Y BERSONOLIAETH WEDI EI STAMPIO ~ Difyrrwch Meic Stephens

 

RWYF WEDI bod yn casglu stampiau ers blynyddoedd bellach. Paham? Dwn i ddim, a dweud y gwir. Mae pawb yn gwirioni yn ei ffordd ei hun, yn ôl pob sôn.

Pethau bach tlws yw stampiau, llawn o ddiddordeb celfyddydol a hanesyddol. Ac maent yn cadw eu gwerth yn rhyfeddol. Ond nid dyma'r rhesymau paham rwy'n casglu stampiau. Wel, paham? Doedd dim diddordeb gennyf pan oeddwn yn fachgen. Ai dychwelyd i'm llencyndod yr wyf? Debyg iawn. Mae pob dyn yn casglu rhywbeth neu'i gilydd, fel y gwyddoch. Balchder eiddo - hwnnw ydi o!

Nid wyf yn casglu stampiau o bob gwlad, wrth reswm. Rhaid arbenigo. Dim ond stampiau Ewrop sydd o ddiddordeb i mi. Mae gennyf rai miloedd ohonynt erbyn hyn, fel y mae pob bachgen bach yn ymffrostio. Ond y rhai sydd yn cael lle arbennig yn fy nghasgliad yw'r rhai sydd yn dangos portreadau o bobl. Nid er mwyn eu rhinweddau ffilatelig - y dyfrnodau, y dileadau, y rhydylliadau ac ati - rwy'n casglu'r stampiau hyn (er ei bod yn rhaid gwybod rhywfaint am bethau felly), ond am eu bod nhw'n adlewyrchu y gymdeithas a'r cyfnod y maent yn perthyn iddynt.

Oriel fach o bortreadau o wleidyddion, gwyddonwyr, arlunwyr, awduron, cerddorion, milwyr a gwladgarwyr yw fy nghasgliad i mi, a phob un a'i nodyn esboniadol i ychwanegu at y pleser o'i fwynhau o dro i dro.

Yn y modd hwn rwyf wedi dod i adnabod cannoedd o bobl a gyfrannodd i wareiddiad Ewrop. Dyma enghraifft o'r Eidal - Grazia Deledda (1871-1936), y nofelydd o Sardinia a enillodd y Wobr Nobel yn 1926. Braidd yn debyg i waith Kate Roberts, yn fy marn i, yw nofelau Grazia Deledda. Darllenwch Cenere, La Madre, ac Elias Portolu. Maent yn llawn o dlodi a thynghediaeth a rhyw fath o ddewrder cyntefig.

Fe argraffwyd y stamp hwn yn 1971 ar achlysur canmlwyddiant geni Grazia Deledda. Nid yw yn berthnasol i'r casglwr wrth reddf mai dim ond pum ceiniog yw ei werth yn ôl catalog Stanley Gibbons. I mi mae'n werth cymaint â'm stamp drutaf.