho yr hyn a glywsant. Ateb John Dafis oedd hyn:

"Mi glywais innau hynny hefyd ond mi wyddwn pan glywais mai celwydd ydoedd!" Cyfrannodd John Dafis yn helaeth at lenyddiaeth y cyfnod trwy'r cylchgronau crefyddol a thrwy gyhoeddiadau eraill hefyd:

Bydd y llyfr ar werth ym mis Medi ac os ydych yn dymuno cael copi anfonwch £1.50 (i gynnwys cludiant) at y Cyhoeddwyr, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Clwyd, Ffordd yr Orsaf, Rhuthun.